Disgrifiad

Paratowyd y gyfrol hon am ffermydd ac enwau caeau Blaenau Tywi gan wirfoddolwyr o Grwp Hanes Blaenau Tywi yn ystod 2012-13. Sbardunwyd y prosiect gan y teimlad fod enwau caeau'r ardal yn cael eu diystyru a'u hangofio am taw rhifau bellach a ddefnyddir i gofnodi caeau, a hefyd am fod y nifer gynyddol o bobl ddi-Gymraeg sy'n symud i'r gymdogaeth heb fodd i werthfawrogi cyfoeth yr enwau.

Dyma'r chweched darn o 11 o'r llyfr a gyhoeddwyd yn 2014, yn cynnwys map o bentref Cil-y-cwm, lleoedd a chaeau yn nrhefn y wyddor o R i Y

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw