Haearn nwy 'Fairy Prince' (1999.60.7)
Haearn nwy 'Fairy Prince' (1999.60.7)
Disgrifiadau
Cyn dyfodiad trydan roedd nifer o wahanol ffyrdd o smwddio. Câi'r haearn 'sad' neu 'fflat' ei dwymo ar y tân neu'r popty. Slyg o fetel wedi ei dwymo ymlaen llaw, neu lwmp o siercol gwinias oedd yr haearn bocs. Byddai heyrn nwy'n gysylltiedig a thiwb rwber i fantl nwy. Roedd heyrn wedi eu twymo a gwirod neu betrol i'w cael hefyd er eu bod ychydig yn ddrutach. Y broblem fwyaf gyda'r heyrn didrydan cynnar yma oedd eu bod yn fudr a'i bod yn anodd rheoli'r tymheredd yn aml. Byddai llawer o amser yn cael ei wastraffu'n eu twymo i'r tymheredd iawn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment