Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

NATHAN STEPHENS
hanes taflwr

Fy enw i yw Nathan Stephens. Cefais fy ngeni ar 11 Ebrill 1988 ym Mhen-y-bont, ac erbyn hyn rwy’n byw yn Sili. Fel bachgen ifanc roeddwn yn reit fentrus, braidd yn ddrygionus, wastad mewn trwbl, yn dringo coed, yn dringo i erddi pobl eraill, yn dwyn afalau, yr holl bethau mae plant yn eu gwneud!

fy nghoes i yw honna

Ar fy mhen-blwydd yn naw oed, bues mor ddwl â cheisio neidio ar drên oedd yn symud. Roeddwn i, fy mrawd a chwpl o ffrindiau i lawr ar y cledrau – dyna lle roedden ni wastad yn mynd – rhywle i ddianc oddi wrth y rhieni, i ymlacio. Roedd tua hanner awr wedi chwech ar brynhawn Gwener, 1997, ar fy mhen-blwydd yn naw oed. Roedd trên cludo nwyddau araf yn mynd heibio. Penderfynais geisio neidio arno, llithrais, a chefais fy llusgo oddi tano. Cefais fy nharo’n anymwybodol a deffrais mewn llwyn. Roedd un o’m ffrindiau wedi fy llusgo oddi ar y cledrau tra rhedodd fy mrawd a’m cefnder i nôl help. Wyddwn i ddim beth oedd wedi digwydd nes imi geisio codi ar fy eistedd a sylweddoli, “Ie, fy nghoes i yw honna ar y cledrau”. Roedd yn sioc. Wyddwn i ddim a fyddwn byw ond roeddwn yn anadlu. Roeddwn yn llithro’n ôl a blaen rhwng bod yn ymwybodol ac anymwybodol nes i’r parafeddygon gyrraedd. Pan gyrhaeddais y prif lwybr, roedd llwythi o bobl yno, fy nhad-cu, fy mam a ’nhad. Fy nhad-cu a’m cododd i gefn yr ambiwlans gyda’m modryb, ac arhosodd fy modryb gyda mi nes inni gyrraedd yr hofrennydd. Ar y pryd roeddwn i’n ddigon hapus, wyddoch chi, eich pen-blwydd yn naw oed, cael mynd am reid mewn hofrennydd; o dan amgylch-iadau gwahanol, byddai wedi bod yn wych. Dau beth rwy’n eu cofio: un, roedd yn yrrwr ambiwlans sâl iawn oherwydd torrodd ffenest wrth facio’n ôl i goeden a, dau, imi geisio edrych allan drwy ffenest yr hofrennydd, cyn i’r morffin wneud ei waith ac imi fynd i gysgu. Deffrais ddeuddydd yn ddiweddarach, yn yr ysbyty. Rwy’n cofio deffro – roedd hynny gwpl o oriau ar ôl y llawdriniaeth, rwy’n meddwl – wedi drysu’n lân, tiwbiau ym mhobman, a gweld fy rhieni, a beichio crïo.

cyswllt llawn

Rwy’n credu imi allu addasu lawer yn gynt am fy mod mor ifanc. Ond, wrth eistedd yn yr uned gofal dwys ar Ward Tempest yn Ysbyty Treforys, y cyfan oedd ar fy meddwl oedd na allwn chwarae pêl-droed na rygbi gyda’m ffrindiau nawr, na allwn fynd i feicio gyda’m brawd, na allwn wneud dim. Ces fy symud i ward y plant lle gwnes i gwrdd â merch o’r enw Chelsea. Roedd hi’n ddwy, roedd wedi gollwng cwpanaid o de drosti ei hun ac roedd ganddi losgiadau gradd tri dros ei chorff i gyd. Pan nad oedd ei mam yno, roeddwn i’n helpu, yn gofalu amdani. Dangosodd imi fy mod yn dal i allu gwneud pethau, gyda choesau neu hebddynt. Dangosodd imi nad oedd fy mywyd ar ben.

Roeddwn yn eistedd yn ward y plant un diwrnod a daeth bachgen o’r enw Aaron Rees i mewn a dweud, “Dwi’n gwybod ei bod hi’n ddyddiau cynnar, dwi’n gwybod nad wyt ti ond newydd golli dy goesau” – roedd e wedi colli ei goesau drwy lid yr ymennydd – “ond wyt ti wedi meddwl erioed am wneud chwaraeon?” Fe ddywedais i, “Wel, roeddwn i’n arfer gwneud chwaraeon ond dydw i ddim yn meddwl y galli di wneud chwaraeon heb goesau”. Roedd i mor naïf. Doeddwn i ddim yn gwybod dim am chwaraeon i’r anabl. Dywedodd e, “Wyt ti erioed wedi meddwl am hoci sled?” “Beth yw hoci sled?” “Yn y bôn, fersiwn o hoci iâ ar gyfer pobl anabl, cyswllt llawn, ti’n gwybod. Amdani, dyrnu, popeth” … a’r geiriau “cyswllt llawn” oedd y rhai a gydiodd yndda i. A finnau’n dweud, “Ie, grêt!” Roedd wynebau fy rhieni yn llawn sioc pan glywon nhw am hyn, a chofio mod i’n dal i wella ar ôl cael impynnau croen a’m bod yn dal wedi fy ngorchuddio â bandejys, ond arhosodd ar fy meddwl drwy’r cyfnod adsefydlu ar ei hyd.

Cymerodd chwe wythnos i’m cael i allan o’r ysbyty ac yn ôl i’r ysgol yn llawn amser. Dywedodd y meddyg, “Pe bai’n unrhyw un arall, byddai wedi cymryd blwyddyn iddynt!”. Rwy’n credu mai’r rheswm yw ’mod i mor styfnig. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn ôl yn yr ysgol, yn ôl gyda’m ffrindiau, meddyliais, “Iawn, rwy’n barod nawr. Rwy’n mynd i gymryd y cam”, felly ffoniais Aaron a dweud, “Pryd mae’r hoci?”, a dywedodd, “Ar nos Sul, am un ar ddeg y nos”. Dywedais wrth fy rhieni ac roedden nhw’n mynd, “Beth? Rwyt ti am i mi fynd â ti i hyfforddi am un ar ddeg o’r gloch y nos?”. Dywedais, “Ydw”, a chwarae teg iddynt, fe wnaethant.

cael fy mywyd yn ôl ar y cledrau

Roeddwn yn fach iawn ar y pryd gan imi golli fy mhwysau i gyd yn yr ysbyty. Roeddwn yn eistedd ar y sled enfawr yma gyda ffyn, yr ieuengaf yno, yn ddeg oed. Y boi nesaf, wedyn, oedd Aaron, yn 16. Roeddwn yn sglefrio o amgylch ar yr iâ, ac wrth fy modd. Roedd un peth yn destun pryder i fy mam a ’nhad, serch hynny. Fe ddywedon nhw, “Os nad wyt ti’n deffro i fynd i’r ysgol yn y bore, dwyt ti byth yn gwneud hyn eto”. Roedden nhw’n sesiynau dwy awr felly doedden ni ddim yn cyrraedd adref tan ddau o’r gloch y bore, ac roeddwn yn deffro bob bore yn strancio, a mam yn fy llusgo allan o’r gwely, ond fe lwyddais i’w wneud. A dyna sut yr ailgydiais mewn chwaraeon a chael fy mywyd yn ôl ar y cledrau.
Newidiais ysgol, gan adael fy hen ffrindiau i gyd – un o’r pethau anoddaf ei wneud – a bu rhaid imi ganfod cylch newydd sbon o ffrindiau yn Ysgol Gyfun Ynysawdre. Doedd dim byd yno y gellid ei addasu ar gyfer pobl anabl mewn gwirionedd, felly, yn y bôn, “Galli di wneud hyn neu galli eistedd fan yna”. Doeddwn i ddim eisiau eistedd wrth yr ochr a gwylio, felly f’agwedd i oedd, “Os ydych chi’n chwarae pêl-droed, rwy’n mynd i chwarae yn y gôl; os ydych chi’n chwarae rygbi, rwy’n mynd i eistedd ar y llawr a thaclo’r pigyrnau”, a dyna wnes i, ac fe feddylion nhw, “Dydyn ni ddim yn mynd i’w rwystro rhag gwneud dim”. Fe wnes y naid uchel yn yr ysgol, yn penlinio ar fy nghadair olwyn, yn ei rowlio i fyny at y bar ac yna neidio oddi arni; fe wnes y naid hir yn yr un ffordd yn union; a bues yn chwarae criced dros yr ysgol fel wicedwr a bowliwr ac, os oeddwn yn mynd i fatio, byddai rhywun yn rhedeg yn fy lle. Roeddwn yn canfod ffordd o ymaddasu i’r gamp, ac rwy’n credu i’r ysgol ddysgu o hynny, hefyd.

rydw i eisiau un o’r rheina

Roeddwn wedi dwlu ar ddŵr o oedran ifanc iawn. Pan oeddwn yn fabi, roedd mam a ’nhad wedi fy ngadael wrth ymyl y pwll gyda chylchoedd gwynt ar fy mreichiau, fe droeson nhw oddi wrtha i ac i ffwrdd â fi. Felly, es yn ôl i’r pwll a dechrau nofio. Allwn i ddim nofio i ddechrau. Gallwn nofio broga yn iawn ond, ar ôl colli un goes a dim ond hanner y goes arall sydd gennyf, roedd fy nghydbwysedd yn y pwll yn wirioneddol ddrwg. Cymerodd ychydig imi arfer â hynny ond, fel y dywedais, rwy’n styfnig. Wnaf i ddim stopio nes imi gael pethau’n iawn. Yna, cysylltodd yr ysgol â David Roberts a dweud, “Mae gennym nofiwr ifanc sydd wedi colli’i goesau. Allet ti ddod i gael golwg arno?” Rwy’n credu fod hynny yn union ar ôl 2000, Gemau Olympaidd Sydney, felly daeth â’i fedal gydag ef, ac roeddwn i’n meddwl, “Waw! Rydw i eisiau un o’r rheina. Dim ots pa mor hir y mae’n mynd i’w gymryd, rwy’n mynd i gael un o’r rheina”. A chymerodd fi o dan ei adain, aeth â fi i Gaerffili i Glwb Nofio’r Dreigiau, a dechreuais nofio gyda David Roberts.

jyglo hoci iâ, nofio ac athletau

Drwy hynny, daeth Cyngor Cymru dros Chwaraeon i’r Anabl i wybod amdanaf. Dechreuais nofio i Ben-y-bont, es i garfan Cymru, a dechreuais nofio dros Gymru. Cefais fy ngwahodd i gemau a oedd yn cael eu cynnal gan Glwb Rotari Casnewydd, ac yno y cwrddes i â’m hyfforddwr presennol. Roeddwn yn codi pwysau ac yn chwarae tennis bwrdd, a dywedodd, “Wyt ti erioed wedi rhoi cynnig ar athletau?” A finnau’n dweud, “Naddo, erioed. Wnân nhw ddim gadael i neb gyffwrdd â gwaywffon iawn yn yr ysgol. Byddai’n reit beryglus, yn enwedig yn Ynysawdre!”, felly es draw a chwrdd â chriw hollol newydd o bobl. Doeddwn i erioed wedi cyffwrdd â gwaywffon, maen taflu, disgen. Fe roddon nhw bêl rwber fach i fi a chylch ci a dweud, “Cer ati i’w taflu nhw”. Mwynheais fy hun ond doeddwn i ddim yn meddwl y byddai’n mynd i unlle, er imi ddal ati.

Wedyn roeddwn yn jyglo hoci iâ, nofio ac athletau, ac roedd rhaid i un ohonynt fynd. Allwn i ddim gwneud y tri. Gwnaeth y nofio fi’n ffit ond roedd y dosbarthiad yn dipyn bach o broblem. Roeddwn yn yr un dosbarth â David Roberts, sydd â dwy fraich, dwy goes ac fel pysgodyn ac roeddwn i’n meddwl, “Sut ydw i’n mynd i gystadlu yn erbyn hynny?” Meddyliais, “Rwy’n dwlu ar nofio ond mae rhaid imi stopio. Fedra i ddim ennill y fedal aur yna a ddangosodd David Roberts imi drwy nofio.” Roedd rhaid imi ganolbwyntio un ai ar hoci iâ neu athletau.

Athletau a hawliodd y prif sylw. Am ddeunaw mis bues yn taflu cylchoedd a pheli rwber, ac roeddwn yn meddwl, “Ydw i’n mynd i fod yn gwneud hyn am weddill fy oes, jyst yn taflu cylchoedd a pheli?” Roeddwn yn dechrau alaru ar hynny, ond gwyddai’r hyfforddwr beth oedd yn ei wneud. Mae’n hyfforddwr gwych; mae’n gwybod sut i gael y gorau ohonoch. Gwelodd y rhwystredigaeth ar fy wyneb ac – a minnau ar fin taro’r botwm yna a ffrwydro – dywedodd, “Iawn, dere mlaen ’te, Nath. Rydyn ni’n mynd i daflu!” “Rydw i wedi bod yn taflu am ddeunaw mis!” Ac wedyn, rhoddodd waywffon imi; rhoddodd ddisgen imi; rhoddodd faen taflu imi. Es allan ac roeddwn yn anobeithiol! Roedden nhw’n mynd ddau fetr, tri metr. Roeddwn wedi gwneud yr holl waith i ddim pwrpas, ond dywedodd, “Naddo, ddim i ddim pwrpas. Mae’r hanfodion gen ti. Nawr mae angen inni adeiladu ar hynny”. Wythnos ar ôl wythnos, fetr wrth fetr, daliom ati i adeiladu ac adeiladu ac adeiladu. Y flwyddyn gyntaf o gystadlu, es drosodd i’r dosbarth iau, a doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn yn gwneud dim ohoni, ond des nôl â thair medal aur. Wedyn, ar ôl cymhwyso ar gyfer y dosbarth hŷn, a finnau’n meddwl mai fi fyddai’r bwch dihangol, es yno, a dod yn ôl â dwy fedal aur ac un arian! Oni bai am daflwr disgen o Jamaica, byddwn wedi ennill y tair, wyddoch chi. Dim ond o fetr y gwnaeth fy nghuro.

mynd i fod yn seren

Yn fy Mhencampwriaethau Ewropeaidd cyntaf, doeddwn i ddim yn disgwyl dim. Es yno i daflu’r maen a gorffen yn bumed. Roeddwn mor fach o’m cymharu â’r bois enfawr hyn, ac roeddwn yn meddwl, “Gorffennais yn bumed, yma. Am daflu’r maen mae hynny. Gallaf fwrw ymlaen o hyn!”. Wedyn, daeth Pencampwriaethau’r Byd, lle’r oeddwn yn cystadlu yn y waywffon a’r maen, ac eto gorffennais yn bumed yn y ddau. Roeddwn yn dal yn ifanc, wyddoch chi. “Mae’r bois yma ddwywaith fy oed i ac rwy’n agos iawn atynt.” Roedd fy hyfforddwr wedi dweud, o’r diwrnod cyntaf iddo gwrdd â mi, “Rwyt ti’n mynd i fod yn seren, ti’n gwybod. Mi fyddi di’n mynd i’r Gemau Paralympaidd. Ti fydd y taflwr gorau yn y taflu eisteddog.” Mae hynny’n bwysau, ond roedd yn gwybod sut i gael y gorau ohonof.

Yn ogystal â’r athletau, roeddwn yn dal i wneud hoci iâ. Cyrhaeddais yr oed lle cawn fy nerbyn i garfan Prydain Fawr ac es i Bencampwriaethau’r Byd, a mwynhau, ond roedd gorfod dewis rhwng y ddwy gamp yn dal i’m tynnu’n rhacs. Ces fy newis i fynd i Gemau’r Gymanwlad 2006 yn Melbourne, ond roedd yr un flwyddyn â Torino. Fe gnocion nhw ar fy nrws a dweud, “Rydyn ni newydd ennill ein lle ar gyfer Torino. Rydyn ni am i ti fod yn rhan o’r tîm”. Ac roeddwn innau’n dweud, “Sut gallaf i wneud hyn? Sut gallaf fi fynd i Gemau’r Gymanwlad a Gemau Paralympaidd y Gaeaf?”. Dywedodd fy hyfforddwr, “Fe ffeindiwn ni ffordd iti wneud y ddau”. Felly, cyn gynted ag yr oedd Torino wedi gorffen, byddwn ar awyren i Melbourne. Byddai rhaid i rywun ddod i’r maes awyr i ddisgwyl amdanaf. A finnau’n meddwl, “Iawn, o’r gorau”. Mae hynny’n gofyn llawer, wyddoch chi, hedfan mor bell, ac rwy’n meddwl y byddwn yn taflu un ai’r diwrnod y byddwn yn cyrraedd neu drannoeth. Tipyn o gamp. Wedyn, newidiwyd fy nosbarth o F56 i F57, oedd yn golygu nad oeddwn yn gymwys i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad. Mae’n debyg mai’r gŵyn fwyaf sydd gennyf yn erbyn chwaraeon Paralympaidd ar hyn o bryd yw’r system dosbarthiadau. Mae gennych fois ag un fraich yn rhedeg yn erbyn bois ag un goes, mae gennych fois heb goesau yn taflu yn erbyn bois â choesau. Mae 58 o ddosbarthiadau gwahanol ac, yn fy nosbarth i, rydw i, sydd wedi colli fy nwy goes, yn taflu yn erbyn bois sydd â dwy goes. Ac yn nosbarthiadau 11, 12 a 13 i’r rhai â nam ar eu golwg, mae gennych rai yn rhedeg gyda thywysydd yn yr un ras ag eraill sy’n rhedeg heb dywysydd. Mae’n ddyrys tu hwnt.

Roeddwn mor siomedig na allwn daflu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad ond, yn y pen draw, roeddwn yn dal i fynd i Torino. Roeddwn yn dal i fynd i Gemau Paralympaidd y Gaeaf. Roeddwn yn meddwl, “Ie, fe ddaw Gemau’r Gymanwlad eto. Mae fy Ngemau Gaeaf Paralympaidd cyntaf nawr”. Fi oedd y cystadleuydd ieuengaf erioed yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf. Roedd yn wych. Dydw i ddim yn meddwl y gall dim byd fyth ragori ar eich Seremoni Agoriadol fawr gyntaf.

Roedd y tîm yn hollol anobeithiol. Cawsom grasfa 8-0 gan Ganada. Cefais fy nyrnu yn fy wyneb gan Ganadiad, cefais fy nyrnu yn fy wyneb gan Goread, ond mwynheais fy hun. Roedd y profiad o fod mewn tîm yn anhygoel. Dyna’r un peth rwy’n gweld ei eisiau mewn athletau, y gwmnïaeth tîm yn yr ystafell newid, pawb yn canmol ei gilydd. Chewch chi mo hynny mewn athletau.

Ar ôl dod nôl o Torino, fe ddywedodd GB Athletics wrthyf, “Mae rhaid iti roi’r gorau i’r hoci, nawr.

Mae’n bryd gwneud enw i ti dy hyn ym maes athletau”. Roedd hynny’n ergyd.
Dyna’r gamp a oedd wedi f’annog i ailgydio mewn chwaraeon. Dyna’r gamp gyntaf imi ei gwneud ar ôl colli fy nghoesau. Roedd meddwl, “Un gamp ac un yn unig” yn gam mawr, a dyna pryd y cymerodd athletau ran fwy blaenllaw yn fy mywyd.

Feddyliais i byth y gwnawn i ennill fy lle i fynd i Beijing; bu’n rhaid imi weithio’n galed iawn. Roeddwn yn y gampfa yn ymarfer ddwy waith y dydd, dair gwaith y dydd, chwe diwrnod yr wythnos. Cawn seibiant ar y Sul oherwydd roedd fy nghorff wedi ymlâdd, a dyna’r unig ddiwrnod o orffwys ... a thalodd y gwaith ar ei ganfed. Cymhwysais yn y waywffon, fy nisgyblaeth orau, yng nghystadleuaeth gyntaf y tymor, gan gyrraedd y pellter cymhwyso, a thaflu gorau personol (PB). Cyrhaeddais y safon A ar gyfer Beijing ac, ar ôl hynny, gyda’r ddwy ddisgybl-aeth arall, wel, os llwydda i, bydd hynny’n grêt. Roeddwn ar fy ffordd yn yr un roeddwn i am ei gwneud, y waywffon. Roeddwn ddau fetr yn fyr o record y byd ar y pryd. Gydol y tymor, bues yn gweithio’n galed gyda’r waywffon ac enillais fy lle yn y taflu maen. Roedd y ddisgen wastad yn mynd i fod yn anodd, fy nisgyblaeth wannaf, ac yna, yng nghystadleuaeth olaf y tymor, taflais orau personol enfawr a chymhwyso ar gyfer y ddisgen hefyd, ac fe ddywedon nhw, “Reit, Nath, rwyt ti’n mynd ar gyfer y tri.” Rwy’n meddwl mai fi mwy na thebyg yw’r unig athletwr o Brydain o hyd i fynd i Gemau Paralymp-aidd yn y tair camp daflu, ac roedd hynny, i mi, yn ddigon o lwyddiant ynddo’i hun.

ddim yn ddigon hyll

Fe aethon nhw â fi ar gyfer y taflu maen a’r ddisgen gan wybod na fyddwn yn gwneud yn dda iawn. Dyna oeddwn nhw’n ei feddwl, rwy’n gwybod. Os gofynnwch chi i unrhyw athletwr, dydyn nhw ddim yn mynd allan i fod yn ail orau; maen nhw am geisio ennill, a dyna sut oeddwn i’n meddwl wrth fynd i’r Gemau. Taflu’r maen oedd gyntaf, a gwelais y bois eraill yma a phob un fel cawr yn f’ymyl i, yn enfawr. Y Rwsiad mawr, Alexi, mae rhyw chwe throedfedd wyth modfedd o daldra, a dyna lle’r oeddwn i’n eistedd yn fy nghadair. Tynnodd ei goes brosthetig ac roedd yn cyrraedd at fy ysgwydd. Roeddwn yn edrych arni, yn edrych i fyny ato ef, ac yn meddwl, “Mae rhaid i fi daflu yn d’erbyn di? Dydych chi erioed o ddifri”, ac rwy’n meddwl mai dyna oedd y trobwynt, pryd y meddyliais, “Iawn, dydw i ddim yn meddwl fod taflu’r maen yn gystadleuaeth i fi, o hyn allan. Ydw, rydw i’n gyflym ond dydw i ddim yn ddigon cryf, dydw i ddim yn ddigon mawr, dydw i ddim yn ddigon tal, dydw i ddim yn ddigon llydan”. “A ddim yn ddigon hyll!” ychwanegodd fy hyfforddwr. Roeddwn yn hapus i gyrraedd y ffeinal yn fy nghystadleuaeth Baralympaidd gyntaf erioed yn taflu’r maen, gan orffen yn wythfed. Wedyn, daeth y ddisgen. Roeddwn am wneud yn dda. Doeddwn i ddim am gael fy nghuro’n rhacs. Ond, fel y digwyddodd, fe ges fy nghuro’n rhacs, a gorffen yn unfed ar ddeg.

llenwi’r rhengoedd?

Wedyn, roedd yn bryd imi fwrw iddi gyda’r waywffon. Roedd gan yr hyfforddwyr eu sêr, y rhai yr oeddent yn gobeithio y byddent yn ennill medalau, ac yna, roedd gennych nifer ohonom a oedd yno i lenwi’r rhengoedd. Doeddwn i ddim eisiau bod yno i lenwi’r rhengoedd, wyddoch chi. Roeddwn am fynd allan yna a chystadlu. Wnaethon nhw erioed feddwl y byddwn yn cyrraedd y ffeinal am daflu’r maen, a mwy na thebyg eu bod yn credu y byddwn yn cyrraedd y ffeinal o’r braidd gyda’r waywffon ac yn gorffen yn y chwech uchaf, efallai. Y noson cyn y cystadlu, gallaf ei chofio o hyd fel pe bai’n ddoe. Rwy bob amser yn gosod fy nod a’m disgwyl-iadau lawer yn uwch na’r bar, oherwydd rwy’n gwybod wedyn, os na chyrhaedda i nhw, rwy’n dal i fod wedi gwneud yn dda. Roeddwn wedi fy nghorddi fy hun gymaint y noson cyn y cystadlu, roeddwn yn fy nagrau. 12 o’r gloch y nos, roeddwn ar y ffôn at yr hyfforddwr yn dweud, “Ant, ddylwn i ddim bod yma. Dydw i ddim yn ddigon da i fod ar y llwyfan hwn”, a’i eiriau enwog e oedd, “Rwyt ti’n olygus, rwyt yn dalentog, caea dy ben, rho’r gore i grïo, cer i’r gwely ac fe’th wela i ti yn y bore, fe wnei di’n iawn”.

Sychais fy nagrau, deffrais y bore wedyn, a mynd i’r ystafell baratoi yn dal i gachu brics. Es allan i’r stadiwm, 94,000 o bobl yn sgrechian, roedd yn fyddarol. Gwthiais i mewn, ac eistedd yno; roedd yr holl fois eraill o’m cwmpas ddwywaith fy oed i. Meddyliais, “Iawn, fe alla i wneud hyn”.

Taflais yn ofnadwy yn y tri thafliad cyntaf, gan orffen yn seithfed a llwyddo i grafu drwodd i’r ffeinal. Maent yn taflu o chwith i’r drefn, gan ddechrau gyda’r wythfed, seithfed, chweched, pumed, pedwerydd, trydydd, ail, cyntaf, felly fi oedd yn taflu’n ail. Taflais dafliad enfawr, enfawr i mi beth bynnag, PB o bosib, a mynd i’r trydydd safle. Roedd chwe pherson arall i daflu. Allwn i ddim gwylio. Eisteddais yno, a’m pen yn fy nwylo, yn ewyllysio, yn gobeithio na fyddai neb yn fy nghuro. Yna, daethom at y tri uchaf, y boi yr oeddwn i newydd ei gnocio lawr i’r pedwerydd safle a’r unig un a allai fy mwrw i yn ôl i lawr. Doedd ei dafliad cyntaf, 32 metr, ddim yn agos ataf fi, gwych. Roedd yr ail dafliad ychydig yn nes, ond nid oedd wedi fy nghuro. Ar ei dafliad olaf, bang ac, yn wir i chi, “Na, na, na!”. Glaniodd yn fflat – mae ar fideo gan fy hyfforddwr – cam dafliad, wir-yr, ond ni chafodd ei alw. Roedd yn cyfrif a glaniodd fetr ymhellach na’m tafliad i. Des yn bedwerydd. Daeth ataf wedyn a dweud, “Gwell lwc tro nesaf”, ac edrychais arno a dweud, “Ie, diolch. Da iawn. Faint yw dy oed di?”. “Rwy’n 40.” “Ie, gwell lwc tro nesaf. Rwy’n 20 ac rwyt ti ddwbl f’oed i. Bydd yr un nesaf ar dir cartref i fi. Mae gen i lawer o dyfu i’w wneud a’r unig ffordd y byddi di’n mynd yw ar i lawr”. Ac roedd y gystadleuaeth nesaf yn y Weriniaeth Tsiec, ei gystadleuaeth gartref, ac fe’i trechais ef a meddwl, “Ie, o na bai hyn y llynedd”. Gorffen yn bedwerydd yn Beijing, roeddwn mor siomedig. Byddwn wedi dwlu dod â’r fedal efydd honno adref, ond nid fy nhro i oedd hi. Rwy’n dal yn ifanc. Rwy’n dal i ddisgwyl gormod gan fy hun, rwy’n dal i osod y nod yn rhy uchel. Erbyn adeg Llundain, bydd math gwahanol o bwysau. Mae angen imi ddod â medal adref nid dim ond er fy mwyn i, nid dim ond er mwyn fy nheulu, ond er mwyn Prydain.

rhywbeth yn y dŵr

Rwy’n Gymro i’r carn. Rwy wedi dod drwy’r system yng Nghymru; Cymru sydd wedi fy magu a’m meithrin. Mae gennym un o’r rhaglenni datblygu talent gorau un; mae pobl yn Lloegr yn edrych ar ein carfan ni ac yn gofyn sut ydyn ni’n gwneud hyn. Rwy’n meddwl eu bod nhw wedi rhoi rhywbeth yn y dŵr.

Pan fyddwn yn mynd i ffwrdd i gystadlaethau fel Cymru, rydym yn deulu. Gan ein bod yn genedl fach, does dim rhaid ein rhannu’n rhanbarthau, gogledd, de, dwyrain, gorllewin, canolbarth, beth bynnag. Mae agosatrwydd rhyngom sy’n well nag unrhyw dîm arall. Mae bois yn dod drosodd nawr nad ydynt yn Gymry, er mwyn bod yn rhan o garfan Cymru.

Rydyn ni i gyd yn hyfforddi gyda’n gilydd; pan fyddwn yn mynd i ffwrdd rydym yn byw gyda’n gilydd; rydym yn bwyta gyda’n gilydd; a does dim rhaniad rhwng y trac a’r maes; athletwyr ydyn ni i gyd, rydyn ni i gyd yn Gymry, rydyn ni i gyd dros Gymru.

A, wyddoch chi, os oes un person yn cael diwrnod gwael, rydyn ni i gyd yn cael diwrnod gwael; os oes un person yn cael diwrnod da, rydyn ni i gyd yn cael diwrnod da ac yn dathlu gyda’n gilydd. Mwy na thebyg mai dyna a effeithiodd arna i yn Beijing. Doedd dim ysbryd tîm. Os byddai un person yn gwneud smonach o bethau, byddai’n dioddef ar ei ben ei hun; os byddai un person yn gwneud yn wych, byddai’n dathlu ar ei ben ei hun. Mae hynny’n un peth rydyn ni’n gweithio arno nawr yng ngharfan Prydain Fawr, i gael yr ysbryd tîm hwnnw’n ôl. Os na allwn ni fod yn dîm yn Llundain, fyddwn ni byth yn dîm. Mae ar ein tir cartref a, wyddoch chi, dydyn ni ddim yma er ein mwyn ein hunain erbyn hyn, mae hyn er ein mwyn ni a’r genedl.

teithio

Mae pobl yn dweud ei bod yn ffordd gyffrous o fyw, yn hedfan i bobman, ond dydyn ni ddim yn gweld dim; rydym yn gweld ystafelloedd mewn gwesteiau a stadia athletau. Yn Beijing, wnes i ddim hyd yn oed gweld y Mur Mawr, a welais i mo’r Ddinas Waharddedig, oherwydd roeddwn yn cystadlu ar hyd y cyfnod. Roedd rhai bois yno ar gyfer un gystadleuaeth ac yn dweud, “O, rydyn ni’n mynd i weld y Mur Mawr, heddiw”, a finnau’n ymateb, “Grêt, tynnwch luniau i fi!” Fe alla i ddweud mod i wedi bod i’r holl lefydd hyn ond dydw i ddim mewn gwirionedd. Dydw i ddim ond wedi bod i’r stadia.

llai o ddarnau corff i boeni amdanyn nhw

Pan ddaw Gemau Llundain, rwy eisiau dod â dwy fedal aur adref. Wna i ddim bodloni ar ddim llai na hynny, ac yna, ar ôl hynny, pwy ŵyr. Rio 2016, yn bendant. Rwy’n gobeithio mynd i bum Gemau Paralympaidd arall. Rwy wedi cystadlu yn erbyn dynion sydd yn eu 50au ac maent yn dal yn fechgyn cryf, yn dal i daflu’n dda. Rwy’n meddwl y gallwch bara’n hirach os ydych yn taflu ar eich eistedd. Does dim rhaid ichi boeni am y rhediad cychwynnol. Does dim rhaid ichi boeni am gymalau’r pigyrnau, cymalau’r pengliniau, oherwydd does gen i mo’r rheini, felly mae llai o ddarnau corff i boeni amdanyn nhw. Rhaid imi obeithio y bydd fy ysgwydd yn para mewn cyflwr da.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw