Rysait Sbwng Di-wy o'r Ail Ryfel Byd
Disgrifiadau
Paratowyd y rysáit yma yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012 fel rhan o ymgyrch 'Blas y Brifwyl' gan Cymru'r Gwir Flas a Chasgliad y Werin Cymru.
Cynhwysion
6oz blawd hunan-godi gyda 1 llwy de gwastad o bowdwr pobi NEU flawd plaen gyda 3 llwy de o bowdwr pobi
2 1/2 oz margarine
2oz siwgwr
1 llwy fwrdd gwastad o driog melyn
1/4 peint o laeth neu o laeth a dwr
jam ar gyfer y canol
Dull
Hidlwch y blawd a'r powdwr pobi. Curwch y margarine, siwgwr a'r triog melyn tan ei fod yn ysgafn, ychwanegwch ychydig o'r blawd ac yna ychydig o'r hylif. Gwnewch hyn tan i chi gael cymysgfa lyfn.
Rhowch saim ar ddwy dun 7 modfedd a rhannwch y gymysgedd rhwng y tuniau.
Pobwch am oddeutu 20munud mewn popty cymhedrol dwym.
Gadewch i oeri a rhowch y jam yn ei ganol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment