'New World' ffwrn nwy gyda gridyll tu fewn a rac i dwymo llestri tua 1950.
Disgrifiadau
Roedd Aberystwyth yn un o'r trefi cyntaf yng Nghymru i gael cyflenwad nwy. Ym 1838 y gwnaed nwy yn Aberystwyth am y tro cyntaf yn y gwaith nwy ar ochr y dref i Goedlan y Parc. Cafodd rhai tai preifat eu cysylltu ac fe osodwyd 80 o lampau nwy yn y strydoedd. Cyn dyfodiad y rheilffyrdd yn y 1860au, cludwyd glo, a ddefnyddid i wneud nwy, ar y môr. Cafodd gwaith nwy Aberystwyth ei ehangu ym 1870 a'i symud i safle newydd yn Llanbadarn ym 1900. Defnyddid nwy yn llawer o dai yng Nghymru yn y 1920au ac roedd llawer yn dal i'w ddefnyddio ar gyfer eu golau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae llawer o ardaloedd yng Nghymru sydd heb eu cysylltu i'r prif gyflenwad nwy o hyd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment