Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Er i lawer o ymgyrchoedd yr 1970au barhau i ganolbwyntio ar fywyd cefn gwlad, pasiwyd cynigion oedd yn effeithio ar faterion ehangach hefyd. Yn 1974 cofnodwyd y nifer fwyaf erioed o SyM, sef mwy na 9,000.
Yn weddol agos at ganol y panel mae cromlech Pentre Ifan, Trefdraeth, Sir Benfro, mewn appliqué a brodwaith. Mae’r llinell amser sy’n mynd o amgylch y panel mewn clytwaith llinyn yn cynnwys
y gwahanol ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd a ddangosir ar y panel.

Ar frig y panel yn y canol, mewn gwaith collage ac appliqué, ceir cynnig 1974 yn annog y llywodraeth i sefydlu polisi cenedlaethol i gydgysylltu a datblygu’r gwaith o adennill, ailgylchu ac ail-ddefnyddio elfennau gwastraff y cartref a gwastraff diwydiannol.
I’r chwith ac i’r dde o’r cynnig, ceir darluniadau o gynnig 1977, yn annog y llywodraeth i roi mwy o flaenoriaeth i ymchwil ar ffynonellau ynni adnewyddadwy. Yn 1978, cynhaliwyd cynhadledd ‘Ynni Heddiw ac Yfory’ gan FfCSyM, mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill i ferched. Canolbwyntiodd y trafodaethau ar lai o danwyddau ffosil yn y dyfodol a’r angen i’w disodli’n raddol gyda meintiau cyfatebol o ynni amgen, yn hytrach nag ynni niwclear. Mae’r simneiau
diwydiannol mawr a’r twll glo, o frodwaith peiriant, yn cynrychioli ‘Ynni Heddiw’, a’r olygfa gyfarwydd o dyrbinau gwynt, paneli solar ac ynni’r môr, o frodwaith peiriant a ffeltio â nodwydd, yn cynrychioli ‘Ynni Yfory’.

Ar y chwith i’r gromlech, mae symbolau’r rhywiau gwryw a benyw mewn pwyth croes yn
cynrychioli cynnig Ffederasiwn Sir Fôn yn 1972 i’w gwneud yn orfodol yn hytrach nag yn ganiataol i bob awdurdod lleol ddarparu gwasanaeth cynllunio teulu di-dâl. I’r dde, dangosir arddangosfa grefftau fawr, Tomorrow’s Heirlooms, a ysbrydolwyd gan Laura Ashley ac a gynhaliwyd yn Sefydliad y Gymanwlad yn Llundain, gan ddefnyddio nifer o dechnegau gan gynnwys appliqué, gwneud ryg clytiau, clytwaith a phwyth croes.

Oddi tano, gwelir prosiect Ffederasiwn Powys Maesyfed ar enwau caeau, a dyfodd yn 11 cyfrol ac a enillodd wobr Cefn Gwlad Tywysog Cymru yn 1970, yn ystod Blwyddyn Gadwraeth Ewrop. Mae’r cyfrolau wedi’u gwneud o appliqué a brodwaith.

Yng nghanol y panel, ceir delwedd ffotograffig o Goleg Denman, o droslun smwddio gydag
appliqué, clytwaith troi a phwytho a brodwaith. Mae’n darlunio agor y Ganolfan Addysgu ac Adeiladau Brunner yng Ngholeg Denman gan y Fam Frenhines yn 1970. Oddi tano i’r chwith, mae’r gegin mewn appliqué a brodwaith, yn darlunio agor y Ganolfan Economeg y Cartref gan y Frenhines yn 1979.
Wedi pasio cynnig yn 1972 yn gofyn am roi blaenoriaeth uchel i ddarparu addysg feithrin i bob
plentyn, daeth FfCSyM yn aelod o elusen Chwarae Teg i Blant. Ei pholisi oedd sefydlu cynghorau
chwarae ledled y wlad. Mae’r teganau plant yn rhoi lliw i’r panel, mewn technegau fel appliqué,
tapestri a brodwaith.

Mae’r darn ar ochr dde’r panel mewn appliqué a brodwaith yn cynrychioli bryniau’r Preseli ac yn
awgrymu arddangosfa’r Jiwbilî Deimwnt yn 1975 a gynhaliwyd gan FfCSyM, sef This Green and Pleasant Land. Roedd yr arddangosfa yn adlewyrchu’r pryderon am faterion amgylcheddol ac yn codi cwestiwn am ddyfodol cefn gwlad. Hefyd ar achlysur Jiwbilî Deimwnt SyM, gwahoddwyd Llywyddion o bob Sefydliad i Barti Gardd ym Mhalas Buckingham, a gallwn ddychmygu’r hetiau
gwahanol a welwyd yno gyda’r hetiau appliqué a brodwaith hyn gyda Phalas Buckingham yn y
cefndir. Mae’r gwahoddiad mewn caligraffi ar felwm.

Ar waelod y panel ar y dde, gwelir prosiect dwy flynedd a gynhaliwyd ar y cyd gyda Kellogg’s,
sef Good Health is Good Fun, oedd yn tynnu sylw at broblemau gordewdra. Cerddodd aelod o Swydd Buckingham 259 o filltiroedd i Liskeard yng Nghernyw gyda’i chi Labrador du i gefnogi’r ymgyrch.

Mae’r panel wedi’i wneud mewn appliqué.

Yn 1978, dangosodd cynnig bryder dwys yr aelodau am y peryglon i fywyd morol o orddefnyddio a llygredd, a phwysleisiodd y dylid monitro effaith y rhain yn agosach a’u rheoli’n rhyngwladol. Mae’r olygfa hon mewn ffeltio â nodwydd yn symbol o rai o’r lliaws o nodweddion sy’n gwneud Sir Benfro’n lle mor arbennig. Mae bathodyn Sir Benfro wedi’i wneud o appliqué a brodwaith.
Mae’n dangos cenhinen Pedr Dinbych y Pysgod wedi’i brodio mewn pwythau satin hir a byr yn ei
ganol. Mae coeden SyM o boptu iddi. Mae ‘Pembrokeshire’ wedi’i frodio mewn edau arian ar hyd brig y cylch glas, a ‘Sir Benfro’ ar hyd y gwaelod.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw