Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ydych chi yn y llun yma? Neu a ydych chi'n adnabod rhywun sydd? Ydych chi'n cofio ble na phryd cafodd y llun hwn ei dynnu? Neu sut mae pethau wedi newid?
Fel rhan o raglen Estyn Allan yn Blaenau Ffestiniog mae ffotograffau o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol a gymerwyd gan Gwilym Livingstone Evans o Blaenau Ffestiniog yn cael eu hail-ymweld a hwy, ac rydym angen eich cymorth chi i ychwanegu atynt. Mae llond llaw o ffotograffau yn cael ei rhyddhau gan Casgliad y Werin Cymru er mwyn gofyn am eich help.
Os oes gennych unrhyw atgofion o'r ffotograffau beth am gymryd y cyfle i rannu gyda ni drwy adael sylw?
Digwyddiad Estyn Allan
Bydd staff o'r Llyfrgell Genedlaethol a Casgliad y Werin Cymru yn ymweld â Neuadd Sefydliad y Merched, Wynne Avenue sr dydd Sadwrn, 22 Chwefror 2014. Dewch I'n gweld rhwng 10yb a 3yh.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth - http://www.llgc.org.uk/index.php?id=5234&L=1
©Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (2)

Andies1958's profile picture
Ysgol Gynradd Tanygrisiau.
Mwills33's profile picture
Mr Richard Glyn Williams (Barlwyd Teras) ar y chwith gyda dwylo wedi croesi, ag eu ddwy ferch ‘Gillian Edwards’ ag ‘Wendy Jones’ o’i flaen. Mrs Edith Haton yn ochor Mrs Gladys May Williams yn canol tua at y cefn. ‘Aunty Megan’ sydd drost ffordd I Post Tanygrisiau. Mrs Iona Cross yn blentyn bach ar y blaen. Nifer iawn o wynebau, gormod yw enw’i. Bobol da Tanygrisiau.

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw