Panel Sir Fón
Disgrifiadau
Mae panel Sir Fôn, gyda’i fap appliqué o Ganada yn y gornel uchaf ar y chwith, yn rhoi sylw
i ffurfio SyM yng Nghanada yn 1897. Mae’r llinell amser borffor a wnïwyd â llaw yn sillafu, â llythrennau mewn pwyth blanced, leoliad SyM cyntaf Canada, sef Stoney Creek, a’i ddatblygiad dros Bont Menai i leoliad SyM cyntaf y DU, sef Llanfairpwll. Mae’r llinell amser yn llifo trwy’r panel nes cyrraedd tŷ haf Y Graig, man cyfarfod y SyM cyntaf ym mis Medi 1915. Bu’r SyM yn cyfarfod yno am y pum mlynedd gyntaf a defnyddiwyd ffeltwaith i greu’r tŷ haf.
Ceir llun sepia mewn delweddu tecstil o sylfaenydd mudiad SyM, Adelaide Hoodless, ar frig y panel ar yr ochr chwith. Ar y dde iddi, mae’r bwced o laeth a gollwyd a’r groes bren yn symbolau o’i phlentyn a gollodd wedi yfed llaeth halogedig. Y drasiedi hon oedd catalydd ffurfio’r SyM cyntaf. Fel athrawes, roedd Adelaide bob amser wedi hyrwyddo hyfforddiant technegol mewn ysgolion a cholegau a gwelodd, yn SyM, ffordd o alluogi merched i wella ansawdd bywyd yn eu cymunedau lleol. Mae’r dail masarn wedi’u ffeltio’n dynodi gwreiddiau’r sefydliad yng Nghanada, a’r pabïau’n dynodi ei ffurfio yn y DU yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r baneri ar y dde mewn brodwaith peiriant yn pwysleisio’r cysylltiadau rhwng Canada, Cymru
Mae’r llaw ar frig y panel, a wnaed o ffelt, yn dangos hau’r hadau ymhellach a thwf y mudiad yn y DU ar ôl ei ffurfio yn Sir Fôn.
Mae’r delweddau tecstil sepia o Mrs Madge Watt a’r Cyrnol Stapleton Cotton yn talu teyrnged
i’w rôl wrth ddod â SyM i’r DU a’i ffurfio yn Sir Fôn. Ym mis Mehefin 1915, traddododd Mrs
Watt araith wefreiddiol ym Mangor am y gwaith diddorol a wnaed gan fudiad SyM yng Nghanada.
Roedd hyn ar wahoddiad y Cyrnol Stapleton Cotton, a aeth ati wedyn i drefnu’r cyfarfod cyntaf
hwnnw yn Llanfairpwll. Ar 16 bod yn ffurfio SyM, yn gysylltiedig â’r Gymdeithas Trefniadaeth
Amaethyddol’. Mae Tŵr y Marcwis mewn ffeltwaith, ar ochr dde’r panel o dan y baneri, yn symbol o’r cysylltiad rhwng Marcwis Môn a’r Cyrnol Stapleton Cotton, a oedd yn ddisgynnydd iddo. Roedd y tir lle bu SyM yn cyfarfod yn rhan o ystad y Marcwis. Mae’r llyfr cofnodion a wnaed o ffabrig Aida yn dangos y cyfarfod cyntaf a phris y tanysgrifiad sef 2/-. Arwyddocâd y cap milwr oedd bod milwyr clwyfedig yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf a chafodd telyn ei hefyd. Ar waelod y panel, mae’r mwyar duon a’r blodau mewn crefftwaith rhubanau yn symbolau o gadw ffrwythau a llysiau, sef pwnc trafod y cyfarfod swyddogol cyntaf ar 25 Medi. Mae’r dywysen gwenith yn symbol o’r angen i dyfu bwyd i fwydo’r wlad yn y cyfnod hwn.
Amlinelliad o Ynys Môn yw bathodyn dwyieithog y ffederasiwn, a’r ddraig yn y canol yn symbol o Gymru, a choeden SyM oedd y logo cenedlaethol adeg dylunio’r bathodyn. Mae’r bathodyn wedi’i wneud o frodwaith peiriant.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment