Panel Morgannwg
Disgrifiadau
Mae aelodau Ffederasiwn Morgannwg wedi defnyddio arwyddbost mewn deunydd clustogog fel y sylfaen i ddangos gwahanol weithgareddau SyM drwy gydol y 1990au. Mae’n dechrau gyda lansio calendr gwahanol a chofiadwy SyM gan aelodau o SyM Rylestone, Ffederasiwn Gorllewin Gogledd Swydd Efrog, ar frig ochr chwith y panel. Darlunnir y calendr gan flodyn haul mewn appliqué gyda gleiniau, blodyn sy’n cael ei chysylltu’n agos â’r calendr, ac mae’r mis y cafodd ei lansio
hefyd mewn appliqué.
I’r dde mae merch mewn gwisg Gymreig wedi’i gwneud o les bobin sy’n dwyn i gof arddangosfa a gynhaliwyd yn Amgueddfa Sain Ffagan i nodi pen-blwydd SyM yn oed. Agorwyd yr arddangosfa
gan Dduges Caerloyw yn y De a’r Arglwyddes Anglesey yn y Gogledd ac fe’i gwelwyd gan 300,000 o bobl.
Yn 1993 daeth FfCSyM yn aelod sefydlu o’r sefydliad Masnach Deg. Mae’r logo Masnach Deg yng
nghanol yr arwyddbost wedi cael ei frodio a’i addurno â gleiniau ac mae’r sefydliad yn annog pob SyM i ddefnyddio nwyddau Masnach Deg yn ei ddigwyddiadau a’i gyfarfodydd. I’r dde o’r logo mae sampler pwyth croes yn dangos dyfyniad gan y newyddiadurwraig Polly Toynbee; wrth gyflwyno Jonathon Porritt yng nghynhadledd FfCSyM Women of the Nineties yn 1990 fe ddywedodd hi mai merched oedd y gobaith gorau i ddyfodol yr amgylchedd, sy’n crynhoi’r gwaith mae’r aelodau wedi’i wneud drwy gydol y ganrif. Gan aros gyda thema’r amgylchedd, i’r chwith o’r logo Masnach Deg mae sampler mewn ffelt yn ein hatgoffa o gynhadledd Agenda 21 Leol yn 1996, a gynhaliwyd yng Ngholeg Denman i godi ymwybyddiaeth o’r heriau cynyddol sy’n bygwth ansawdd bywyd cymunedau, ac i awgrymu ffyrdd y gallai aelodau gymryd camau ymarferol. Fel rhan o brosiect Llwybr i’r 21ain Ganrif yng Nghymru, ysgwyddodd aelodau o SyM Ystradowen, Ffederasiwn Morgannwg, brosiect enfawr i wella eu harosfan a chilfan bysiau, oedd wedi dod yn ‘domen sbwriel’ ac yn ddolur llygad yn y pentref.
Yn ddiweddar mae mainc newydd wedi cael ei chodi yn lle’r hen un, ac mae’r pentrefwyr wedi ymrwymo i’r prosiect i gynnal y nodwedd sydd wedi’i gwella’n rhyfeddol yn y pentref.
Wrth inni symud i lawr yr arwyddbost o’r chwith i’r dde, yn 1992 canolbwyntiodd FfCSyM
ar brosiect gwyddoniaeth a ddarlunnir gan y symbol sy’n hybu gwyddoniaeth a hefyd fflasgiau cemegol mewn brodwaith. Aeth cynrychiolwyr o 60 o Ffederasiynau i’r gynhadledd a drefnwyd gan
COPUS oedd yn annog yr aelodau i hybu mwy o ddealltwriaeth o wyddoniaeth ymysg merched a
genethod, ac mae Ffederasiwn Morgannwg wedi mynd i Techniquest yng Nghaerdydd lawer
tro i ddysgu am ddatblygiadau newydd ym maes gwyddoniaeth
Ar y dde, darlunnir Gŵyl Gelfyddydau FfCSyM-Cymru Tuag at y Mileniwm gyda cherddoriaeth,
bale a mwgwd wedi’u paentio ar sidan, ac islaw hyn, prosiect Ewch i Goginio a ddechreuodd
yng Nghwm Rhondda yn 1997.
Cynrychiolir y prosiect gan gopi wedi’i wau â llaw o’r bws coginio a aeth i ysgolion ledled Cymru i
ddysgu plant sut i goginio. Mae’r prosiect yn dal i fynd heddiw ac mae aelodau SyM yn dysgu pobl
sut i goginio prydau bwyd iach a maethlon heb wario llawer.
Mae’r ddwy ferch mewn appliqué, yn y gwaelod ar y chwith, yn darlunio prosiect Cymry’n
Colli Pwysau a gynhaliwyd yn 1991 i wella iechyd a ffitrwydd merched; maent yn ein hatgoffa o bwysigrwydd dewis y bwydydd iawn.
Mae cefndir y panel a’r amserlen wedi cael eu cwiltio ac mae’r ieir bach yr haf 3D pert sy’n addurno’r arwyddbost wedi cael eu gwneud o ddefnydd a Bondaweb®. Mae’r blodau io-io a ddefnyddir yn aml mewn clytwaith yn ychwanegu blash o liw i waelod yr arwyddbost a’r panel.
Ar waelod y panel ar y dde mae llun mewn pwyth croes o babi Morgannwg ac ar y chwith mae
bathodyn Morgannwg, sydd wedi’i wneud yn gyfan gwbl o bwyth croes, yn dangos pabi Morgannwg mewn lliw melyn gyda’r llythrennau mewn lliw aur.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment