Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Coginio ar dân agored ac ar y ffwrn agored yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. - Yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru ni fu llawer o newid mewn dulliau coginio. Pot coginio ar dân mawn am welid yn y rhan fwyaf o gartrefi, boed yn dlawd neu’n gyfoethog.

Brecwast
Cawl llaeth - Llaeth berwedig wedi ei dewychu gyda blawd ceirch, gyda darnau bach o fara.
Bara llaeth - Bara a llaeth twym gyda siwgr a halen.
Potes - Cig eidion neu facwn gyda darnau bach o datws neu fara.

Cinio
Hwn fyddai’r prif bryd fel rheol.
Cawl - Darn mawr o facwn neu gig eidion wedi ei halltu wedi ei ferwi mewn crochan gyda thatws a pha bynnag lysiau eraill oedd ar gael. Byddid yn ychwanegu at hwn yn ddyddiol ac yn y gaeaf byddai’n bryd rheolaidd.
Stwnsh rwdan - Stwnsh tatws a rwdan gyda bacwn, cig moch neu gamwn wedi ei ferwi.

Fel rheol dim ond ar ddydd Sul y byddai pwdin. Pwdin reis wedi ei goginio yn y ffwrn ar ôl coginio’r cig rhost er mwyn defnyddio’r gwres. Twmplenni siwet afal neu bwdin siwet yn y gaeaf.

Te’r prynhawn.
Bara plaen fel rheol gyda menyn a chaws neu jam cartref. Roedd bara ceirch yn gyffredin iawn yn y gogledd. Teisennau toes, teisennau cytew neu leicecs wedi eu gwneud ar lech bobi.

Swper.
Yn debyg i’r brecwast a photes eildwym weithiau.
Uwd blawd ceirch gyda llaeth neu ba bynnag fwyd oedd yn weddill ar y diwrnod.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw