Yr Amlen Werdd
Disgrifiadau
Yr Amlen Werdd. 'Ryw fore, cyn i ni fyned dros y top, daeth amlen werdd (math o registered envelope) i law pob un ohonom, a dychmygem y gallem anfon pob math o gyfrinach ynddynt gan nad oedd y sensor yn eu hagor. Ymddiriedid yn anrhydedd yr ysgrifennwr, a gelwid arno i dystio, trwy dorri ei enw ar yr amlen, na cgyfeiriai ei chynnwys at ddim ond materion preifat a theuluaidd. Pan gaent gyfle i ddefnyddio'r amlenni hyn, fellym ysgrifennai'r bechgyn yn fwy rhydd, gan ddweud pob hanes ... ond y rheol oedd yr agorid anbell un, un o bob cant neu fil efallai ...
Dyma ysgrifennu llythyr maith yn Gymraeg at fy rhieni ... rhoddais hanes fy ewyllys ... faint o arian oedd gennyf yn y Banc yn Aberystwyth, a llawer o gyfrinachau eraill ... Ond fe awgrymais yn gynnil foed brwydr fawr Ypres ar gychwyn, a'i bod yn bur debyg y byddwn yn y frwydr cyn pen deuddydd: dweud hynny mewn dull niwlog ... eto'n ddigon eglur i'm rhieni ddeall'.
Yn anffodus agorwyd y llythyr. Aeth rhai misoedd heibio.
'A minnau yn dal y lein yn 'No. 1 post' ger Pinner Farm, A rmentiers, ychydig cyn Nadolig 1917, daeth rhedegwr i fyny oddi wrth y Company Officer yn gofyn am i '57 davies' fyned i lawr ar unwaith ...
Dangoswyd y llythyr iddo (ynghyd â'r cyfieithiad gwael ohono) ac wedi iddo gadarnhau mai ef a'i hysgrifennodd dywedwyd wrtho: 'Well, you are in for Court Marshall in three weeks' time'.
Wedi iddo ymddangos gerbron y llys, fe'i dedfrydwyd i '48 days, Number 1 Field Punishment'.
Arweiniwyd fi'n ôl i'r ffosydd a'm gosod yn y lle gwaethaf posibl...
Ond yna un bore gorchmynnwyd ef i ymddangos gerbron y swyddog drachefn. Er mwyn syndod iddo, dywedwyd wrtho: 'You are a free man...'
Roedd yr amlen werdd yn atgoffa J. M. Davies o beth all fod wedi digwydd iddo.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment