Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Er yr agweddau goddefgar tuag at leiafrifoedd ethnig a oedd, ar y cyfan, yn gyffredin yn y Barri, roedd rhagfarn a hiliaeth yn bresennol, ac arweiniodd hyn at anghydraddoldeb rhwng y trigolion brodorol, gwyn a’r rheiny a ddaeth o dramor. Yma ceir y cyfweledigion yn rhannu eu hatgofion o’r sefyllfaoedd yma – fel yr oedd mewnfudwyr du yn ei chael hi’n anodd cael gwaith tu allan i’r dociau, yn derbyn eu tâl diweithdra ar wahanol ddiwrnod, ac yn cael eu trin yn wahanol yn yr ysgolion hyd yn oed.
Sonnir am y modd na dderbyniodd y milwyr du a gollwyd yn y rhyfel yr un driniaeth â milwyr gwyn, a bod nifer o enwau yn dal i fod ar goll oherwydd na ddangoswyd digon o gonsyrn iddynt ar y pryd.
Mae’r cyfweledigion yn rhannu’u barn ynglŷn ag effaith yr hiliaeth yma a’r ffaith fod yn rhaid iddynt fod yn fwy croendew, yn ogystal â’r fantais iddynt hwy wrth geisio addasu i’w cymunedau brodorol a’r gymdeithas oddi allan.

“In the Same Boat”, 1990
Cyfweliadau hanes llafar gyda thrigolion y Barri, yn trafod y datblygiad diwylliannol a chymdeithasol o ddechrau’r 20fed Ganrif hyd at 1990. Mae’r ffilm fer hon wedi’i rhannu yn 7 rhan, pob un yn delio ag agwedd wahanol o fywyd cymdeithasol y Barri.
Cyfweledigion:
Phyllis Caldwell, Maureen Flipse, Pini Hicks, Violet Jones, Frossini Moran, Johnny Palmer, Gwen Payne, Elsie Phipps, Betty Pring and Ronnie Smith.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw