Bicer, dechrau’r Oes Efydd
Bicer, dechrau’r Oes Efydd
Disgrifiadau
Bicer, dechrau’r Oes Efydd
Riversdale, Llandaf, Caerdydd
2250 – 2050 CC
Ym 1991 cafodd bedd carreg (neu gist) ei ddarganfod yn ystod gwaith adeiladu. Roedd y bedd yn cynnwys gweddillion menyw oedd yn 46 oed pan fu farw. Roedd y bicer hwn wrth ei hymyl yn y bedd ynghyd â mynawyd efydd (offeryn tyllu) a naddyn fflint.
Mae wedi’i addurno gyda dyluniad cymhleth yn defnyddio crib mân. Yn wreiddiol, roedd y band plaen o gwmpas canol y potyn a’r trionglau diaddurn o gwmpas y gwaelod wedi eu duo er mwyn tynnu sylw at y dyluniad.
NMC acc. no. 90.10H
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment