Ffrog babi
Ffrog babi
Disgrifiadau
Ffrog gambri wen i fabi, gyda gwasg uchel, sgert laes a llewys hir. Mae'r bodis yn cynnwys blociau o dyciau pin fertigol wrth yr ysgwyddau a llinell o wyth bloc o dyciau pin islaw. Uwchlaw'r wasg mae llinell o dri tyc llorweddol, gyda dwy res o glymau Ffrengig mewn edau wen o boptu. Mae'r gyddflin a'r llinell odre wedi'u haddurno â blodau gwyn, gydag ymylon siap sgolop a phwythau twll botwm. Gwnaed gan leianod o Wlad Belg oedd yn ffoaduriaid yng Nghasnewydd, Gwent.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment