Skip to main content

Evan Hugh Jenkins (1888–1979), Bow Street

Disgrifiadau

Evan Hugh Jenkins (1888–1979), Bow Street (ail o'r chwith). Gwasanaethodd ef a’i ddau frawd David Morgan Jenkins a Richard Thomas Jenkins gyda’r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Deuai’r teulu o ardal Capel Dewi/Bow Street ond bu’r tri yn gweithio yng nglofeydd y Rhondda cyn y rhyfel ac yn byw ym Mhont-y-gwaith.
Ymunodd EHJ â’r Royal Regiment of Artillery yn Hydref 1914 gan ddod yn Bombardier gyda’r magnelwyr (41810). Roedd yn y Ffrynt Gorllewinol rhwng 17 Gorffennaf 1915 a 12 Tachwedd 1915 ond yn Ionawr 1916 trosglwyddwyd ef i Salonica. Dychwelodd i Ffrainc ym Mai 1918 a chael ei rhyddhau o’r fyddin ar 7 Chwefror 1919.
Roedd ei frawd, David Morgan Jenkins (1885–1963) gyda’r RAMC (Y Corfflu Meddygol Brenhinol) gan ymfudo wedi’r Rhyfel i Ganada, Roedd brawd arall Richard Thomas Jenkins (1893–?) gyda Chatrawd York and Lancaster.

Owner:
Cofio a Myfyrio: Prosiect RhBC Capeli Gogledd Ceredigion
Crëwr:
Evan Hugh Jenkins
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
18/2/2015
Gwelediadau:
946
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment