Llech Bobi DSCN2767.JPG
Llech Bobi DSCN2767.JPG
Disgrifiadau
Yn wreiddiol carreg wastad denau ydoedd ac fe’i defnyddid ar gyfer coginio bara ceirch neu fara barlys. Fel arfer byddai wedi ei gwneud o haearn ac fe’i gelwid yn radell mewn rhai mannau, neu’n faen neu blanc mewn mannau eraill. Mae rhai’n dal i gael eu defnyddio i wneud teisennau cri neu leicecs.
Fe’i defnyddid gyda phot coginio wedi eid roi ar ei ben i waered ar drybed ac fe ddaeth y llech bobi’n sylfaen i fath o ‘ffwrn’ esgud ar gyfer pobi bara. Arferid gwthio’r mawn neu’r cols o amgylch yr ochrau er mwyn cynyddu’r gwres. Mewn rhai ardaloedd gelwid hyn yn “bobi yn y baw”.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment