Panel Fflint Clwyd
Disgrifiadau
Ar frig panel Clwyd Fflint mae Mynydd hardd Moel Famau, mewn brodwaith peiriant, yn arwain i lawr at Gastell y Fflint sydd mewn brodwaith du. Ar ochr chwith y panel ceir goleudy Llanasa, sydd wedi’i grosio. Bellach yn atyniad i dwristiaid, bu’r goleudy’n bwysig iawn i’r diwydiant glo a haearn yn yr ardal nes i’r afon fynd yn rhy fas i’r cychod mwy o faint. Mae’r
fwynfa blwm mewn pwyth croes o dan y llinell amser hefyd yn ein hatgoffa o’r diwydiannau a fu’n bwysig i ardal Clwyd Fflint.Yng nghanol y panel ceir arwyddlun yr Associated Country
Women of the World, neu’r ACWW, mewn pwyth croes. Breuddwyd Mrs Alfred Watt, sylfaenydd SyM, oedd ffurfio sefydliad rhyngwladol
i gynrychioli pryderon merched y wlad. Gwireddwyd ei breuddwyd yn 1933 pan ffurfiwyd ACWW yn Sweden, gyda’r nod o wella ansawdd bywyd i ferched a chymunedau ledled y byd. Bu
hefyd yn fodd i aelodau SyM ymwneud â materion mae merched yn y byd ehangach yn eu hwynebu ac mae’r aelodau’n dal i gefnogi
ACWW trwy gasglu darnau arian cyfeillgarwch, a welir ar y paneli hefyd, yn eu cyfarfodydd.
Mae’r arian a gesglir yn cynnig cymorth ariannol i brosiectau, sy’n cydweddu â nodau SyM, sy’n
helpu merched mewn gwledydd datblygol.
Yn 1938, pasiodd FfCSyM gynnig yn galw am lai o oriau a gwell cyflog ac amodau i nyrsys,
a ddarlunnir ar y panel gan hysbyslen a nyrs wedi’i gwau, yn sefyll wrth ochr gwely haearn.
Daethpwyd o hyd i’r Fantell Aur unigryw, a welir mewn brodwaith lliw aur yng nghanol y panel, yn
yr Wyddgrug yn 1833. Yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig, mae’n un o’i deg trysor gorau. Mae atgynhyrchiad ohoni i’w weld yn
llyfrgell yr Wyddgrug.
Mae’r balwn coch a’r gwydr appliqué, y cerdyn Pergamano® a’r allwedd yn dathlu pen-blwydd
SyM yn 21 oed yn 1937. Gan ddathlu achlysur FfCSyM yn cyrraedd ei lawn oed yn swyddogol
ar 21ain Gorffennaf, dywedodd yr Arglwyddes Denman fod profiadau ein 21 blynedd o waith yn dangos y gallwn wneud rhywbeth i ychwanegu at hapusrwydd cefn gwlad, ac nad oes un swydd yn
bwysicach.
O dan y nyrs, ceir eitemau sy’n gyfystyr â mudo plant. Mae’r mwgwd nwy, y gist, y cledrau rheilffordd a’r label, o ledr a ffelt, yn talu teyrnged i’r gwaith a wnaeth SyM gyda mudo plant yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ym mis Mehefin
1938 anfonwyd llythyr at holl SyM, yn dweud ei bod yn briodol iddynt gydweithredu i ofalu am y faciwîs ond na ddylid tarfu’n ormodol ar
y cyfarfodydd misol, gan gynnal y naws addysgiadol a chymdeithasol ac felly cynnig canolfan o lonyddwch a sirioldeb i’r aelodau mewn byd cythryblus. Ymatebodd mwy na 1,700 o SyM i arolwg Town Children through Country
Eyes ynghylch amodau ac arferion y faciwîs. Cafodd yr atebion ddylanwad yn ddiweddarach trwy roi tystiolaeth a arweiniodd at sefydlu’r Lwfans Teulu a dalwyd i tamau.
Ar waelod y panel ar y dde, mewn techneg crychu, mae Ffynnon Gwenffrewi, a godwyd yn
negawd cyntaf yr unfed ganrif am bymtheg. Yn fan pererindod ac iachau yn Nhreffynnon, mae llawer yn ei hystyried yn Lourdes Cymru.
Mae’r llysiau rhubanwaith, pyffiau Suffolk a chlymwaith, a ddyfrir gan y glaw o’r cwmwl
uwchben, yn dynodi ymgyrch ‘Palu dros Fuddugoliaeth’. Datblygodd yr ymgyrch yn sgil gorchymyn gan y Llywodraeth yn 1939, pan sefydlwyd y Gild Cynnyrch, a chafwyd grant £500 gan y Comisiwn Datblygu er budd gwaith amaethyddol SyM gyda’r sylw eu bod yn edmygu’r cyfleoedd a gynigiwyd gan Sefydliad y
Merched, oedd yn cynnwys cynhyrchwyr a defnyddwyr mewn ardaloedd gwledig, i
annog y gwaith o gynhyrchu a thrin bwydydd ffres. Trwy’r Gild Cynnyrch, dysgwyd yr aelodau
sut i dyfu ffrwythau a llysiau’n fwy dwys yn y gerddi a’r rhandiroedd, a gwerthwyd llwyni ffrwythau a phecynnau o hadau llysiau, y daeth
nifer fawr ohonynt o SyM yng Nghanada, trwy’r Gild.
Mae’r llinell amser wedi’i gwau, gan ddefnyddio patrymau amrywiol oedd yn boblogaidd ar y pryd. Gwnaethpwyd bathodyn y ffederasiwn mewn eurwaith a brodwaith main, ac mae’n dynodi’r bont newydd dros afon Dyfrdwy, Moel Famau, Castell y Fflint a’r goleudy yn Llanasa.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment