Panel Sir Gár
Disgrifiadau
Yng nghanol panel Sir Gâr mae’r Hen Dderwen, arwyddlun traddodiadol Sir Gaerfyrddin, a grëwyd o amryfal beli o wlân a deunyddiau â gweadau gwahanol a chorc wedi’u hychwanegu i roi gwead
cherfwedd. Ar y goeden mae tri gair dwyieithog sy’n crynhoi aelodau SyM ac yn adlewyrchu ymgyrch farchnata o’r 1980au. Crëwyd y geiriau gan ddefnyddio ffabrig Aida lliw hufen a dau liw coch i’r geiriau Saesneg a dau liw gwyrdd i’r geiriau Cymraeg. Mae’r ddwy iaith ar y faner hefyd yn cydnabod lansio S4C, y sianel deledu Gymraeg, yn 1982, a mabwysiadu polisi dwyieithog gan
FfCSyM-Cymru yn 1984, y sefydliad cyntaf yn y sector gwirfoddol i ddatblygu Cynllun Iaith Gymraeg.
Yn dod allan o ganghennau’r goeden mae gwahanol ymgyrchoedd a phrosiectau y bu SyM yn ymwneud â hwy yn ystod y degawd. Mae gan y gangen uchaf ar y chwith erwyddi cerddoriaeth Early one Morning a gomisiynwyd yn arbennig gan FfCSyM, gyda geiriau ac alaw gan y cyfansoddwr Anthony Hopkins. Mae’r darn yn disgrifio bywydau merched yn y gymdeithas gyfoes. Mae gan y darn adar cân, wedi’u gwneud o leiniau, sy’n hedfan i’r erwyddi cerddoriaeth mewn cortyn s-lon o un o’r canghennau, ac mae cleff y trebl wedi cael ei greu o frêd kumihino.
Mae’r crëyr, a wnaed o sidan a gafodd ei fondio a’i frodio â llaw gyda chymysgedd o edafedd, megis silko, gyda phwythi brodio gan gynnwys pwyth pryf / pluen, pwyth syth a phwyth ôl, yn hedfan uwchben y dderwen ac yn cysylltu’r amgylchedd cyfan o’r ddaear i’r wybren.
O’r gangen uchaf ar ochr dde’r goeden mae corn llawnder. Mae’r corn yn cynrychioli Eisteddfod Cymru Gyfan 1985 a drefnwyd gan FfCSyM-Cymru, lle daeth aelodau ynghyd i fwynhau ychydig o gystadlu cyfeillgar. Mae’r llysiau a’r ffrwythau’n adlewyrchu’r ymgyrch bwyta’n iach a ddeilliodd o gynhadledd ar faeth yng Ngholeg Denman yn 1980. Y deunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer y corn llawnder yw ffelt, melfed, cotwm i’r moron, sidan, gwau i’r betys, a jersi i’r genhinen gyda glud wedi’i ychwanegu i galedi’r defnydd a gleiniau i’r cyrens duon a’r mwyar. Mae’r corn yntau hefyd wedi cael ei bwytho a’i addurno â gleiniau i bwysleisio ei siâp.
Gan fynd yn ôl draw i’r chwith gwelwn Fws Hyrwyddo SyM a aeth ar daith o gwmpas Cymru a Lloegr am naw mis yn 1984, gan ymweld â 200 o drefi a dinasoedd. Tynnodd sylw at y sgiliau y gellid eu dysgu gyda SyM, gan ganolbwyntio ar addysg, iechyd a bywyd cyhoeddus. Mae’r ffenestri ar y bws yn cynrychioli ychydig yn unig o’r lliaws o weithgareddau oedd ar gael i’r aelodau feithrin sgiliau newydd mewn meysydd fel technoleg gwybodaeth. Gwnaethpwyd y bws gan ddefnyddio lliain, cotwm, ffelt, neilon a ffelt ffabrig a wnïwyd gyda’i gilydd.
Gwnaethpwyd y gweithgareddau a ddangosir ar y bws mewn brodwaith du a defnyddiwyd
pwythau picot ar gyfer yr ymylon.Gyferbyn â’r bws mae’r ferch yn y wisg Gymreig wedi’i gwneud o wlanen draddodiadol o Gymru, ffelt a les yn coffau prosiect treftadaeth Y Wisg Gymreig y
cymerodd pob ffederasiwn yng Nghymru ran ynddo yn 1981. Roedd y prosiect yn golygu olrhain hanes y wisg Gymreig, dylunio a gwneud gwisg wedi’i seilio ar un o dair thema; gwisg alwedigaethol wledig, gwisg cymeriad lleol o hanes neu un a wisgwyd gan ddosbarth penodol mewn hanes. Mae’r ferch hefyd yn cynrychioli Gŵyl Ddrama FfCSyM Scene ‘80 - A Festival of Creative Entertainment a oedd yn un o’r digwyddiadau mawr yn 1980. Yn dilyn 62 o wyliau ledled y wlad, cymerodd aelodau o naw ffederasiwn ran yn y rownd derfynol dri diwrnod o hyd a berfformiwyd yn theatr y Cwmni Royal Shakespeare yn Stratford-upon-Avon. SyM Llandybie o ffederasiwn Sir Gâr oedd y buddugwyr.
Yr adeilad ar y gangen olaf ar y chwith yw swyddfa Ffederasiwn Sir Gâr yng Nghaerfyrddin a brynwyd yn 1981 gydag arian a godwyd gan yr aelodau. Roedd hyn yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes Sir Gâr. Mae’r tŷ wedi’i wneud o ffabrig Aida a’i addurno gyda brodwaith du drosto gydag un llinell fach o bwyth croes; nodwch y blodau bach yn y ffenestr o edafedd pinc a melyn.
Oddi ar y gangen olaf ar y dde mae trên wedi’i gwiltio â llaw yn llawn aelodau SyM, sy’n dwyn i gof atgofion melys o wibdeithiau diwrnod y ffederasiwn pan gâi trên ei logi a byddai cannoedd o aelodau’n teithio pellteroedd mawr. Rhwymiad bias du yw’r ffenestri ac mae’r ffigyrau ffelt yn gwisgo hetiau ffelt wedi’u brodio a’u pwytho â llaw.
Cafodd y llinell amser ei phaentio â llaw mewn lliw porffor a’i gorchuddio â shiffon llwyd a’i brodio â pheiriant gan ddefnyddio cymysgedd o edafedd, gan gynnwys edau fetelaidd i gael effaith ychwanegol. Ar y llinell amser mae car wedi’i wneud â ffelt coch, gwyn a du, sidan tryloyw coch ac edau du, sy’n taro yn erbyn postyn ac sy’n cynrychioli’r ymgyrch Peidiwch ag Yfed a Gyrru a
seiliwyd ar gynnig oddi wrth SyM Pen-bre, Ffederasiwn Sir Gâr yn 1988 a bwysodd am gyflwyno profion anadl ar hap i yrwyr neu’r rheiny sydd â gofal cerbydau modur.
O dan y llinell amser cynrychiolir tri maes oedd yn peri pryder i aelodau SyM o ran materion amgylcheddol. Yn 1987 arweiniodd ymgynghoriad helaeth â’r aelodau at Bolisi Cefn Gwlad cynhwysfawr gan SyM ar adeg pan oedd y llywodraeth yn cynnig newidiadau mawr ym mhatrwm amaethyddiaeth a defnydd tir gwledig. Dangosodd sut y byddai’r newidiadau hyn yn effeithio ar wasanaethau gwledig, cadwraeth y dirwedd, bywyd gwyllt a’r pridd. Darlunnir hyn gan gennin Pedr a dail gwyrddion mewn shiffon, brodwaith peiriant a rhuban. Yn 1988 ymgyrchodd aelod o SyM Pen-y-fai, Ffederasiwn Morgannwg, i achub coetir lleol, ac yn 1989, gyda phryder mawr, tynnodd cynnig gan SyM Genau’r Glyn, Ffederasiwn Ceredigion, sylw at ddatgoedwigo wyneb y ddaear a’i
ganlyniadau trychinebus a phwysodd ar unigolion a sefydliadau i wneud popeth a allent i ddarbwyllo’r Llywodraeth o’r angen i atal y niwed sylweddol oedd yn cael ei wneud i gydbwysedd ecolegol ein planed.
Darlunnir hyn gan ddail sy’n pydru a dail sy’n troi o wyrdd i frown ac yna llwyd a du ac yn
syrthio i’r dŵr. Gwnaethpwyd y dail o shiffon, wedi’i bwytho a’i losgi, melfed, gwau, crosio,
gleiniau a metel. Y dŵr yma, mewn ffeltio â nodwydd, ffelt ac organsa, yw afon Tywi sy’n llifo trwy Gaerfyrddin. Mae angen dŵr ar gyfer bywyd iach a chynaliadwy ac mae’n cynnal y pysgod a’r adar sydd wedi’u cynrychioli yma gan wniadwaith wedi’i wneud o hen dei, sydd wedi’i baentio’n las a’i wnïo gydag edafedd melyn a du, a chrëyr, aderyn a welir yn aml yn pysgota ar hyd afon Tywi, a wnaed gan ddefnyddio ffelt, paent glas, glud ac edau du.
Yn gysylltiedig â’r afon mae’r cwrwgl, cwch pysgota traddodiadol a wnaed gyda gwiail helyg ac a ddefnyddiwyd yn ardal Caerfyrddin am ganrifoedd. Gwnaethpwyd y cwrwgl gan ddefnyddio ffelt du a ffabrig tryloyw du, a hen ddarn o ffabrig yw’r pysgodyn yn y cwrwgl. Mae gan y ffigwr het wellt ddu a fflîs glas tywyll, a ffelt llwydfelyn yw ei ddwylo a’i wyneb. Mae’n defnyddio pren cebab a darn bach o bren i badlo ei gwrwgl.
Mae’r bocs o boteli ymysg y dail yn dyst i waith caled a brwdfrydedd aelod o SyM Tremont, Ffederasiwn Powys Maesyfed, a arweiniodd at sefydlu’r Banc Poteli cyntaf yn y sir yn Llandrindod. Y broses a ddefnyddiwyd wrth wneud y darn hwn oedd lluniadu siapiau poteli ar Bondaweb® ac yna eu smwddio ar wahanol ffabrigau ysgafn a rhoi wadin y tu ôl iddynt i roi trwch i’r poteli. Wedyn cafodd y poteli eu gwnïo â phwyth igam-ogam gyda pheiriant a’u torri allan i’w gosod ar y bin.
Yn y gornel isaf ar y dde mae carreg fedd wedi’i gwneud o biwter a’i boglynnu â’r gair AIDS. Gwnaethpwyd y lilis yn ymyl y garreg fedd o sinamay, glud, gleiniau a gwifren. Yn 1986 pasiwyd cynnig gan SyM Crucywel, Ffederasiwn Powys Brycheiniog, yn pwyso ar yr aelodau i gefnogi ymgyrch yr Adran Iechyd i roi gwybod i’r cyhoedd y gwir ffeithiau am y clefyd AIDS. FfCSyM oedd un o’r sefydliadau cyntaf i sôn am AIDS a defnyddiodd ei rwydwaith dihafal o sefydliadau lleol i addysgu’r cyhoedd ac annog pobl i drafod y mater. Cymerodd aelodau SyM ran yn ymgyrch y llywodraeth i godi ymwybyddiaeth, a hefyd ymatebasant i her y BBC o’r enw
Face up to AIDS trwy drefnu cyfarfodydd cyhoeddus.
Ar fathodyn y ffederasiwn mae cenhinen Bedr sydd, ynghyd â’r lliwiau coch, gwyrdd a gwyn yn cynrychioli Cymru a’i hiaith a’i diwylliant. Gwnaethpwyd y bathodyn mewn ffelt, organsa coch, sidan crai lliw aur, satîn gwyrdd tywyll, satin gwyn a Bondaweb® ac amrywiaeth o edafedd.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment