Glofa'r Cwm
Disgrifiadau
Llun yn dangos Isaac Rees, rheolwr y pwll rhwng 1918 a 1923 (ar y chwith, â'r mwstas!) a glowyr eraill tan ddaear. Suddwyd dwy siafft rhwng 1909 a 1914.
Cyrrhaeddodd bwll 'Margaret'- y prif siafft, a'r hyn a adwaenwyd fel y 'downcast ventilation pit'- ddyfnder o 2384 droedfedd, 9 modfedd, ac roedd hi'n mesur 24 troedfedd ar ei thraws.
Roedd yr ail siafft, 'Mildred' neu'r 'upcast ventilation pit' yn llai o faint, ond roedd ganddi ddyfnder o 2315 troedfedd a 9modfedd, a lled o 20 droedfedd. Hon sydd yn y llun uchod. Mae'r llun yn ymddangos yn y llyfr 'Rhondda Cynon Taff Collieries' gan John Cornwell (cyhoeddwyd gan Landmark Publishing, 2008), ond sganiad o lun a roddwyd i Isaac yw hwn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment