"The goal that shocked them al", Paul Thorburn
Disgrifiadau
Mae Paul Thorburn (ganwyd 24 Tachwedd 1962 yn Rheindahlen, Gorllewin yr Almaen) yn gyn-chwaraewr rygbi dros Gastell Nedd ac yn gyn-gefnwr rhyngwladol dros Gymru. Mae hefyd wedi bod yn gapten tîm Cymru.
Roedd Thorburn yn giciwr hirbell toreithiog. Mae'n dal y record am y gic lwyddiannus hiraf mewn gêm ryngwladol (er nid yr hiraf yn Undeb Rygbi ar y cyfan). Enillodd y record yn ystod Pencampwriaeth y Pum Gwlad ym Mharc yr Arfau, Caerdydd gyda cic gosb yn mesur yn union 70 llath 8 a hanner o fodfeddi (64.2m) yn erbyn yr Alban. Record sy'n anodd rhagori arni hyd yn oed heddiw ar y llwyfan rygbi ryngwladol.
Roedd y gic hyd yn oed yn fwy gwefreiddiol oherwydd ei bod o ongl sylweddol nid yn union o flaen y pyst, roedd hi wedi'i chicio o'r ddaear yn hytrach na ti cicio ac roedd hi'n ddiwrnod llaith a'r bel felly'n drymach.
I'w weld yma mae plac sy'n coffáu ei orchest, a'r esgid a giciodd y gôl enwog.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment