Skip to main content

Panel Meirionnydd Gwynedd

Disgrifiadau

Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer panel Gwynedd Meirionnydd o’r patrymau haniaethol a ddefnyddiwyd i ddylunio ffabrig yn y 1950au. Ynghyd â’r siapau amlwg a’r lliwiau llachar, roedd coch, du a gwyn yn cael eu defnyddio’n helaeth, ac roedd llawer o siapau wedi eu hoffsetio’n afreolaidd ar gefndiroedd gwyn neu liw. Daw llawer o’r dyluniadau a ddefnyddiwyd o bosteri gwreiddiol y 1950au.

Mae’r llinell amser yn dechrau yn 1950 yng Nglan-llyn. Prynwyd yr adeilad hwn a ddarlunnir mewn pwyth croes, i fod yn safle parhaol ar gyfer cyfarfodydd Urdd Gobaith Cymru. Yr Urdd yw’r sefydliad mwyaf i blant a phobl ifanc yng Nghymru ac mae’n rhoi cyfle iddynt ddysgu a chymdeithasu yn Gymraeg. Uwchben delwedd Glan-llyn ceir panel o frodwaith Assisi sy’n cydnabod yr Eisteddfod Genedlaethol gwbl Gymraeg gyntaf yn 1950.

Erbyn 1951 roedd blychau planhigion metel yn nodwedd boblogaidd o’r cartref cyfoes, a chafodd y gwaelod lamp metel mewn brodwaith ac appliqué ei fodelu ar y Skylon a grëwyd ar gyfer Gŵyl Prydain 1951 sy’n cael ei goffau mewn Bondaweb® ac appliqué yng nghornel uchaf y panel ar y chwith. Cafodd Gŵyl Prydain ei dathlu’n frwd gan yr aelodau gyda phasiantau, gwyliau ac arddangosfeydd crefft yn cael eu cynnal ledled y wlad. Un o hoff arddangosfeydd yr aelodau oedd murlun The Country Wife, a ddyluniwyd gan Constance Howard. Bu aelodau’n helpu i greu’r murlun hwn oedd yn dangos pentref cyfan, ynghyd â llawer o weithgareddau traddodiadol SyM. Yn y flwyddyn hon hefyd daeth Eryri’n Barc Cenedlaethol, ac mae arwyddlun y parc wedi’i wneud mewn pwyth croes.

Un o gynhyrchion enwocaf y 1950au oedd roc a rôl a ddangosir mewn appliqué a brodwaith yn y montage hwyliog hwn o’r Tedi Boi a enwyd ar ôl y brenin Edward VII, a’r dawnswyr roc a rôl gyda’r ferch mewn sgert lawn gyda nifer o beisiau o dani. I’r dde mewn brodwaith, gwelir bathodyn Cymdeithas Rheilffordd Tal-yllyn; ystyrir yn gyffredinol mai hwn yw’r corff gwirfoddol cyntaf yn y byd i redeg rheilffordd. Yng nghornel y panel mewn pwyth croes, gwelir Edmund Hilary a Sherpa Tensing yn dringo Everest yn 1953.

Yng nghanol y panel y tu mewn i’r llinell amser, gwelir coroni Elizabeth II yn Abaty Westminster yn 1953. Roedd cynulleidfa o 8,000 yn Llundain ac fe’i gwyliwyd gan 25 miliwn o bobl ar y teledu. Anfonodd yr Arglwyddes Brunner, Cadeirydd FfCSyM ar y pryd, neges at y Frenhines oddi wrth aelodau SyM yn addo cynnal ac anrhydeddu’r Goron sydd heddiw ar ben Brenhines mor ifanc a hyfryd. Mae’r ddelwedd mewn brodwaith.

Yn is i lawr ar ochr dde’r panel, mae’r ddwy ferch mewn gwisg steilus yn dathlu ffasiynwyr fel Dior, Chanel a Hartnell a ddaeth yn boblogaidd wedi i ffasiynau iwtalitaraidd y rhyfel ddod i ben. Buont yn cynhyrchu dyluniadau a oedd yn agoriad llygad, fel siacedi clustogog oedd yn pwysleisio’r fynwes a’r cluniau.

Pan ddaeth y system dogni i ben, roedd digonedd o ddefnydd ar gael ar gyfer ffasiwn newydd y sgert lawn. Gwisgai merched hetiau a menig fel gwisg dydd ffurfiol o hyd, gyda chyfwisgoedd fel sbectol haul yn fwy crand. Roedd delweddau gwyddonol yn ysbrydoliaeth bwysig i ddylunwyr y 1950au ac mae’r darn nesaf o ddyluniad ffabrig mewn appliqué a brodwaith gan t feldman, wedi’i ysbrydoli gan foleciwlau. Yn 1955 sefydlwyd y grŵp Cadwch Brydain yn Daclus, yn dilyn cynnig a basiwyd gan aelodau yn y flwyddyn flaenorol. Er na fu’n llwyddiannus yn ei gais i ddod o hyd i gyllid tan 1958, penderfynodd pwyllgor gweithredol FfCSyM weithio yn ôl ei adnoddau. Daeth yr Arglwyddes Brunner yn gadeirydd cyntaf y Grŵp ac fe’i lleolwyd yn swyddfa FfCSyM tan 1961 pan ddaeth yn annibynnol a symud i Brighton. Mae’r Grŵp wedi’i ddarlunio mewn appliqué, brodwaith peiriant a collage. Oddi tano ceir sampl arall o ddyluniad tecstil gan David Parson o 1955 o’r enw cynffonau barcud, ac yna dyluniad o blât, y ddau mewn appliqué a brodwaith. I’r chwith o’r dyluniadau ceir dathliad o 6ed Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 1958, lle bu llawer o aelodau SyM yng Nghymru yn stiwardiaid. Mae hwn yn waith codi, pwyth croes ac appliqué. Mae’r faner Gymreig sy’n chwifio, mewn appliqué ac eurwaith, yn cydnabod bod y Frenhines wedi’i gwneud yn faner swyddogol Cymru yn 1959.

Gan groesi’r llinell amser i’r gornelwaelod ar y dde, y ddelwedd gyntaf, mewn appliqué tu chwith, yw logo Blwyddyn Ffoaduriaid y Byd. Ei diben oedd datrys, unwaith ac am byth, problemau cymdeithasol gwaethaf y bydsef y gwersylloedd ffoaduriaid. Cododd SyM a ffederasiynau bron £75,000. ‘Mabwysiadwyd’ teuluoedd o ffoaduriaid gan lawer, a hyd yn oed gwersylloedd cyfan gan rai, a pharhawyd i’w cefnogi am nifer o flynyddoedd. Oddi tano mae logo’r Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (CND) mewn appliqué a sampl arall o ddefnydd yn dangos siapau haniaethol wedi’u hoffsetio mewn gwyn mewn appliqué a brodwaith peiriant.

Mae’r trên ar waelod y panel mewn appliqué a brodwaith peiriant yn dynodi estyn llinell Rheilffordd Ffestiniog o Harbwr Porthmadog i Dan-y-bwlch yn 1958. I’r dde, ceir collage brodwaith sy’n darlunio’r ffaith bod y prinder coed ar ôl y rhyfel wedi peri i ddylunwyr arbrofi â metelau a phlastigau, gan arwain yn y pen draw at lunio’r cadeiriau modernaidd a’u gwaelodion ar ffurf Tŵr Eiffel. Yn ystod y 1950au hefyd gwelwyd datblygiad ceginau gosod a theclynnau arbed gwaith, gyda’r peiriant golchi dillad yn un o’r eitemau mwyaf dymunol a chostus. Yn 1952 cafodd aelodau SyM Tremont yn Ffederasiwn Powys Maesyfed arddangosiad peiriant golchi yn un o’i gyfarfodydd misol. Erbyn diwedd y 50au, y peiriant ‘dau dwb’ oedd y peth o ran moethusrwydd, a gwerthwyd
blychau o bowdr golchi a starts mewn pecynnau lliwgar er mwyn denu gwraig y tŷ. Gwelir yr eitemau hyn ar hyd gwaelod y panel mewn appliqué a brodwaith.

Uwchben bathodyn y ffederasiwn ceir dyluniad haniaethol o flodau ar gyfer defnydd llenni mewn appliqué a brodwaith, ynghyd â dau ddyluniad plât, y dyluniad du a gwyn ‘homemaker’ mewn brodwaith a’r plât ‘chequers’ gan Terence Conran mewn appliquéa brodwaith o 1957. Uwchben y rhain ceir clawr cylchgrawn y New Scientist, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1956, mewn appliqué a brodwaith. Yn y flwyddyn hon cynhaliodd Coleg Denman gwrs ar Science and Ordinary People ar gyfer aelodau pwyllgorau’r siroedd ac eraill oedd yn barod i ennyn diddordeb yn y pwnc yn eu siroedd. Roedd y darlithoedd yn ymdrin â defnyddio ynni atomig yn heddychlon, cemeg a thrydan, a daeth FfCSyM yn aelod corfforaethol anrhydeddus o Gymdeithas Prydain er Hyrwyddo Gwyddoniaeth.

Uwchben ac islaw’r llinell amser mewn brodwaith, ceir dau bennill o ‘Meirion’ gan WA Williams, a genir yng nghyfarfodydd misol Gwynedd Meirionnydd, y gyntaf yn Gymraeg a’r ail yn Saesneg. Mae bathodyn y ffederasiwn mewn petit point yn cynrychioli “Tra Môr, Tra Meirion”, yn ogystal â thair gafr, sy’n frodorol i’r sir.

Owner:
SyM Meirionnydd Gwynedd WI
Crëwr:
SyM Meirionnydd Gwynedd WI
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2015
Eitem wedi’i llwytho:
28/5/2015
Gwelediadau:
1131
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment