Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tynnwyd y llun rhywbryd rhwng y 7fed a'r 11eg o Chwefror 1916 ym Marics Hillsborough, Sheffield. (o'r chwith i'r dde): (rhes flaen): 1. John Henry Griffith [RAMC 81806] Rhydymain [Llangoed 1926-32, Dinbych 1932-64]; 2. Charles Currie Hughes [RAMC 81891] Cemaes [Bootle , Aberteifi ]; 3. Henry (Harri) Rees Owen [RAMC 81741/LC 529418] Llanrug [Llannerchymedd 1923-30, Llannefydd 1930-50, Llanbedrog 1950-60, Deiniolen]; (rhes ôl): 4. William Richard Jones (?) [81748] Llanddeusant [Y Drenewydd 1925-45, Penysarn 1945-66] 5. Robert Gwilym Jones [RAMC 81878] Bl.Ffestiniog/Llangefni [Cenhadwr yn India - a phriodi yno; LlanfairPG]; 6. Owen William Owen [RAMC 81936] Braichysaint, Llanystumdwy: [Cei Connah; Cerrigydrudion; Llanwddyn -1953; Llanddeusant 1953-60; 7. John Llewelyn (Llywelyn) Hughes [RAMC 81879] Rhyd-ddu [Pandy Tudur 1923-29, Porthaethwy 1929-56]. Ymunodd un arall o fyfyrwyr Clynnog hefo'r un uned yn Llandrindod tua mis neu ddau yn ddiweddarach, sef John Edeyrn Williams [81966/LC529435] Edern [Acrefair; Ffynnongroew; Gwalchmai] (cymharer rhestr o'r Pregethwyr yn y Fyddin: Ysgol Clynnog (a cholegau eraill): https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3448753/3448758 (yn wahanol i'w gyd-fyfyrwyr, ymunodd Seth Pritchard hefo'r "Labour Corps" [LC 498337] (llun tebyg iawn i hwn - yn yr un lleoliad - oedd i'w weld ar wefan Amgueddfa Cymru [Linc wedi torri?] ( http://www.amgueddfacymru.ac.uk/rhyfel-byd-cyntaf/?id=4851 ) yn dangos David Ellis ("y bardd a gollwyd" [RAMC 81871]), Cynan [81725], Lewis Valentine [81908], ac eraill)

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (1)

CMC1916's profile picture
http://1914-1918.invisionzone.com/forums/index.php?showtopic=60783 (gweler tud.2 (negeseuon rhif 42-44) am ragor o wybodaeth am y sawl ymunodd a'r uned yma) (-see postings 42-44 on page 2 for information on the individuals who served with this unit)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw