arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Paratowyd y rysait yma fel rhan o weithgareddau 'Blas y Brifwyl' yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 a oedd yn bartneriaeth rhwng Cymru'r Gwir Flas a Chasgliad y Werin Cymru.
Roedd yr un yma'n rysait boblogaidd yn ystod cyfnod dogni bwyd.
Cynhwysion:
½ oz margarine 8oz llysiau amrwd cymysg gratiedig 2 wy ffres neu wyau sych halen a phupur Dull: Toddwch y margarine mewn sosban fach; ychwanegwch y llysiau a chynheswch tan eu bod wedi coginio'n ysgafn. Curwch yr wyau yn ysgafn gyda halen a phupur ac arllwyswch dros y llysiau. Sgramblwch yn ysgafn a'u gweini gyda thatws, fel llenwad brechdan neu ar dost.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw