Bicer, dechrau’r Oes Efydd
Disgrifiadau
Bicer, dechrau'r Oes Efydd Capel Groeswen, Eglwysilan, Caerffili 2250 - 1950 CC Cafodd y bicer hwn ei ddarganfod ym 1950 gan ffermwr wedi i'w aradr daro maen capan bedd carreg (neu gist). Aeth Hubert Savoy o'r Amgueddfa Genedlaethol ati i archwilio'r safle, ond ni ddaeth o hyd i unrhyw arwydd fod twmpath neu garnedd wedi'i chodi dros y bedd. Roedd y bicer wedi cael ei osod yn unionsyth yng nghornel de-ddwyreiniol y gist. Yr unig olion claddu oedd ychydig ddarnau o asgwrn oedolyn wedi'i amlosgi. Mae arwyneb y bicer wedi'i addurno gyda chortyn troellog mewn siâp cynrhon. Caiff hyn ei wneud drwy lapio cortyn wedi'i blethu o amgylch ei hun, cyn ei bwyso mewn i'r clai. Roedd y cortyn a ddefnyddiwyd ar gyfer y bicer hwn yn hynod o fain ac yn awgrym o'r tecstilau safonol y gallai pobl yr Oes Efydd ei gynhyrchu. Mae'r patrwm troellog hefyd yn awgrymu gwaith basged - efallai fod hyn yn fwriadol. NMW ac. no. 50.295
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment