Y Rhingyll Harry (Henry Tudor) Rees ar gefn ceffyl
Y Rhingyll Harry (Henry Tudor) Rees ar gefn ceffyl
Disgrifiadau
Dyma'r cyn-chwaraewr rygbi wrth ei waith fel heddwas. Chwaraeodd Henry ar y blaen dros Gymru a Chaerdydd, ymhlith eraill, yn ugeiniau a thridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bryd hynny, gan nad oedd rygbi yn ei gyflogi'n llawn amser fel y byddai erbyn hyn, gweithiodd fel heddwas hefyd.
Fe'i disgrifir fel 'Welsh Stalwart' gan bapur newydd o'r cyfnod, sydd yn ei ganmol am ei gryfder a'i natur dda. Oddi ar y maes chwarae,roedd yn gawr addfwyn, yn ól yr erthygl. Mae'r llyfr 'Who's Who of Welsh Rugby Greats' yn olrhain ei yrfa hyd ei ymddeoliad o'r byd rygbi i ddychwelyd i blismona, y tro hwn dros lofeydd y National Coal Board.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment