Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tystysgrif geni Evan Samuel Rees, mab John Rees a Jane Rees o Llangyfelach (is-ardal siroedd Abertawe a Morgannwg ar y pryd).

Ymunodd Evan Samuel Rees â’r fyddin yn 19 oed a gwasanaethodd yn y Dwyrain Canol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhif medal: 1669, PTE E.S. Rees gyda'r R.A.M.C (Corfflu Meddygol y Fyddin Frenhinol). Goroesodd y Rhyfel Mawr a dychwelyd adref i'r ardal cafodd ei eni i weithio fel saer coed. Gweithiodd Evan yn y dociau Abertawe fel saer yn ystod y Blitz Abertawe yn 1941, WW2. Roedd hefyd yn drwmpedwr gyda Band Treboeth ac yn aelod o Gapel Caersalem, mae ei enw ar y Rhôl Anrhydedd yno.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw