Rysait Cacen Finegr
Disgrifiadau
Paratowyd y rysáit yma yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012 fel rhan o ymgyrch 'Blas y Brifwyl' gan Cymru'r Gwir Flas a Chasgliad y Werin Cymru.
Cynhwysion
6oz blawd hunan-godi
3oz margarine
3oz siwgr
1 llwy fwrdd finegr
1/2 llwy de o soda pobi
3-4oz ffrwythau sych
Dull
Hidlwch y blawd. Curwch y margarine a'r siwgr. Arllwyswch y llaeth mewn i fowlen fawr, ychwanegwch y finegr a'r soda pobi; mi fydd y gymysgedd yn codi ac yn 'ffrothian' yn y fowlen.
Cyfunwch y blawd a'r hylif finegr gyda'r margarine a siwgr ac ychwanegwch y ffrwythau sych.
Rhowch mewn tun 7 modfedd gyda saim a blawd rownd yr ochrau a'r gwaelod a phobwch mewn popty cymedrol am awr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment