Panel Gwynedd Caernarfon
Disgrifiadau
Defnyddiwyd lliwiau o’r oes a fu i wneud panel Gwynedd Caernarfon, i adlewyrchu’r cyfnod mae’n ei gynrychioli. Mae’r cefndir gweadog yn cynnwys cyfryngau cymysg gan ddefnyddio ffabrigau gwahanol, ac yn dangos caledi amser rhyfel pan oedd pobl yn gorfod clytio a thrwsio. Mewn cyferbyniad, mae’r pabïau wedi’u ffeltio sydd ar hyd y faner yn symbol o’r Rhyfel Byd
Cyntaf.
Yn y gornel uchaf ar y chwith ceir delwedd clytwaith eiconig o Ferch y Tir, mewn poster recriwtio ar gyfer Byddin Tir y Merched. Trefnwyd Byddin Tir y Merched gan y Bwrdd Amaeth yn ystod y Rhyfel Mawr, a dechreuodd ei gweithgareddau yn 1915. Gyda 3 miliwn o ddynion wedi mynd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd prinder gweithwyr ym Mhrydain. Roedd y llywodraeth eisiau i ferched wneud mwy i gynhyrchu bwyd a chefnogi ymdrech y rhyfel. Erbyn diwedd 1917, roedd mwy na 250,000 - 260,000 o ferched yn gweithio fel labrwyr ar ffermydd, gyda 20,000 yn
perthyn i Fyddin y Tir. Flynyddoedd lawer wedyn yn 1938, daeth yr Arglwyddes Denman, Cadeirydd cyntaf Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched, yn ddarpar gyfarwyddwr anrhydeddus Byddin Tir y Merched. Hi a ysgogodd gynhyrchu bwyd trwy SyM, gan recriwtio merched i Fyddin y Tir. Dywedodd fod yn rhaid i bob merch a allai roi help llaw i’r gwaith
hollbwysig o gynhyrchu bwyd estyn llaw. Y ddelwedd gwiltwaith o’r Arglwyddes Denman yw’r cyntaf o’r lluniau ar y panel.
Ar y chwith i bortread yr Arglwyddes Denman ceir collage o ferfa llawn llysiau mewn defnyddiau â gweadau gwahanol, a phecynnau hadau ac offer mewn brodwaith peiriant, y byddai Merched y Tir wedi’u defnyddio i dyfu eu cnydau.
Ar ochr dde’r panel, ceir layette baban wedi’i wau, sy’n cynrychioli’r clinig cyntaf i ferched beichiog a agorwyd yn Llanfairpwll yn 1919. Roedd yr aelodau’n creu bagiau pwrpasol ac ynddynt bopeth ar gyfer y gwely esgor, gan gynnwys layette baban, a fyddai’n cael ei fenthyg i’r fam ac wedyn ei gadw’n barod yn y clinig gan SyM.
O dan y layette ceir troslun o glawr copi cyntaf cylchgrawn Home & Country SyM a lansiwyd yn 1919. Miss Alice Williams oedd golygydd sefydlu Home & Country a’i llun hi yw’r ail ddelwedd wedi’i chwiltio ar y panel. Alice Williams oedd Llywydd sefydlu SyM Deudraeth yn Ffederasiwn Gwynedd Meirionnydd, lle rhoddodd ei thir a chododd arian i adeiladu neuadd i’r sefydliad,
neuadd gyntaf erioed SyM lle cynhelir cyfarfodydd hyd heddiw. Gan ddefnyddio’i rhwydweithiau
sylweddol, gwahoddodd Mrs Lloyd George i agor y neuadd a threfnodd i’r aelodau dderbyn telegram i’w llongyfarch gan y Frenhines Mary. Roedd cyfraniad Alice Williams i SyM yn enfawr. Cafodd ei hethol yn Ysgrifennydd Anrhydeddus a Thrysorydd cyntaf y Pwyllgor Rheoli Canolog pan sefydlwyd y Ffederasiwn Cenedlaethol yn 1917 a pharhaodd i chwarae rhan ganolog, er newidiol, yn SyM drwy gydol y 1920au a’r 1930au. Roedd Alice Williams hefyd yn awdur, gan
arbenigo mewn barddoniaeth yn coffau achlysuron arbennig. Yn 1917 daeth yn aelod o Orsedd y
Beirdd, dan yr enw barddol Alys Meirion; anrhydedd mawr i ferch yn y dyddiau hynny.
Mae’r jariau jam appliqué clustogog uwchben y cylchgrawn yn cyfeirio at ddyrannu siwgr mewn
dognau i’r holl SyM ar gyfer gwneud jam mewn ffordd drefnedig yn 1917, 1918 ac 1919.
Gwnaethpwyd y llinell amser sy’n mynd ar draws y panel mewn pwyth croes, ac arni mae bathodyn cyntaf SyM a gynigiwyd mewn cyfarfod yn Llanfairpwll yn 1916, hefyd mewn pwyth croes.
O dan y llinell amser, ac ar y dde i’r arwyddbost a wnaed mewn cotwm â chefnyn Bondaweb®,
ceir delwedd o Gastell Cricieth. O flaen y castell, mae collage o stondin marchnad sy’n symbol o
sefydlu marchnad gyntaf SyM yng Nghricieth yn 1916. Cyflwynodd Mrs Drage y farchnad er mwyn gwerthu cynnyrch cartref, gan ymateb i’r angen dirfawr i gynhyrchu a dosbarthu mwy o fwyd. Mae’r stondin yn llawn cynnyrch a basgedi o wyau a gâi eu gwerthu yn y farchnad oedd yn cael ei chynnal dwywaith yr wythnos yn ystafell SyM.
Ar fathodyn y ffederasiwn gwelir lili’r Wyddfa (Lloydia Serotina) o frodwaith; dewiswyd y lili’n arwyddlun gan ffederasiwn Gwynedd Caernarfon. Mae’n blanhigyn prin iawn sy’n blodeuo mewn ychydig o fannau dirgel yn Eryri.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment