Plant amddifad o Loegr ym Mhont-Siân, 1890-1914
Disgrifiadau
Dyma gyfweliad rhwng gwleidyddwr Plaid Cymru, Cynog Dafis, a Kate Davies, Ardwyn, Maesymeillion, awdur y llyfr "Hafau fy Mhlentyndod".
Mae'r cyfweliad yn ymwneud â dyfodiad nifer sylweddol o bobl ifanc o gartrefi plant amddifad yn Lloegr i ardal Pont-Siân rhwng tua 1890 a 1914 i weithio ar ffermydd yr ardal. Bu Kate Davies yn cydweithio â nifer o'r ieuenctid hyn ar ffarm Castell Hywel ac roedd yn wybodus iawn amdanyn nhw.
Prif, ond nid unig, thema'r cyfweliad yw sut y llwyddodd y Saeson hyn i ddysgu Cymraeg.
Kate Davies (1892-1980)
Ardwyn, Maes-y-meillion, Pren-gwyn, Llandysul, Ceredigion.
Ganed yn Lodge Berthlwyd, Pren-gwyn. Gwraig tŷ ddiwylliedig iawn, wrth ei bodd yn adrodd hen hanesion a storïau ac yn difyrru plant a chymdogion. Bu'n cystadlu mewn eisteddfodau lleol ar lenyddiaeth, a chyhoeddodd gyfrol o'i phrydyddiaeth: Cerddi Kate Davies (Llandysul, 1946), a chyfrol o'i hatgofion: Hafau fy Mhlentyndod ym Mhentref Pren-gwyn (Llandysul, 1970). Hi hefyd oedd awdur y gyfrol: Canrif o Addysg Gynradd yn Hanes Ysgol Tre-groes, 1878-1978 (Llandysul, 1978). Yr oedd ei thad, Daniel Thomas, yn frawd i Thomas Thomas (Sarnicol), awdur Chwedlau Cefn Gwlad (1944).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment