Llun Ysgol gynradd, Blaenau Ffestiniog
Disgrifiadau
Ydych chi yn y llun yma? Neu a ydych chi'n adnabod rhywun sydd? Ydych chi'n cofio ble na phryd cafodd y llun hwn ei dynnu? Neu sut mae pethau wedi newid?
Fel rhan o raglen Estyn Allan yn Blaenau Ffestiniog mae ffotograffau o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol a gymerwyd gan Gwilym Livingstone Evans o Blaenau Ffestiniog yn cael eu hail-ymweld a hwy, ac rydym angen eich cymorth chi i ychwanegu atynt. Mae llond llaw o ffotograffau yn cael ei rhyddhau gan Casgliad y Werin Cymru er mwyn gofyn am eich help.
Os oes gennych unrhyw atgofion o'r ffotograffau beth am gymryd y cyfle i rannu gyda ni drwy adael sylw?
Digwyddiad Estyn Allan
Bydd staff o'r Llyfrgell Genedlaethol a Casgliad y Werin Cymru yn ymweld â Neuadd Sefydliad y Merched, Wynne Avenue sr dydd Sadwrn, 22 Chwefror 2014. Dewch I'n gweld rhwng 10yb a 3yh.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth - http://www.llgc.org.uk/index.php?id=5234&L=1
©Llyfrgell Genedlaethol Cymru
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
Sylwadau (2)
Submitted by Andies1958 on Maw, 31/12/2013 - 16:05
Ysgol Gynradd Tanygrisiau.
Submitted by Mwills33 on Iau, 10/05/2018 - 19:20
Mr Richard Glyn Williams (Barlwyd Teras) ar y chwith gyda dwylo wedi croesi, ag eu ddwy ferch ‘Gillian Edwards’ ag ‘Wendy Jones’ o’i flaen.
Mrs Edith Haton yn ochor Mrs Gladys May Williams yn canol tua at y cefn.
‘Aunty Megan’ sydd drost ffordd I Post Tanygrisiau. Mrs Iona Cross yn blentyn bach ar y blaen. Nifer iawn o wynebau, gormod yw enw’i. Bobol da Tanygrisiau.
You must be logged in to leave a comment