Panel Ffederasiwn Ceredigion
Disgrifiadau
Mae derwen Ceredigion ar ochr chwith y panel yn cynrychioli cryfder cyfeillgarwch SyM a’i
wreiddiau cryfion. Mae hefyd yn symbol o gefnogi’r amgylchedd, y brwydrodd aelodau SyM i’w ddiogelu gan gynnal amryw ymgyrchoedd dros gefn gwlad drwy gydol y degawd. Er enghraifft, thema Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol 1965 oedd The Countryside Tomorrow ac yn 1969 defnyddiwyd y llyfryn The Countryside: a Code for WIs yn helaeth gan awdurdodau lleol a sefydliadau cefn gwlad. Mae’r goeden wedi’i gwneud o ffibrau masnachol a llaw wedi’u nyddu, eu lliwio, eu gwau a’u pwytho ac mae’n gefndir i’r wdihŵ 3-D a wnïwyd ac addurnwyd â llaw, ynghyd â’r aderyn generig mewn brodwaith. Wrth fôn y
goeden ceir draenog wedi’i wau a llygoden wedi’i gwnïo, gyda brodwaith o’r oes a fu wedi’i
drimio’n fân a fray check ar ei boncyff. Mae’r hancesi o’r oes a fu â brodwaith, wedi eu torri a’u pwytho at ei gilydd a’u trosliwio’n wyrdd a’u haddurno gyda mwy o frodwaith a gleiniau, yn cynrychioli dôl flodau draddodiadol; roedd y dull hwn o gwiltio clytiog yn boblogaidd yn y 1960au.
Mae’r peiriant gwrychoedd mewn brodwaith ar ddefnydd hydawdd mewn dŵr yn dangos dyfyniad gan Ymddiriedolaeth y Naturiaethwyr
(bellach yr Ymddiriedolaeth Natur) sy’n dweud y gall SyM chwarae rhan neilltuol o bwysig wrth sicrhau na chaiff nodweddion naturiol eu
pentref, y blodau gwyllt, yr adar a’r anifeiliaid sy’n rhan ohonynt, eu difrodi trwy ddiofalwch,
anwybodaeth, camgymeriad neu esgeulustra.
Mae’r padog merlynnod o ddefnydd chenille gyda thri merlyn, a wnaed o ffabrigau Laura Ashley, yn pori’n hapus, yn ein hatgoffa bod SyM Llanfihangel, Tal-y-llyn a Llanwern (Aberhonddu) wedi dechrau merlota yn 1961.
Mae’r barcud wedi cael ei ffeltio â nodwydd mewn gwlân a liwiwyd â llaw.
Mae’r doliau clwt yng ngwisgoedd
cenedlaethol Cymru a’r Iseldiroedd
wedi’u gwneud â llaw gan ddefnyddio technegau traddodiadol, o wlân Cymreig a les o waith llaw, ac yn ein hatgoffa o wyliau SyM
ledled Ewrop a fu’n boblogaidd yn y 1960au. Yn 1964, daeth 35 o ferched o’r Iseldiroedd i aros
gydag aelodau SyM Penparcau, Ffederasiwn Ceredigion. Yn codi y tu ôl i’r doliau ceir balwn i goffau dathliadau Jiwbilî Aur SyM yn 1965.
Mae’r panel hefyd yn cynnwys atgofion mwy difrifol o’r 1960au gan gynnwys y tywydd garw - bu aelodau SyM yn agor eu drysau i blant ysgol a aeth yn sownd oherwydd eira 1963, a gynrychiolir gan y plu eira wedi’u crosio ar frig y
panel ar yr ochr dde. Daeth llifogydd 1966 â thrychineb, gan gynnwys llithriad erchyll gwastraff llaid o’r pyllau yn Aberfan, a laddodd 116 o blant a 28 o oedolion. Mae’r glaw
trwm a’r llithriad llaid i’w gweld ar frig y panel ar y dde mewn appliqué sidan wedi’i stwffio, ei liwio a’i addurno, gyda’r diferion glaw wedi’u
gwneud o sidanau amrywiol wedi’u lliwio. Gosodwyd blodeugedau ar ffurf croes ar ochr y mynydd - dangosir y rhain ar y panel mewn brodwaith 3-D ar fodrwyon pres. Bu teuluoedd yn byw mewn carafanau a rhoddodd Ffederasiwn
Morgannwg 36 twymwr darfudol, bwyd a blancedi. Mae’r blancedi bach ar y panel wedi’unyddu a’u gwehyddu â llaw.
Bu aelodau SyM hefyd yn helpu rhai llai ffodus yn fyd-eang; mae’r ferch a’r plentyn mewn appliqué o ffabrig Masnach Deg ar frig y panel yn ein hatgoffa o ymgyrch 1962 - 1967 Freedom from Hunger, a gododd £185,000. Lansiwyd
prosiect Karamojo yn Uganda gan FfCSyM i gefnogi’r ymgyrch, gyda’r nod o sefydlu a rhoi offer i Sefydliad
Ffermio er mwyn dangos buddionau cymuned amaethyddol a reolir yn dda. Cododd marchnadoedd SyM £3,000 i adeiladu a rhoi offer i storfa masnachu yn Bechuanaland
(Botswana) ac yn 1968
cychwynnodd Arglwyddes Anglesey gynllun dillad Ynysoedd Winward, a fu’n gweithredu’n llwyddiannus tan y 70au. Nodwyd y byddai’r cymorth materol, yn ogystal â’r cyffro a ddaeth o gysylltu â phobl eraill ar draws y byd a’r berthynas â nhw, yn aros yn y cof.
Mae’r blodau ar waelod y panel ar y dde wedi’u gwneud trwy blygu a phwytho ffabrigau seicedelig i gynrychioli “grym blodau” a lliwiau
amlwg y degawd ac mae’r llinell amser wedi’i gwneud o wahanol ffabrigau gan gynnwys gwlanoedd
Cymreig modern o felinau de Cymru, yn dangos lonydd gwledig y sir.
Yng nghanol bathodyn y ffederasiwn mae’r groes Geltaidd a Masarnen Canada, wedi’u
hamgylchynu gan bedwar grŵp Ffederasiwn Sefydliad y Merched Ceredigion, pob un wedi’i
gynrychioli gan goeden - Derwen, Helyg, Bedwen ac Onnen. Mae’r bathodyn wedi’i baentio ar sidan wedyn ei addurno â brodwaith,
gydag ymyl o frêd a wnaed â llaw.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment