Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Gwnaed gan y Preifat Brinley Rhys Edmunds o Dunraven Street, Y Barri, fel anrheg i'w fam. Arno mae arwyddnod y Gatrawd Gymreig a'r arwyddair, 'Gwell Angau na Chywilydd'.Bu farw'n 19 oed yn Ffrainc ar 5 Medi 1918, wrth wasanaethu gyda Throedfilwyr Durham. Roedd wedi ymrestru gyda'r Gatrawd Gymreig yn wreiddiol cyn cael ei ddiswyddo am fod dan oed ym 1915. Pincas siâp calon wedi'i orchuddio â chotwm a'i lenwi â llwch llif. Wedi'i addurno â phinnau gwydr a decoupage papur yn dangos arfbais Adran Troedfilwyr 41 a 69 y Gatrawd Gymreig. Wedi'i addurno â brêd gwlân lliw melynbinc.Rhif derbyn: F78.247.29

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw