Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

NICOLA TUSTAIN
Hanes marchoges

Fy enw i yw Nicola Tustain. Cefais fy ngeni ar 27 Rhagfyr 1977 a dwi’n byw ger Corwen. Dechreuais farchogaeth yn dair oed, ar geffylau fy nhad-cu a’m mam-gu. Dechreuais yn y Gymdeithas Marchogaeth i’r Anabl yn naw oed, ac o hynny ymlaen, fe ddatblygais fy nghariad tuag at geffylau. Mae gen i barlys a dystonia ar fy ochr dde, sydd fel cael corff wedi’i dorri’n ei hanner – mae un hanner yn normal ac mae gan yr hanner arall fyd bach ei hunan sy’n llawn poen a gwayw.

Fe ges fy mwlian yn yr ysgol, a phan oeddwn yn mynd i farchogaeth unwaith yr wythnos, roedd yn rhyddhad. Roedd e’n rhywle lle nad oeddwn i’n cael fy ngweld fel rhywun â phroblemau. Bydden nhw’n edrych i fyny ata i ar y ceffyl, yn hytrach nag i lawr arna i yn yr ysgol.

un ohonyn nhw

Pan ddechreuais i farchogaeth, doedd dim llawer o gystadlaethau y gallwn i gymryd rhan ynddynt mewn dressage, dim ond un y flwyddyn. Teimlais y wefr ar unwaith. Yn fy Mhencampwriaethau Cenedlaethol cyntaf, fe welais i dîm Prydain Fawr a oedd yn hyfforddi ar gyfer Atlanta ar y pryd, ac fe benderfynais fy mod i eisiau siaced gyda bathodyn Prydain Fawr arni. Roeddwn i eisiau bod yn un ohonyn nhw.

Cefais fy newis un diwrnod i farchogaeth o flaen y Dywysoges Anne yn ein Cymdeithas Marchogaeth i’r Anabl leol. Dwi’n cofio’r achlysur yn dda. Roeddwn yn gwisgo fy ngwallt mewn dwy gynffon ac fe ddaeth un o’r ymddiriedolwyr a gofyn imi, “A phwy wyt ti?” Ac fe ddywedais i, “Fy enw i yw Nicola Tustain a rhyw ddydd dwi’n mynd i fod yn Bencampwraig Byd”, ac fe edrychodd hi arna i a dweud, “Wyt ti wir?”

Fe enillais fy Mhencampwriaethau Cenedlaethol cyntaf yn 11 oed, a dwi erioed wedi edrych yn ôl. Cyn gynted ag yr enillais i, dyna hi; roeddwn i eisiau ennill eto ac eto ac eto. Yn 13 oed, aed â fi i Swydd Warwick lle roedden nhw’n chwilio am dalent ar gyfer carfan Prydain Fawr. Ar y pryd, dim ond carfan iau, hŷn ac elît oedd ganddyn nhw ac, yn anffodus, roeddwn i, yn 13 oed, yn rhy ifanc, felly roedd rhaid imi gael ychydig yn rhagor o flynyddoedd o brofiad. Ond fe gadwon nhw lygad arna i.

marchogaeth fel miss piggy

O’r ceffylau dwi wedi’u marchogaeth, mae rhai ohonyn nhw yn gwybod fod rhywbeth nad yw’n union fel y dylai fod. Pan dwi’n marchogaeth, dwi’n marchogaeth gyda’m braich allan i’r ochr, ac mae ’nghoes i yn mynd yn ôl mewn gwayw gan roi gwahanol negeseuon allan. Dwi’n marchogaeth gydag awenau arbennig, awenau bar, ac mae’n rhaid iddyn nhw ddod i arfer â hynny. Roeddwn i’n arfer marchogaeth fel Miss Piggy!

Fe farchogais i lawer o geffylau a merlod gwahanol i ddysgu’r sgiliau angenrheidiol i amlygu eu cryfderau a chuddio’u gwendidau, mewn sefyllfaoedd prawf. Pan oedden ni’n arfer mynd i wledydd gwahanol, roedden ni’n arfer marchogaeth eu ceffylau a’u merlod nhw, achos doedden ni ddim yn gallu fforddio mynd â’n rhai ni. Roedd hi’n fater o roi enwau’r ceffylau mewn het, enwau’r marchogion mewn het, ac fe fyddech chi’n tynnu enw ceffyl allan, ac yn ymarfer gyda’r ceffyl hwnnw am dri i bum diwrnod. Mae’n beth mawr i geffyl allu dod i arfer â’r marchog mewn cyn lleied o amser, hyd yn oed heb farchog anabl ar ei gefn. Roedd angen llawer o ymddiried rhyngddoch chi a’r ceffyl, partneriaeth i allu mynd allan a chystadlu.

breuddwydion yn dod yn wir

Yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol y ces fy llwyddiant mawr cyntaf. Roedd yn hollol anhygoel dod yn gyntaf yn 11 oed, a chystadlu ochr yn ochr â’r rhai oedd yn hyfforddi ar gyfer Atlanta. Ond doedd hi ddim yn ddigon da i mi ennill y Pencampwriaethau Cenedlaethol; roeddwn i eisiau gwneud yn well. Roeddwn i wastad yn gosod amcanion uwch i fi fy hun. Wna i byth anghofio Gemau Paralympaidd Sydney. Fi oedd yr un ifancaf yn y garfan. Doedd y ceffyl a ddewisias i’r tro hwnnw heb wneud unrhyw dressage a heb fod yn yr Arena Olympaidd o’r blaen; cafodd ei ddefnyddio am y rheswm syml eu bod nhw’n edrych am geffylau i lenwi’r gystadleuaeth. Fe es i allan am y profiad; dyna sut roeddwn i’n edrych arni, dyna sut roedd y rheolwyr yn edrych arni, ond, pan gyrhaeddais i, doedd y profiad yn unig ddim yn ddigon i mi. Fe es i o gwmpas a gweld y gystadleuaeth ac fe ddywedais, “Dwi’n mynd i fynd allan ac ennill medalau”. Y diwrnod cyntaf o gystadlu, cefais gydradd efydd am y cynhesu i fyny, ac yna fe es i ymlaen i ennill efydd. A phob dydd, fe ddaeth pethau’n well ac, erbyn y diwrnod olaf, fe gefais i aur. I mi ennill aur, yn fy Ngemau Paralympaidd cyntaf, yr un ifancaf yn y garfan, ar geffyl anghyfarwydd yr oeddwn wedi ymarfer arno am ddim ond pum diwrnod cyn y gystadleuaeth, roedd hynny fel breuddwyd yn dod yn wir. Fy eiliad aur!

Dyna’r un sy’n aros yn fy meddwl ond mae llawer iawn o rai eraill wedi bod. Dwi wedi bod i dri Pencampwriaeth Byd; dwi wedi bod yn Bencampwraig Byd o 1999 hyd at 2007. Cefais dair medal aur yn ’99 ar Hotstuff; roedd hynny’n wych achos roeddwn i newydd brynu’r ceffyl, bedwar mis cyn y gystadleuaeth, ac fe es i ag e yno ac fe ddaeth e â thair medal aur adref imi. Yna, yn fy ail Bencampwriaethau Byd, yn 2003, fe ddywedais i wrth fy hunan, “Dwi eisiau aros yn Bencampwraig Byd”, ac fe arhosais i’n Bencampwraig Byd, ac fe gefais i dair medal aur, eto (y tro hwnnw ar Prinz Heinrich). Ac yna, ar y trydydd achlysur, fe darwyd fy ngheffyl yn gloff, felly roedd rhaid imi fynd ac edrych am un arall. Fe gefais hyd i un ond, yn anffodus, fe gefais gwymp wael, cefais fy anafu, felly fe ddes i â’m hen geffyl, Hotstuff, yn ôl. Roedd e’n ugain oed erbyn hynny, yr hynaf yn y gystadleuaeth, ac fe enillodd aur imi, eto.

Wedyn, dyna ichi Athen. Roedd Athen yr un profiad a Sydney, ond roeddwn i’n llawer hŷn. Roedd disgwyliadau gwahanol ohona i fel cystadleuydd, i fynd allan ac ennill medalau. Yn ffodus, fe wnes i hynny. Dwi wedi bod i dri Pencampwriaethau Ewropeaidd, tri Byd a thri Gemau Paralympaidd, a dwi wedi bod yn Bencampwraig Genedlaethol saith gwaith allan o wyth yn y wlad yma. Gyda’i gilydd, mae gen i 34 medal aur ers imi ddechrau cystadlu mewn tîm yn 17 oed. O ganlyniad i’r holl gystadlu hyn a’r ennill, roeddwn i’n ffodus i fod y mabolgampwr cyntaf o Gymru i gael fy enwebu ar gyfer Gwobrau Chwaraeon y Byd, a gynhaliwyd yn Lisbon yn 2004. Roedd hynny’n un adeg na fydda i byth yn ei anghofio. Ac MBE! Anrhydedd lwyr, braint i gael eich cydnabod am rywbeth rydych chi’n dwlu ar ei wneud. Fe gefais i hynny am fy ngorchestion wrth farchogaeth ond dwi hefyd yn hoffi gwneud gwaith elusennol, codi arian i ganolfannau lleol y Gymdeithas Marchogaeth i’r Anabl.

dim “o, chwarae teg”

Er bod gennych chi anabledd, er bod gennych chi offer arbennig i farchogaeth, yr hyn rydyn ni’n ei wneud, rydyn yn ysgrifennu’r cyfan ar ddarn o bapur, beth rydyn ni’n ei alw’n ‘dystysgrif esgusodi’ sy’n caniatáu inni gystadlu ochr yn ochr â phobl abl, ar yr un lefel, yn yr un cystadlaethau. Dydyn ni ddim yn cael unrhyw “O, chwarae teg”. Rydyn ni’n mynd allan yno, rydyn ni’n gwneud yn union yr un peth â nhw, rydyn ni’n cystadlu fel y bobl abl, ond rydyn ni’n rhoi gwybod i’r beirniaid pam ein bod ni’n marchogaeth yn y ffordd yr ydyn ni.

symudodd popeth i ffwrdd

Nôl yn 2001, cefais ddamwain car ddrwg, a’m gadawodd â mwy o boen lawr ochr dde fy nghorff, o ben uchaf fy nghlun i lawr at fy ffêr. Fe effeithiodd ar y ffordd roeddwn i’n dal fy mraich. Hyd at Gemau Paralympaidd Sydney (2000), roeddwn i’n gallu cadw fy mraich yn daclus braf wrth fy ochr, ond ar ôl hynny roedd hi’n eithaf anodd imi, a’r boen, mwy o boen lawr ochr dde fy nghorff. Ond mae’n rhyfedd, pan es i ar gefn ceffyl, fe ddiflannodd y trafferthion i gyd, fe aeth y poen i gyd i ffwrdd. Yr hyn dwi’n dwlu arno am geffylau a marchogaeth, fe symudodd popeth i ffwrdd, aeth e i gyd dros fy mhen, achos roeddwn i’n gwneud yr hyn yr oeddwn i’n dwlu ar ei wneud.

Fe dorais fy asgwrn cynffon chwe wythnos cyn Pencampwriaethau’r Byd yn 2007, anaf difrifol i mi achos mae angen gallu eistedd i farchogaeth y ceffyl, a doeddwn i ddim yn gallu eistedd! Yn ffodus i mi, roedd gen i dîm cefnogi gwych, roedd gen i ffisiotherapydd gwych a chafodd hi fi’n ôl ar fy ngheffyl dair wythnos cyn y Pencampwriaethau. Dwi’n cofio bod dau orchudd sedd gen i ar ben fy nghyfrwy felly roeddwn i’n eithaf uchel i fyny, yn teimlo’n eithaf anarferol. Ar y diwrnod olaf, pan ddes i oddi ar fy ngheffyl, roeddwn i’n meddwl, “Ah, diolch byth fod hynna drosodd. Dwi wedi gwneud beth roeddwn i eisiau ei wneud ac wedi gorffen”. Hwnna oedd yr anaf gwaethaf, ond fe gyrhaeddais i yno yn y diwedd.

beth yw’r peth pwysicaf?

Dwi wedi bod yn gwneud y gamp yma ers 10, 11 mlynedd. Dydw i ddim yn gallu gyrru wagen fy hun, i fynd â’r ceffylau i lefydd, felly fy mam oedd yr un oedd wastad yno wrth fy ochr. Weithiau bydden ni’n mynd i ymarfer tîm, taith o ddeg awr. Dim ond am tua chwech neu saith diwrnod y mis y bydden ni adref ac roedd hynny’n anodd i’r teulu, y bobl roedden ni’n eu gadael ar ôl, gweld yr aelodau iau o’r teulu’n tyfu i fyny. Yn gymdeithasol, roedd yn anodd hefyd, achos fyddai gen i ddim llawer o amser i wneud y pethau y byddai’r bobl y tyfais i i fyny gyda nhw yn eu gwneud. Ond wedyn, rydych chi’n gofyn, “Beth yw’r peth pwysicaf?” ac rydych chi’n medwl, “Dwi eisiau gwneud hyn”. Rydych chi eisiau bod y gorau ac mae’n rhaid ichi wneud penderfyniad, ac i mi dyna oedd y dewis cywir. Yr hyn yr ydw i wedi’i gyflawni, y llefydd dwi wedi bod iddynt, y bobl dwi wedi cwrdd â nhw, mae wedi bod yn wych.

Fe benderfynais i ymddeol; mae bron ddwy flynedd ers hynny, nawr. Yn anffodus, trawyd fy mam yn sâl. Roedd hi gyda fi trwy’r amser; hi oedd fy mentor. Allwn i ddim fod wedi ei wneud e hebddi hi.

Dwi wedi dwlu ar bob eiliad ohono, o’r dechrau i’r diwedd. Cynifer o freuddwydion wedi’u gwireddu. Oes, mae ambell i wendid wedi bod am yn ail ond dyna beth sy’n eich gwneud chi’n gryfach. Mae wedi bod yn gorwynt o fywyd cystadleuol. Roeddwn i’n un ferch fach yn edrych ar freuddwyd. Tra oedd pawb yn dweud, “Paid â bod yn wirion”, fe gyrhaeddais i yno. Os oes gennych chi freuddwyd a’ch bod yn barod i weithio’n galed yn eich bywyd, dwi’n credu y byddwch chi’n llwyddo yn beth bynnag yr ydych chi eisiau ei wneud, boed hynny ym maes chwaraeon neu unrhyw beth arall. Pan ddechreuais i gyntaf, dim ond breuddwydio oeddwn i ... ond fe gyrhaeddais i yno. Fe gyrhaeddais i yno, un cam ar y tro.

Pe bai rhaid imi ddisgrifio’n hunan mewn tri gair, byddwn i’n dweud yn dda am ganolbwyntio, penderfynol, a menyw ifanc sy’n gweithio’n galed.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw