Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

JASON ROBERTS
hanes chwaraewr rygbi cadair olwyn

Fy enw yw Jason Roberts. Cefais fy ngeni yn Wrecsam ar Awst 12 1973. Erbyn hyn rwy’n byw yn St Martin’s, ger y Waun.
Pan oeddwn i’n 18 oed, cefais ddamwain tua hanner milltir i lawr y ffordd o’r fan yma. Un noson, roeddwn yn gyrru gyda chyfeillion ac roedd hi braidd yn wlyb. Collais reolaeth ar y car ac o ganlyniad i’r ddamwain torrais fy ngwddf. Cefais fy nghymryd i Ysbyty Wrecsam ac yna i’r Uned Orthopedig y Cefn. Roeddwn yno am bum mis a hanner, ond roedd hyn yn welliant cyflym iawn i rywun gafodd doriad fel y gwnes i. Gadewais yr ysbyty ar y dydd Llun a dechrau chwarae gêm o’r enw rygbi cadair olwyn ar y dydd Mawrth.
Pan oeddwn i’n blentyn roedd gen i fwy o ddiddordeb mewn pysgota i ddweud y gwir na chwaraeon egnïol. Roeddwn i’n hoffi chwarae ychydig o griced, ond y mathau o chwaraeon roeddwn i’n eu hoffi – byddai llawer o bobl yn gwrthod eu galw’n chwaraeon – oedd pysgota a bod allan yng nghefn gwlad. Roeddwn i’n arfer treulio llawer o amser ar fy mhen fy hun mewn afonydd, yn pysgota a chrwydro o gwmpas.
Os oedd hyfforddiant rygbi yn yr ysgol, byddwn yn ei osgoi bob tro, oherwydd roeddwn i’n gwybod y gallai pobl dorri eu gyddfau a’u cefnau ac roedd hyn yn flaenllaw iawn yn fy meddwl am ryw reswm. Byddai diwrnod rygbi’n cyrraedd a byddwn yn dweud “O, mae gen i anaf” neu rywbeth. Doeddwn i ddim yn adnabod neb oedd wedi torri eu gyddfau neu eu cefnau. Ond am ryw reswm dyma oedd yr ofn yn fy mhen. Mae’n eironig, dw i’n gwybod.

ychydig yn wallgo
Gwelais bobl yn chwarae rygbi cadair olwyn am y tro cyntaf yn yr ysbyty. Byddai’r tîm yn dod i lawr ac yn mynd ati i hyfforddi. Roeddwn i’n dal i orwedd yn y gwely gyda chaliperau dur wedi’u sgriwio i mewn i mhenglog a byddent yn dweud “Tyrd i’n gwylio ni” a byddwn i’n dweud “Na. Peidiwch â bod yn greulon, dw i newydd dorri fy ngwddf. Alla i ddim symud fy mreichiau na dim”¸ Ond pan es i lawr i’w gwylio meddyliais yn syth “Waw! Mae hwn yn edrych braidd yn wallgo”. Roedd y bechgyn i gyd yn edrych mor heini a chryf ac roedden nhw’n gallu gwneud pethau na allai’r bobl eraill oedd wedi cael yr un damweiniau â nhw eu gwneud – roedd y bobl eraill yn eistedd gartref yn gwneud dim byd, yn gwylio’r teledu ac yn chwarae gemau fideo. A meddyliais, “Dydw i ddim yn mynd i wneud hynny. Dw i eisiau bod yn fywiog eto, gynted ag y gallaf”.
Dechreuais chwarae pan oeddwn yn 18, pan adewais yr ysbyty, a chyn i mi droi’n ugain roeddwn wedi cael fy newis i sgwad Prydain Fawr. Roedd hi’n wych cael bod yn chwaraewr newydd ffres, un o’r ieuengaf yn y wlad, a’r unig chwaraewr o Gymru, yn mynd i’r Gemau Ewropeaidd a Gemau’r Byd. Dyma’r tro cyntaf i rygbi cadair olwyn gael ei chwarae yn y Gemau Ewropeaidd a Byd. Arhosais yn y sgwad tan 1995, felly dyna dair blynedd, yn teithio yma a thraw ac yn gwella, ac yn gwneud yn dda iawn.

gwaeth na’r carchar
Mi es i America ac ati ac yna, yn anffodus, cefais broblemau. Cefais haint yn fy nghlun ac roedd yn rhaid i mi fynd yn ôl i’r ysbyty. Clywais y byddai’n rhaid i mi aros i mewn am dair neu bedair wythnos. Ond yn y diwedd roeddwn yno am dair blynedd a hanner! Roeddwn ar fy mhen fy hun i raddau mawr mewn ward ochr yn y gwely am dair blynedd a hanner! Doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w wneud. Un o’r prif bethau a’m tynnodd i allan o’r ysbyty ac a gadwodd fy ffocws ac a wnaeth i mi deimlo’n bositif oedd fy mod i’n dyheu am gael mynd yn ôl i wneud yr hyn roeddwn yn ei garu, chwarae rygbi cadair olwyn.
Roeddwn i’n 21 oed yn mynd i mewn i’r ysbyty a bron yn 25 yn dod allan. Roeddwn i wedi colli llawer o amser. Collais y Gemau Paralympaidd cyntaf i rygbi cadair olwyn, sef cyfle i arddangos y gêm yn Atlanta yn ’96. Ar ôl i mi ddod allan, treuliais chwe mis yn dod i arfer ac yn mwynhau fy mywyd eto. Dechreuais ar y rygbi eto ac o fewn wyth mis, roeddwn yn ôl yn y sgwad, ac ers hynny dydw i ddim wedi stopio. Am ryw reswm, mae’n swnio’n od ond roeddwn wedi bod allan am flynyddoedd ac roeddwn ar frig fy ngêm yn barod bron iawn, yn ennill y gorau yn fy nghategori ac yn cael fy newis yn chwaraewr mwyaf gwerthfawr y gêm [mvp]. Ond roeddwn fis yn rhy hwyr i gael fy newis i fynd i Sydney 2000. Roeddwn ar frig fy ngêm yn barod ac efallai y byddwn wedi bod yn ased gwych allan yno, felly roeddwn wedi siomi. Ond mi es allan yno beth bynnag a chefnogi’r tîm, ac roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n cael lle eto yn y pen draw.
Mae wedi bod yn anhygoel. Byddai unrhyw un sy’n fy nabod o amgylch y byd yn dweud “O dyma Jason yn y gêm” ac yna “Waw, lle mae Jason wedi mynd?” a thair blynedd a hanner yn ddiweddarach, dw i’n glanio eto ac maen nhw eisiau gwybod “Waw! Beth ddigwyddodd?”.
Roedd y tro cyntaf yn hawdd. Mae’n swnio’n wirion ond, pan dorrais fy ngwddf ac roedd yn rhaid i mi fynd i’r ysbyty, aeth pum mis a hanner heibio’n gyflym. Cefais ddiwrnodau digon isel fel y mae pawb ond roedd mynd yn ôl i’r byd arferol yn hawdd i mi i ddweud y gwir. Yr ymdrech fawr oedd yr ail dro, pan oeddwn yno am dair blynedd a hanner. Roedd hynny’n anodd. Roeddwn ar fin mynd o’m cof, yn gorwedd yn y gwely mewn ystafell ar fy mhen fy hun. Dw i’n meddwl mai dim ond o’r braidd y deuthum i allan mewn pryd. Dw i ddim yn meddwl y gallwn i fyth wneud hynny eto, wyddoch chi. Dw i erioed wedi bod yn y carchar ond mae’n rhaid bod y profiad yma’n weddol debyg, os nad yn waeth.

gwyliwch, dacw Jason Roberts!
Pan ddechreuais, yn ifanc iawn, roeddwn i’n cael fy newis yn chwaraewr mwyaf gwerthfawr y gêm ac roedd pobl yn sylwi arnaf ac roedd fy enw mewn newyddlenni a phethau, gyda geiriau’n dweud “Gwyliwch am y boi o Gymru, mae Jason Roberts ar ei ffordd!”. Roeddwn yn gweithio’n galed a dechreuais chwarae i dîm yng Nghanolbarth Lloegr o’r enw Black Country Bandits. Yna symudais ymlaen i chwarae i dimau clwb amrywiol ym Mhrydain, Dreigiau Gogledd Cymru, nifer go lew. Mi es i Athen yn 2004. Daethom yn bedwerydd, oedd ychydig yn siomedig ond, wyddoch chi, roedden ni’n agos iawn. Roedd yn brofiad gwych. Rydym newydd fod i Beijing, a dod yn bedwerydd eto. Mae’n gwneud i chi deimlo eich bod ar yr ymylon. Ac aethom i Gemau’r Byd yn 2006 a dod yn bedwerydd! Ond rydym wedi chwarae yn erbyn UDA, y tîm gorau yn y byd, ac wedi colli o ddim ond dwy neu dair gôl. Mae pawb arall sy’n chwarae yn eu herbyn, hyd yn oed yn y rownd derfynol, yn colli o bymtheg, wyddoch chi. Maen nhw’n cael eu curo’n rhacs. Dw i’n meddwl y daw ein tro ni pan fydd y cystadlu yn ein gwlad ni, a gallwn brofi beth sydd gennym yn Llundain. Mae’n mynd i fod yn grêt.
Cyn Beijing, cefais gwpwl o broblemau, materion iechyd bach gwirion ond llwyddais i gael y gorau yn fy nghategori dair gwaith yn y cyfnod cyn Beijing, mewn twrnameintiau ffug yng Nghanada ac Awstralia. Rwyf eisiau i’r tîm ennill, ond mae ennill gwobrau personol yn profi eich bod yn gweithio’n galed a’ch bod ar frig eich gêm.
Dw i wedi bod yn gwneud hyn ers i mi fod yn 18 oed, hanner fy mywyd yn barod ac weithiau dw i eisiau ymlacio a mynd ar wyliau gyda fy nheulu neu fy merch, fy merched bach, wyddoch chi, ond dw i’n sicr yn anelu at fynd i Lundain. Dw i eisiau medal aur. Dw i eisiau medal o dwrnament rhyngwladol cyn i mi adael y gêm, a dydw i ddim eisiau ymddeol cyn i mi gael un.

gwyddbwyll gwyllt
Enw’r gêm yw rygbi cadair olwyn, ond does dim tebygrwydd o gwbl rhwng hon a rygbi pobl abl eu cyrff. Dw i’n meddwl mai dyna ei henw am ei bod yn gêm ymosodgar. Ei henw cyntaf oedd ‘murder ball’ ond allen ni ddim cadw’r enw yna. Roedd yn hunllef i’w hysbysebu. Roedd pobl yn dweud “Murder ball? Dydy hynny ddim yn mynd i weithio!”. Felly, dyna pam y rhoesom yr enw rygbi cadair olwyn arno.
Petaech chi’n ei wylio o’r awyr byddai fel gêm o wyddbwyll. Mae’n debyg mai fi yw un o’r bobl fwyaf ymosodgar a welwch yn chwarae. Mae’n debyg y byddech yn edrych arnaf a meddwl mod i’n hanner call, ond dw i’n chwarae ar adrenalin, hyd eithaf fy ngallu. Dyna sut rwy’n hoffi chwarae. Mae’n fy rhoi mewn lle da yn fy meddwl, wyddoch chi. Mae’n rhaid i mi ddefnyddio llwyth o egni. Mae’r gêm yn un cyswllt llawn rhwng y cadeiriau, felly mae’n gêm fawr, mae’n rhaid i chi roi cymaint iddi ag y gallwch. Gallaf ddangos i chi pan fydd fy nghadair chwe throedfedd oddi ar y llawr, yn yr awyr. Gallaf ddod i lawr yn cyrraedd rhwng deuddeg a phymtheg milltir yr awr, mae rhai pobl yn cyrraedd ugain milltir yr awr. Dychmygwch ddwy gadair yn taro ei gilydd ar gyflymder o ugain milltir yr awr. Mae hynny’n drawiad enfawr, deugain milltir yr awr, felly mae’n ymosodgar ddifrifol, mae’n debyg mai dyma un o’r chwaraeon anabl mwyaf corfforol.
O ran cyflymder, mae technoleg ein cadeiriau rygbi wedi symud ar ras hefyd dros y deng mlynedd ddiwethaf. Rwyf wedi bod yn chwarae ers i mi droi’n 18 oed, ac roedd y cadeiriau a ddefnyddiwyd bryd hynny’n rhai gweddol arferol pob dydd, ond erbyn hyn rydym wedi gwneud popeth y gallech ddychmygu ei wneud i gadair olwyn. Ac maen nhw’n gweithio’n wych. Maen nhw’n gwneud y gêm yn llawer cyflymach.

calon
Yn Beijing, roeddwn yn agos at rai o’n hathletwyr Cymreig. Byddem yn ymlacio gyda’n gilydd ac os byddai unrhyw un yn ennill medal, roeddech yn gwybod pa faner fyddai’n dod allan! Roedd y faner wedi’i gwahardd yn Beijing ond roedd pobl yn dal i’w defnyddio. Roedd gen i fy un i’n barod, hefyd, oherwydd roeddwn yn meddwl yn siŵr ein bod yn mynd i ennill medal y tro yma. Roedd gen i fy maner yn cuddio yn fy mhoced, yn llechu, ac roedd yn mynd i ddod allan gyda’r faner Brydeinig.
Dw i’n meddwl bod llwyddiannau Cymru yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn rhagorol. Rydym yn bobl gref a balch iawn ac rydym eisiau i bobl weld ein bod yn fwy na dim ond rhan fach o’r wlad. Gallwn berfformio ochr yn ochr â’r bechgyn mawr, a dyna wnaethom ni. Dw i’n meddwl y bydd hyn yn rhagorol i wthio chwaraeon yn eu blaenau yng Nghymru. Mae pawb yn gwybod amdanom erbyn hyn, ac rydym yn fwy amlwg nag y bu cenedlaethau’r gorffennol mewn chwaraeon. Dw i’n meddwl ein bod yn gwneud mor dda am ein bod yn chwarae o’r galon. Rydym yn mynd allan yno i roi popeth sydd gennym.
Rydych yn gweld gwledydd fel Awstralia ac America yn rhoi cymaint o gefnogaeth i’w chwaraeon. Erbyn hyn rydym ninnau hefyd yn cael yr un peth diolch i Sefydliadau Chwaraeon Lloegr a Chymru. Rydym yn mynd i wersylloedd ac mae gennym ein hyfforddwyr cyflwr a chryfder ein hunain, ac rydym ninnau’n cael y pethau a gawsant hwy erioed. Felly, mae’n bryd i ni brofi ein hunain iddyn nhw. Y cwbl roeddem ei angen oedd y gefnogaeth.

y dyfodol
Dw i’n brysur iawn ar hyn o bryd gyda fy ngyrfa mewn chwaraeon. Mae gen i dîm clwb, sef Cewri Ewrop, a sefydlwyd gennyf i a chyfaill i mi o’r Almaen. Rydym newydd gychwyn ac rydym yn teithio o amgylch Ewrop ar hyn o bryd. Byddwn hefyd yn mynd allan i Ganada cyn hir, felly dw i’n brysur iawn gyda hynny a gyda sgwad Prydain Fawr sy’n dechrau codi eto. Rydym wedi cael chwe mis i ymlacio ar ôl y gemau yn Beijing ac yn awr mae’n amser cychwyn eto. Mae gennym ein Pencampwriaethau Ewropeaidd ym mis Hydref. Dyna’r unig beth mawr rhyngwladol eleni ac yna bydd hi’n 2010. Bryd hynny bydd gennym Gemau’r Byd yng Nghanada ac yna fe fydd hi’n 2011 ac yn eithriadol o brysur. Rydym dros y byd i gyd wyddoch chi. Mae’n debyg y gwnawn ni 50-60,000 o filltiroedd o deithio yn 2011, yn paratoi ar gyfer Llundain.

ar ôl Llundain
Dw i am anelu at fynd yn 2012, yn sicr. Heb os, mi fyddaf yno ac mi fyddaf yn rhan o’r tîm a byddwn yn ennill y fedal. Wedi hynny, dw i’n meddwl efallai yr hoffwn ymlacio ychydig ac efallai ymddeol, symud i un ochr a gadael i rywun arall gael lle. Dw i eisiau treulio mwy o amser gyda fy nheulu, fy mhartner a’r plant. Felly, ie, ar ôl 2012 dw i’n meddwl ... ond dydych chi byth yn gwybod. Mae gen i straeon rhagorol am bethau sydd wedi digwydd yn fy mywyd, a dw i’n meddwl y byddent yn ddiddorol i’w darllen. Ac yn sicr hoffwn gael lle bach i fi fy hun, lle i guddio yn yr haul yn rhywle, ac yn sicr byddaf yn gwneud llawer o bysgota!

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw