Wrn colerog, dechrau’r Oes Efydd
Wrn colerog, dechrau’r Oes Efydd
Disgrifiadau
Wrn colerog, dechrau'r Oes Efydd Bwlch-y-Rhiw, Gwynedd 2000 - 1500 CC Daw enw'r gwrthrych hwn o'r 'goler' lydan o gwmpas yr ymyl. Yn yr achos hwn mae'r goler wedi'i haddurno gan linellau llorweddol wedi'u gwneud â chortyn troellog. Mae gwddf yr wrn hefyd wedi'i addurno fel hyn. Mae rhes o siapiau hirgrwn o gwmpas ysgwydd yr wrn, ac maent yn debyg i fwclis gâi eu gwisgo yn y cyfnod. Mae fel pe bai'r potyn yn cynrychioli person ac yn 'gwisgo' mwclis. Cafodd yr wrn hwn ei ddarganfod wrth aredig, mewn cist garreg fechan wrth ymyl gweddillion person hŷn na 40 oed oedd wedi'i amlosgi. NMC acc. no. 59.72/1
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment