Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae’r panel olaf yn cynrychioli dyfodol SyM a rhoddwyd cyfle i bob aelod o Ffederasiwn Powys
Maesyfed frodio rhywbeth ar y panel. Mae’r geiriau, sy’n ymledu o’r canol satin lliw aur mewn
brodwaith llaw ac appliqué, sef teulu, plant a chartref, yn coffau gweithgareddau, gobeithion a
chyflawniadau SyM.
Mae’r panel yn dathlu popeth sy’n bwysig i SyM heddiw ac wrth fynd ymlaen i’w ganrif nesaf. Mae’r gair ‘future’ mewn eurwaith ar groen llo ar y llinell amser yn cynrychioli gobeithion a dyheadau’r sefydliad.
Mae’r panel hwn yn crisialu amrywiaeth y sefydliad, corff sydd â’i wreiddiau’n ddwfn mewn cymunedau ond sydd hefyd â phersbectif byd-eang ar faterion o bwys. Darlunnir hyn gan yr awyr sidan wedi’i baentio â llaw, gyda chortynnau lliw aur ac arian, wedi’u gosod gyda phwythau gorwedd, sy’n cynrychioli pelydrau’r haul yn ymledu ymlaen ac i fyny i alaethau wedi’u gwneud
o gromliniau wedi’u pwytho gyda gleinwaith ar y sidan a’r les, ac i lawr at gefn gwlad Sir Faesyfed lle mae’r bryniau wedi’u brodio â llaw ac â pheiriant gan ddefnyddio edafedd cotwm a gwlân ar ffelt wedi’i wneud â llaw a’i baentio, gyda gleinwaith a rhwydwe yn cynrychioli afon a rhaeadr. Mae’r defaid wedi’u brodio gan ddefnyddio cylymau bwlion, mae’r gwartheg mewn appliqué wedi’i frodio â llaw, ac maent yn sefyll o flaen ysgubor a wnaed o les Mam-gu. Mae pyffiau Suffolk yn cynrychioli’r blodau yng ngardd y tŷ fferm.

Mae’r adeiladau ar waelod y panel yn cynrychioli cymuned drefol a gwledig gyda phensaernïaeth
o’r 1800au i’r adeilad tra modern sy’n cynrychioli 2015 ymlaen. Mae’r tai o 1910 gyda thair simnai
a’r byngalo o’r 1920au wedi’u brodio mewn pwyth croes mân, gyda blodau mewn gwaith ffeltio
â nodwydd yn yr ardd a thros y llinell amser gydag ymylon crosio.
Mae gan y tŷ pâr mewn brodwaith â llaw a gwaith appliqué forder bach mewn smocwaith llaw sy’n
cynrychioli cennin Pedr o Gymru; mae’r bloc o fflatiau o’r 1960au mewn ffabrig appliqué ar galico
gyda brodwaith llaw i’r lein ddillad a dysgl lloeren wedi’i gwneud â pheiriant. Mae Coleg Denman mewn brodwaith du. Darlunnir yr adeilad tra modern mewn ffabrig metelaidd lliw arian â phlastig clir drosto i gynrychioli gwydr, ac mae rhuban sy’n cynrychioli cerrig wedi’i wnïo ar ben â pheiriant. Mae coeden mewn ffabrig treuliedig gyda ffens ar y chwith, ac mae’r coed uwchben
wedi’u crosio.
Mae’r barcud sydd wedi’i frodio mewn pwyth satin a phwyth hir a byr yn cynrychioli’r amgylchedd
ac yn hedfan i fyny o fathodyn y ffederasiwn tuag at ddiwylliant a chymuned, trwy eiriau sy’n dangos diddordebau SyM.
Mae’r llinell amser clytwaith yn cynrychioli mynd yn ôl at y pethau sylfaenol, sy’n dod yn bwysig ar adegau o lymder, ac yn rhedeg i ffwrdd i’r dyfodol, gan gymysgu â deunydd pefriol lliw aur ac arian gan ddefnyddio crefftau sy’n creu diddordeb o’r newydd ar hyn o bryd yn Ffederasiwn Powys Maesyfed a’r tu hwnt.
Mae bathodyn y ffederasiwn wedi cael ei wneud gan ddefnyddio brodwaith llaw ac appliqué ar satin ar ffurf cylch gyda WI yn y canol ac enw’r ffederasiynau o’i gwmpas.
Dyluniwyd y bathodyn yn y 1980au mewn ymateb i gystadleuaeth gan ffederasiwn y sir.
Wedi’u darlunio ar banel Ffederasiwn Powys Maesyfed mae’r themâu sydd wedi aros yn ddigyfnewid yn ystod 100 mlynedd oes SyM; poeni am yr amgylchedd, cynhyrchu bwyd, iechyd, addysg a sgiliau traddodiadol i enwi ond ychydig. Mae’r materion a adlewyrchir yn y themâu hyn yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddent 100 mlynedd yn ôl. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn fygythiad i’r amgylchedd, mae’r ffordd y cynhyrchir bwyd wedi newid yn ddirfawr gyda mwy o fewnforion, mae gwasanaethau iechyd yn dal i beri pryder mawr ac mae addysg i oedolion o dan fygythiad, fel y mae rhai o’r sgiliau crefft traddodiadol.
Mae un edefyn bythol yn rhedeg drwyddynt i gyd, sef cyfeillgarwch, cymuned a chymorth a’r ffordd y mae merched, wrth gydweithio, yn gallu creu newid. Bydd cyfraniad merched wrth gynnal eu teuluoedd a’u cymunedau, y newid yn eu rolau, a nodi materion sy’n bwysig i ferched, yn sefyll prawf amser.
Bydd cryfder a bywiogrwydd SyM a gweithredu cadarnhaol gan ei aelodau, fel y’u darlunnir dros y can mlynedd diwethaf yn y paneli hyn, yn dal i fod yn bwysig ac yn werthfawr wrth i’r sefydliad symud ymlaen i’w ganrif nesaf.
Mae’r dyfyniad canlynol gan y Dywysoges Alexandra, oedd yn aelod o SyM, wrth iddi annerch y
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mehefin 1961, yn crynhoi popeth sy’n dda am Sefydliad y Merched:‘Un o bleserau mwyaf ein haelodaeth o SyM yw, beth bynnag fo ein hoedran, rydym yn dal i edrych ymlaen, dysgu a chynllunio pethau newydd a gwell.
Gwerth a phwysigrwydd enfawr ein sefydliad gwych yw’r budd a ddaw i gymunedau lleol o’r cynigion sy’n cael eu trafod.’

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw