Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llun ar wydr ("Magic Lantern Slide") yn dangos rhan o bentref Rhyd Ddu yn edrych ar hyd y lon i gyfeiriad Caernarfon - y "Mynydd Mawr" yn y cefndir.
"Ty Mawr" yw'r adeilad mawr yng nghanol y llun ar ochr chwith i'r ffordd - gyda'r hen ffermdy/beudy? wrth ei ymyl. Mae'n debyg mai Morgan Terrace neu Edward Terrace yw'r rhesdai ar yr ochr dde i'r ffordd gyda'r gwragedd y tu allan yn gwylio'r ffotograffydd wrth ei waith.
- Ar ganol y ffordd yn y pellter - tu ol i'r "pram" hen-ffasiwn, mae na ddwy wraig yn siarad - un yn dal plentyn yn ei breichiau.
Dyddiad? - tua dechrau'r ugeinfed ganrif neu fymryn cynharach ? - o edrych ar gyflwr y ffordd, a chyn dyfodiad y polion teligraff, ac yn ol steil y gwisgoedd

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw