Skip to main content

Panel Dinbych Clwyd

Disgrifiadau

Pan ddaeth y rhyfel i ben, dechreuodd y SyM newydd ganolbwyntio ar gynllunio rhaglenni o weithgareddau wedi’u teilwra i’w haelodau. Denodd y mudiad newydd aelodau o wraig y plas i’w morwyn a’i chogyddes; o’r siopwr lleol i wraig y gwas fferm: roedd cydweithio yn SyM yn helpu i oresgyn y rhwystrau cymdeithasol a fu rhwng merched a oedd prin wedi cyfarfod yn y gorffennol. Bu’r aelodau’n ymwneud â nifer fawr o weithgareddau, fel y dangosir ar y panel. Mae’r offerynnau cerdd wedi’u brodio ar ffabrig Aida’n cynrychioli’r ffordd roedd SyM yn ymwneud â cherddoriaeth. Yn 1922 cynhaliwyd ysgol gerdd anffurfiol yng nghanolbarth Cymru a fu’n dysgu chwarae ar yr olwg gyntaf, arwain a chreu alawon. Yn 1923, cynhaliwyd y gystadleuaeth gorawl gyntaf i gorau SyM yn nwyrain Sussex ac yn 1924 canwyd Jerusalem am y tro cyntaf yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gyda threfniant i gerddorfa linynnol a lleisiau merched a gyfansoddwyd yn arbennig i SyM gan Syr Walford Davies. Hwn oedd dechrau raddodiad sy’n parhau hyd heddiw ac sy’n dynodi cysylltiadau SyM â’r mudiad ehangach i ferched, a’i ymrwymiad i wella amodau bywyd cefn gwlad.
Defnyddiwyd Jerusalem gan Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Etholfraint Merched (UCCEM)
i ddathlu rhyddfreinio merched yn 1918, ac roedd nifer fawr o arweinwyr SyM, gan gynnwys
Grace Hadow, wedi bod yn rhan o’r frwydr honno i ennill y bleidlais i ferched. Mewn llythyr at Hubert Parry, dywedodd Millicent Fawcett, un o arweinwyr y swffragetiaid, y dylai ei gyfansoddiad Jerusalem fod yn emyn y pleidleiswyr benyw. Roedd hynny’n digwydd mewn fordd, gan iddo gael ei fabwysiadu gan SyM. Rhoddwyd yr hawlfraint i SyM gan Ysgutorion Parry yn 1928 pan ddaeth UCCEM i ben, wedi iddo gyflawni ei amcanion.
Caiff hyn ei ddathlu ar y panel gyda llythrennau a rhifau appliqué gan ddefnyddio ffabrigau gwyrddion amrywiol ar ffabrig Aida ac mae’n fframio’r llinell amser â voile lelog, a rhwydwe gwyn a liwiwyd trwy ddefnyddio pad inc porffor. Mae’r gerddoriaeth hefyd yn cydnabod Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a gynhelir yn Llangollen bob blwyddyn, yn ardal Ffederasiwn Clwyd Dinbych.
Mae’r collage o ffrwythau a llysiau â chefndir o ffabrig gweadog printiedig a mefus a lysiau wedi’u gwau a’u gwneud o ffelt yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu sgiliau i ferched, sef un o’r rhesymau dros ffurfio SyM yn 1915. Ffurfiwyd Gild y Dysgwyr yn 1920 i wella amodau bywyd cefn gwlad trwy annog diwydiannau cartref a lleol ac i adennill ymarfer crefftau’r cartref gyda’r bwriad o
adfer y traddodiadau crefftwaith gorau.
Mae’r blwch pleidleisio o leinwaith a’r llaw o edau lliw aur a ffelt oren ar galico’n symbol o Fil Etholfraint Gyfartal 1928 a olygai bod pob merch dros 21 oed yn cael pleidleisio. Yn yr un degawd, etholwyd Mrs Margaret Winteringham, aelod o SyM ac Ysgrifennydd Anrhydeddus Ffederasiwn Lindsey (Swydd Lincoln) yn Aelod Seneddol dros Louth. Hi oedd yr Aelod Seneddol benyw gyntaf a aned yn Lloegr a dim ond yr ail ferch i gael ei hethol i’r Senedd. Disgrifiodd ei haelodaeth o SyM fel yr hyfforddiant gorau y gallai fod wedi’i gael ar gyfer ei gwaith fel Aelod Seneddol.
Hefyd yn ystod y degawd hwn, cydnabuwyd natur unigryw a phwysigrwydd y ffederasiynau
Cymreig a chafodd siaradwr Cymraeg ei gyfethol i Fwrdd Gweithredol FfCSyM a chynhaliwyd cynhadledd gyntaf Siroedd Cymru.
Mae’r ferch ‘flapper’ a wnaed o satin du, ffelt, eurwaith, edau lliw aur a phlu’n gyfystyr â’r 1920au.
Roedd y ‘flapper’ yn ferch benchwiban oedd yn cymryd risg, yn smygu, yn yfed, yn gwisgo colur
ac yn mynd i bartïon. Roedd ei dillad wedi’u trimio a’u hysgafnhau er mwyn hwyluso ei symudiadau.
Mae’r paentiad sidan o degeirian yn un a welir ar ros Llandegla rhwng Wrecsam a Rhuthun.
Mae gan fathodyn y ffederasiwn gefndir o ffabrig gwyrdd gyda satin gwyn o’i gwmpas a chortyn arian, ac mae’n dangos llew Dinbych mewn ffabrig gwyrdd a gleiniau. Y llew oedd bathodyn herodrol teulu Salusbury oedd yn berchen ar ddarnau mawr o dir yn Sir Ddinbych.

Owner:
Ffederasiwn SyM Dinbych Clwyd Denbigh WI Federation
Crëwr:
Ffederasiwn SyM Dinbych Clwyd Denbigh WI Federation
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2015
Eitem wedi’i llwytho:
28/5/2015
Gwelediadau:
1287
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment