Riley's tumulus Early Bronze Age beaker
Disgrifiadau
Bicer, dechrau’r Oes Efydd
Carnedd Riley, Merthyr Mawr, Pen-y-bont ar Ogwr
2250 - 1950 CC
Ym 1904 aeth Mr William Riley o Ben-y-bont ar Ogwr ati i ‘gloddio’ tomen gladdu ym Merthyr Mawr. Dadorchuddiodd sawl claddedigaeth mewn beddau carreg gyda biceri ynddynt, ac aeth John Ward, curadur yr Amgueddfa Genedlaethol, i ymweld â’r safle’n fuan wedyn.
Gwnaeth Mr Ward frasluniau o’r domen gladdu a llwyddodd i daflu rhywfaint o oleuni ar natur y cloddiad ond yn anffodus ni allai ddweud pa ficer oedd yn perthyn i ba fedd.
Mae darn mawr ar goll o’r bicer ac ni chafodd ei ddarganfod yn ystod y cloddio. Mae’n bosibl fod y rhan hon wedi cael ei chadw gan y galarwyr fel trysor neu at ddiben arall. Câi crochenwaith wedi’i falu’n fân ei ychwanegu at y clai yn aml iawn wrth wneud potiau newydd – mae hyn yn golygu y gallai potiau fod yn perthyn i’w gilydd, yn union fel pobl.
Mae’r addurn ar y pot hwn wedi’i greu drwy endorri llinellau i’r clai. Câi’r llinellau wedyn eu llenwi gydag asgwrn wedi’i losgi a’i falu’n fân er mwyn creu dyluniad coch a gwyn trawiadol.
NMW acc. no. 19.65/2
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment