Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Paratowyd y rysáit yma yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012 fel rhan o ymgyrch 'Blas y Brifwyl' gan Cymru'r Gwir Flas a Chasgliad y Werin Cymru.
Hanes Roedd poten dato yn boblogaidd iawn yn siroedd Aberteifi a Phenfro ble 'roedd digonedd o datws bob hydref. Byddai llawer yn cael ei baratoi ar yr un pryd ac yna byddai'n cael ei bobi mewn popty wal frics. Byddai'r popty'n cael ei gynhesu o leiaf unwaith yr wythnos ar gyfer pobi bara a, gan fod y brics yn dal eu gwres am sawl awr, byddai'n arferiad i bobi cacennau a phwdinau yn y gwres yma dros nos.
Cynhwysion Tatws, wedi berwi mewn dŵr hallt Llaeth 1 ŵy, wedi'i guro Siwgr Cwrens Blawd plaen Sbeis Dwr Ychydig o halen
Dull Draeniwch y tatws a'u rhoi mewn powlen fawr. Ychwanegwch dalp neu ddau o fenyn a photsiwch yn dda. Ychwanegwch weddill y cynhwysion sych (mi fydd yr union fesuriadau yn amrywio yn unol â blas personol) a chymysgwch gyda'r wy ac ychydig o laeth er mwyn creu cymysgedd meddal.
Rhowch y gymysgfa mewn tun bâs a phobwch mewn popty cymedrol.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw