Pen Hendy - pen carreg o ddiwedd yr Oes Haearn
Pen Hendy - pen carreg o ddiwedd yr Oes Haearn
Disgrifiadau
Darganfuwyd y pen carreg enigmatig hwn, wedi'i gerfio o dywodfaen coch sy’n llawn cwarts, wrth aredig cae ar fferm Hendy ger Llanfairpwllgwyngyll ar Ynys Môn yn ystod y 1950au. Credir ei fod yn dyddio o ddiwedd yr Oes Haearn a'i fod yn cynrychioli dwyfoldeb neu dduw Celtaidd. Mae top ei ben yn fflat ac mae gan y geg dwll ar un ochr; nodweddion sy’n awgrymu bod offrymau wedi'u gwneud i'r pen fel rhan o ddefod neu seremoni.
Mae'r pen ar fenthyg i Oriel Môn gan deulu'r diweddar Eluned Olloson.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment