Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganwyd Edward John Richard Thomas ym Morgannwg ar 14 Hydref 1883, a bu farw yn Ffrainc ar 7 Gorffennaf 1916.

Blaenwr oedd "Dick" Thomas a enillodd 4 cap yn erbyn De Affrica yn 1906, Ffrainc yn 1908, Iwerddon yn 1908 a'r Alban yn 1908.

Chwaraeodd i Ferndale, Penygraig, Mountain Ash a Phen-y-bont ar Ogwr.

Roedd yn blismon, ac enillodd Bencampwriaeth Bocsio Pwysau Trwm Heddlu Morgannwg. Dyrchafwyd Dick i rheng Sarjant yn yr heddlu yn 1913. Ym mis Ionawr 1915 listiodd yn y Gatrawd Gymreig. Dyrchafwyd ef i rheng Uwch-ringyll Cwmni.

Collodd ei fywyd mewn brwydr ym Mametz Wood yn ystod Brwydr y Somme.


Mae URC yn ddiolchgar i Mr Richard Thomas (ŵyr y diweddar E J R Thomas) am fenthyg yr eitemau hyn sy'n dyddio o 1908.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw