Panel Gwent
Disgrifiadau
Wrth i SyM ddechrau ar fileniwm newydd roedd yr aelodau’n brysur yn diweddaru eu sgiliau gyda phrosiect allestyn technoleg gwybodaeth. Roedd yr aelodau’n gallu manteisio ar amrywiaeth o gyrsiau yn eu cymunedau. Mae’r cyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd ar frig ochr dde’r panel yn cynrychioli’r prosiect ac maent wedi’u gwneud mewn appliqué, brodwaith peiriant a phaentiau ffabrig. Mae’r aelodau’n dal i ddiweddaru eu sgiliau, gan ddysgu am gyfryngau cymdeithasol, ffotograffiaeth ddigidol a’r adnoddau ar-lein mae SyM yn eu darparu fel y Moodle.
Gan adeiladu ar y gwaith ynghylch cynaliadwyedd, ym mhrosiect Llwybr i’r 21ain Ganrif cofnodwyd 814 o brosiectau cymunedol ledled Cymru yn 2001. Roedd y prosiect yn gyfle i roi Agenda 21 Leol ar waith a’i nod oedd codi ymwybyddiaeth ymysg SyM yng Nghymru o bwysigrwydd yr amgylchedd a’r cyfraniad amhrisiadwy y gallent ei wneud at sicrhau amgylchedd
cynaliadwy. I’r perwyl hwn, anogwyd pob SyM i gynnal prosiect ymarferol i wella ansawdd bywyd i ferched, eu teuluoedd a’u cymunedau. Yn ddiweddarach yn y degawd roedd yr aelodau’n cael eu dysgu am y bygythiad a achosir gan y newid yn yr hinsawdd a pha gamau y gallent eu cymryd i leihau’r ynni yr oeddent yn ei ddefnyddio ac felly eu heffaith ar yr amgylchedd. Un prosiect o’r fath oedd y Timau Ecooedd yn rhoi awgrymiadau ymarferol ’r aelodau eu dilyn. Cynrychiolir y gwaith hwn gan y map o’r byd sydd wedi’i amgylchynu gan ddarluniad symbolaidd o ailgylchu, ecosystemau, cynnydd hanesyddol a’r cyfreithiau, wedi’u gwneud o ffelt, appliqué, pwythwaith, paentio ar ffabrig a gleinwaith, sy’n ein hatgoffa o bwysigrwydd gwarchod ein planed.
Mae’r ferch yn y bath y tu allan i Dai’r Senedd mewn gwaith codi, appliqué, brodwaith du, delweddu cyfrifiadurol a chwiltio’n cynrychioli’r Trafodaethau Mawr dros Laethyn 2007. Yn yr ymgyrch hon, trefnodd aelodau SyM fwy na 100 o drafodaethau yn eu cymunedau i dynnu sylw at y sefyllfa argyfyngus yr oedd ffermwyr llaeth ym Mhrydain pwysleisio i’r cyhoedd pa mor bwysig yw’r diwydiant llaeth mewn perthynas â materion amrywiol fel yr amgylchedd, cyflenwadau bwyd, twristiaeth, yr economi wledig ehangach a chefn gwlad.
Mae’r llun o ferch yn cael ei thewi yng nghanol y panel yn tynnu sylw at yr ymgyrch i roi terfyn ar drais yn erbyn merched ac mae wedi’i greu gan ddefnyddio delweddu cyfrifiadurol, paentio ar ffabrig ac appliqué cysgod a chwiltio rhydd â pheiriant. Mae tair miliwn o ferched ledled y DU yn profi trais rhywiol, trais domestig, priodas dan orfod, camfanteisio rhywiol a mathau eraill o drais a chamdriniaeth bob blwyddyn. Mae FfCSyM wedi bod yn ymgyrchu ar drais yn erbyn merched
ers 2008; gan godi ymwybyddiaeth o natur, maint ac effaith pob math o drais yn erbyn merched. Mae’r gannwyll hefyd yn symbol o’r gwaith mae SyM yng Nghymru wedi’i wneud i bwysleisio pa mor gyffredin yw trais yn erbyn merched, ac mae Ffederasiwn Gwent wedi cynnal nifer o wasanaethau Cynnau Cannwyll i ddangos eu hundod â merched sy’n dioddef trais.
Yn ystod y degawd hwn newidiodd cylchgrawn SyM, Home & Country, ei enw i WI Life. Mae clawr blaen y cylchgrawn ar y panel mewn argraffu ar ffabrig, delweddu cyfrifiadurol a chwiltio.
Yn 2005 lansiwyd prosiect Garddio gydag Ysgolion i roi cyfle i blant gael profiad ymarferol o
greu gerddi llysiau a mannau i mewn gweithgareddau fel plannu a chynnal a chadw gerddi. Roedd y prosiect yn llwyddiant mawr a datblygwyd mwy na 100 o erddi. Helpodd hefyd i ddatblygu
cymunedau cryfach a sefydlodd gysylltiadau rhwng y cenedlaethau sy’n parhau hyd heddiw. Mae’r olygfa ar y chwith yng ngwaelod y panel o ysgol a’i gardd wedi’i chreu mewn gleinwaith, cwiltio,
brodwaith llaw a phaentio ar ffabrig.
Ar ochr dde’r panel mae prosiect llwyddiannus arall yn ystod y degawd hwn, sef Cerdded Llwybr
Iechyd, pan hyfforddwyd mwy na 70 o aelodau fel Arweinwyr Teithiau Cerdded, i annog aelodau o SyM i gerdded ac aros yn egnïol. Mae’r teithiau cerdded yn dal i fod yn boblogaidd gyda’r aelodau ac mae llawer o deithiau cerdded yn cael eu harwain ledled Cymru bob blwyddyn. Mae’r olygfa mewn brodwaith peiriant, paentio ar ffabrig a brodwaith llaw ar waelod y panel yn gwneud ichi eisiau gwisgo’ch esgidiau cerdded a dilyn y llwybr i’r pellter.
Mae’r llinell amser sy’n ymlwybro ar draws y panel mewn rhubanwaith ac mae bathodyn Ffederasiwn Gwent mewn brodwaith llaw a phaentio ar ffabrig yn darlunio llong o’r enw Bad Llandogo a welwyd yn wreiddiol ar Sêl Bwrdeistref Trefynwy yn y 1920au. Defnyddiwyd y llong hon i gludo cerrig o chwareli yng Nghas-gwent a Bryste i fyny Gwy i’r gogledd mor bell â Brockweir.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment