Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

<p>Hen gapel yr Annibynwyr. Adeiladwyd 1827, a bu'n gapel tan 1909 pan adeiladwyd capel y Tabernacl. Defnyddiwyd y capel fel neuadd y pentref tan y 1960au, pan adeiladwyd neuadd y pentref, a gadawyd yr hen gapel i droi'n adfail tan i griw o bobl lleol ei adnewyddu yn yr 1980au a'i droi'n weithdai a neuadd. Erbyn heddiw mae'r ganolfan deuluol yn cyfarfod ar y llawr gwaelod, a'r llawr uchaf yn neuadd.</p>

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw