Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

GERAINT THOMAS
stori beiciwr

Cefais fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd ac roeddwn yn yr ysgol yno nes gadewais y chweched dosbarth yn 2004. Es i Ysgol Gynradd Birchgrove - roeddwn i’n byw rownd y gornel - yna es i Ysgol Uwchradd yr Eglwys Wen a chwarae pêl-droed a rygbi, Es i nofio’n weddol aml hefyd, a dyna sut y dechreuais seiclo. Roeddwn i’n mynd i nofio yng Nghanolfan Hamdden Maindy a gwelais hysbyseb am glwb plant oedd yn cychwyn o’r enw’r Maindy Flyers. Es yno a’i fwynhau a mynd i ffwrdd i rasio ar y penwythnosau. Roeddwn i’n mwynhau’r ochr gymdeithasol i ddweud y gwir.

Roeddwn i’n dal i chwarae rygbi ac ychydig o bêl-droed ond, yna, wrth i mi fynd yn hŷn, roedd yr anafiadau rygbi’n dechrau brifo mwy a dechreuais gadw at y nofio a’r seiclo. Roeddwn i’n dechrau dod yn weddol dda am nofio ac roedden nhw eisiau i mi fynd yn y boreau, cyn yr ysgol, felly doedd hi ddim yn hir cyn i mi ddweud “Na, wna i ddim diolch. Dw i ddim eisiau codi am hanner awr wedi pump”. Dyna sut y dechreuais i seiclo mewn gwirionedd.

Roeddwn i’n ennill rasys beiciau lleol ac yn gwybod fy mod yn reit da, ond ddim ond ar lefel leol. Dechreuodd y criw deithio i weddill Prydain a rasio ar y penwythnosau a dechreuais ennill y rasys hynny, ond dim ond pan oeddwn i’n aelod iau, dan 19, yr enillais yng ngemau’r byd ac ennill ras reit fawr yn Ffrainc. Dyma pryd y dechreuais feddwl go iawn “Mi allwn i wneud bywoliaeth o hyn”. Hyd hynny, roedd pobl yn dweud “Mae gen ti dalent” ond mae’n gam mawr i ddechrau credu hynny a mynd amdani go iawn. Unwaith yr enillais yng ngemau’r byd, dechreuais gredu go iawn, ac roeddwn i’n gwybod y gallwn gyflawni mwy a gwneud yn well.

arwyr

Roedd Nicole Cooke a Bradley Wiggins yn ysbrydoliaeth enfawr, er mai dim ond ychydig flynyddoedd yn hŷn na mi ydyn nhw. Roedd Nicole yn byw i lawr y ffordd ar y pryd ac roedd hi’n rhan o Ajax Caerdydd lleol. Roeddwn innau yn y JIF [Clwb Seiclo JIF Caerdydd], ac roedd ychydig o gystadlu rhwng y ddau. O wylio’r ddau yma’n rasio a’u gweld yn perfformio’n dda, roedden nhw’n gwneud i chi deimlo bod unrhyw beth yn bosibl. Yn y gorffennol, pan oeddech chi’n gwylio’r Tour, y tramorwyr oedd bob amser yn cael y crys melyn yn y rasys cychwynnol (heblaw Boardman). Ond pobl Brydeinig lwyddiannus oedd y rhain a dim ond ychydig flynyddoedd yn hŷn na mi oedden nhw, a dyna roddodd yr hwb go iawn i mi a’r ysbrydoliaeth i wneud yr un fath â nhw.

gelli fynd i urnhyw le

Yn sicr, mae Cymru’n dda i’w seiclo. Dw i wedi rasio a reidio drwy’r byd i gyd ac mae Cymru’n dal i fod yn wlad wych i fynd adre iddi a hyfforddi ynddi. Efallai bod hyn yn swnio’n rhyfedd ond mae’r ffyrdd yn teimlo’n weddol drwm. Maen nhw bob amser yn waith caled. Wrth gwrs, mae bryniau reit da i’w cael yma hefyd, ac meant yn ddistaw am gyfran fawr o’r amser. Gallwch fynd allan i’r lonydd, ac o fewn chwarter awr rydych allan o Gaerdydd, a gallwch fynd i unrhyw le. Dyna’r peth gwych am seiclo yn fy marn i, y ffaith eich bod yn rhydd i fynd lle y mynnwch, yn enwedig pan ydych yn ifanc. Cewch chwilio’r ardal. Mae’n wych mynd allan, canfod lôn neu ddwy sy’n ddieithr i chi. Dyma’r math o chwaraeon yr wyf i wrth fy modd ag o.

Mae’r mwyafrif o bobl yn dysgu reidio beic fel plant. Peidiwch â gadael y beic yn y garej. Does dim rhaid i chi fod yn gystadleuol a rasio. Mae’n ffordd dda o gadw’n heini. Ar ôl y Gemau Olympaidd, roeddem allan a daeth dynes ataf a dweud ei bod yn mynd allan i reidio beic gyda’i merch a bod ei merch eisiau reidio fel tîm gan ddweud ‘Tyrd mam, rhaid i ti reidio’n agosach, tyrd y tu ôl i mi.”

hyfforddiant

Dim ots a ydy hi’n bwrw eira neu’n bwrw glaw, mae’n rhaid i ni fynd allan i hyfforddi. Dw i’n hoffi cadw at batrwm arferol pan fyddaf i’n hyfforddi go iawn ac yn galed, a dw i’n tueddu mynd allan tua 9-9.30am a hyfforddi doed a ddelo. Dw i’n caru reidio fy meic a gwneud rhywfaint o hyfforddi wrth gwrs, dydy rhai o’r egwyliau a wnewch chi ddim yn llawer o hwyl. Maen nhw’n ddigon anodd ond, ydw, dw i wrth fy modd yn mynd allan ac yn reidio fy meic. Gallwn fod yn gwneud pethau llawer anoddach, felly dw i’n ffodus iawn.

Mae’r bwyd a fwytewch yn eithriadol bwysig ar y ffordd, oherwydd os ydych yn cario cilo neu ddau’n ychwanegol ar y trac, does dim llawer o ots. Pŵer sy’n bwysig yn y fan honno ac rydych yn mynd yn gyflym ac yn teithio o amgylch y velodrome, felly dydy eich pwysau ddim mor bwysig â hynny. Ond, unwaith y byddwch chi’n cystadlu mewn rasys fel y Tour de France, mae’n enfawr. Os ydych yn cario cilo neu ddau yn ychwanegol o amgylch y ras gyfan honno, rydych yn defnyddio llawer o ynni ychwanegol yn ddianghenraid. Yn y tîm, mae gennym faethegwr sy’n gweithio’n agos â ni. Mae hyn wedi gweithio’n dda dros y blynyddoedd diwethaf o’r hyn a welwn.

cyffuriau

Mae chwaraeon a busnes yn weddol debyg am fod twyllwyr yn y ddau. Rydych bob amser yn cael pobl sydd eisiau twyllo’r system. Dw i’n meddwl bod y byd seiclo’n dda am ei fod yn barod i’w dal nhw, wyddoch chi. Mae llawer o chwaraeon sy’n ceisio osgoi’r mater yma. Mewn seiclo, maen nhw’n barod i ddal yr enwau mawr. Maent eisiau eu dal nhw. Mae gwahaniaeth enfawr i’w weld dros y pump neu chwe blynedd diwethaf yn fy marn i, ac yn enwedig gyda’r timau newydd fel Sky a Garmin a Columbia. Maen nhw i gyd yn symud i’r cyfeiriad cywir. Mae’r un hen feddylfryd allan yno, a bydd hon yn anodd ei newid yn fy marn i, ond dw i’n meddwl bod cyflwyno’r profion newydd yn mynd i barhau i wella’r sefyllfa a, gobeithio, yn y pendraw, y bydd yr holl dwyllwyr wedi’u dal.
Roedd cyfnod pan fyddem yn gwylio’r teledu ac yn meddwl, ”Dewch dewch, mae hynny’n wirion” ac yna rai misoedd wedyn mae rhywun wedi’i ddal yn twyllo. Mae hynny’n beth da ond, ar yr un pryd, maen nhw allan yno, maen nhw’n ennill, maen nhw’n croesi’r llinell gyda’u dwylo yn yr awyr ac mae pobl yn dod yn ail neu’n drydydd a nhw ddylai fod yn teimlo’r teimlad hwnnw, wyddoch chi, yn cael y chwistrelliad enfawr o adrenalin. Felly mae’r holl aberthu’n talu ei ffordd. Does dim posib codi rhywbeth oddi ar gownter y fferyllfa a llyncu rhywbeth yn ddamweiniol. Mae pobl yn mynd allan ac yn cynllunio’r peth, yn rhoi cyffur yn y gwaed a phethau felly. Ond, fel y dywedais., mae’n edrych fel petai’r profi’n gweithio, felly rydym yn symud yn y cyferiad cywir.

dim ond reidio beic ydyw ar ddiwedd y dydd

Ar y trac y cychwynnais i ac yr aeddfedais i a dw i’n reidio’r rasys tîm ar y trac. Dyna lle enillais fy medal aur Olympaidd. Mae’n debyg i ras gyfnewid pedwar dyn, ond mae’n rhaid i bob aelod o’r tîm orffen. Dydy e ddim fel ras gyfnewid lle’r ydych yn pasio ffon ac i ffwrdd â’r un gyda’r ffon a dyna ni. Ras 16 lap ydyw mewn gwirionedd, treial amser. Mae llawer o rasys eraill ar y trac hefyd, megis y ras bwyntiau a’r madison a rasys i unigolion, sydd hefyd yn un o fy nghystadlaethau innau ond, yn anffodus, nid yw yn y gemau Olympaidd mwyach. Mae hon yn gystadleuaeth dreialu amser arall, ac mae yr un pellter â’r rasys tîm. Yn gyffredinol, mae’r trac yn llawer cyflymach ac anoddach ac mae’n fyrrach hefyd.

Yna pan fyddwch yn symud i’r ffordd, mae gennych bethau fel y Tour de France a’r rasys hirion, lle’r ydych ar y beic am hyd at saith awr a hanner ac rydych yn dringo elltydd am oriau ar y tro, elltydd enfawr yn yr Alpau sy’n ymestyn 20 cilomedr. Felly mae’n hollol wahanol ond, ar yr un pryd, reidio beic ydyw i gyd ar ddiwedd y dydd.

Dw i’n meddwl bod y ddau’n helpu ei gilydd. Wrth gwrs, mae’r trac yn gyflym a ffyrnig ac mae pawb yn agos ac, yn y ras glwstwr a’r sbrintiau, mae angen sgiliau trin beic da arnoch dim ond er mwyn symud o amgylch y trac. Mae hynny’n helpu’n fawr pan gewch sbrintiau clwstwr yn y Tour de France ac, wrth gwrs, mae’r seiclo ar y ffordd yn rhoi’r cryfder a’r dyfalbarhad i chi ar gyfer y trac, felly maen nhw’n cefnogi ei gilydd yn braf.

Mae’r hyfforddiant ar y trac mor wyddonol a manwl gywir. Rydych yn gorffen ac yn dadansoddi eich ymdrech, ymdrech wyth lap. Rydych yn dadansoddi pob lap – efallai bod un lap ddwy ran o ddeg yn arafach na lap arall, ac mae’r gwahaniaeth mor eithriadol o fychan ond mae’n gwneud gwahaniaeth mor fawr. Mae’r trac yn ddigon anodd, ond ar y ffordd mae’n llawer mwy rhydd. Yn wir, gall unrhyw beth ddigwydd – ac mae’n rhaid gweithio yn ôl greddf ac ymateb i bethau.

tour de pro

Euthum yn broffesiynol yn 2007. Yn sylfaenol, mae hyn yn golygu eich bod yn reidio’r holl rasys proffesiynol. Mae gwahanol gategorïau o fewn y rhengoedd proffesiynol, a phan ydych yn amatur cewch reidio ar un o’r categorïau is ond dim ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn. Wrth gwrs pan ddechreuwch reidio’n broffesiynol, rydych yn rasio rasys mawr anodd bob wythnos. Gwnaeth fyd o les i mi mewn gwirionedd. Symudais ymlaen a datblygais yn gyflym iawn.

Reidiais y Tour de France yn fy mlwyddyn gyntaf fel reidiwr proffesiynol, ac roedd hynny’n wirion bost. Dydw i erioed wedi dioddef fel y gwnes i bryd hynny a dydw i ddim wedi gwneud wedyn chwaith! Bob diwrnod byddwn yn gorffen ac yn dweud “Does dim gobaith y bydda i’n gallu cychwyn eto fory, Mi fydd hi’n amhosib i mi fynd ar y beic”. Ac yna, rydych yn mynd i’r gwely, yn deffro yn y bore ac yn dweud “Mae’n rhaid i mi gychwyn. Un tro arall amdani”, a dyna chi ar gefn y beic a, chyn gynted ag y byddwch chi’n symud, dydych chi byth eisiau ildio eto. Yn y pendraw, llwyddais i orffen a chefais lawn cymaint o fudd o hyn yn feddyliol ag y gwnes yn gorfforol yn fy marn i.

Roedd pobl ddi-ri’n dweud y byddai’r Tour yn fy lladd i. Fi oedd yr ieuengaf yn y ras ar y pryd hefyd felly rhoddodd hynny sbardun mawr i fy ysbryd i ac i’m hyder. Does dim byd yn fwy na Tour ac roedd llwyddo i’w gwblhau’n deimlad gwych.

Ac yna wrth gwrs, eleni, 2010, pan oeddwn i’n bumed yn y prologue ac yn ail ar gam tri, ac y cymerais y crys gwyn, roeddwn i’n gwisgo’r crys gwyn am oddeutu pedwar diwrnod. Roedd yn anghredadwy.. Wnes i erioed freuddwydio y byddwn i’n gwneud hynny. Mae bod 20 eiliad y tu ôl i’r reidiwr blaen yn y Tour de France ar ôl wythnos yn anhygoel, wyddoch chi. Roeddwn i’n mynd i’r gwely’n meddwl “Dw i’n ail yn y Tour”! Mae’n ras yr ydw i wedi ei gwylio drwy fy mhlentyndod, ers i mi fod yn 12 oed. Roedd hyn yn deimlad gwych ac mae’n rhywbeth y byddaf yn ei gofio am amser hir…ac yn adeiladu arno gobeithio.

O ran ennill y ras - yn y byd seiclo, byddai’n fwy nag ennill y Gemau Olympaidd, oherwydd mewn seiclo y Tour de France yw popeth. Ond i mi’n bersonol, fyddwn i ddim eisiau cyfnewid un am y llall. Bydd yn rhaid i mi weld sut y byddaf i’n datblygu fel reidiwr dw i’n meddwl. Ond, yn sicr dw i eisiau mynd yn ôl i roi cynnig arni, a chael y crys melyn o leiaf ar ryw bwynt yn y ras, a ydyw ar y dechrau, yn y prologue, am gyflymu hanner ffordd, neu beth bynnag. Dw i’n meddwl y byddai ei ennill yn eithriadol, dyma yw breuddwyd pob reidiwr, ond, na dw i am weld sut mae pethau’n mynd a dal ati i ddatblygu’r ffordd ydw i, gobeithio, a dal i ddysgu a dal i rasio’n dda, gan weithio dros y tîm a dysgu gan yr arweinwyr yn y tîm a’r ffordd y maen nhw’n rasio ac, ie, gobeithio, un diwrnod ….

llwyddiannau

Dw i’n meddwl mai’r ras gyntaf y teimlais yn wych ynglŷn â’i hennill oedd yng Ngemau’r Byd mae’n debyg, lle’r oeddwn i’n aelod iau, yn Los Angeles, am ei fod yn syndod enfawr mewn gwirionedd. Dyma oedd y tro cyntaf i mi feddwl y gallwn wneud rhywbeth yn y byd yma a gwneud bywoliaeth ohono. Wrth gwrs, wedi hynny, y cam nesaf yng Ngemau lefel uwch y Byd, y Byd go iawn mewn geiriau eraill, oedd pan gawsom y wobr gyntaf yn y ras tîm yn 2007 yn Mallorca. Roedd hwnnw’n gyflawniad enfawr hefyd, am mai dyma oedd ein buddugoliaeth go iawn gyntaf yng Ngemau’r Byd ac roeddem wedi cyrraedd o’r diwedd ac wedi gwireddu breuddwyd. Roedd yn sbesial iawn.

Yn dilyn ymlaen o hynny roedd Gemau’r Byd, flwyddyn yn ddiweddarach, a oedd yn teimlo yr un mor dda os nad yn well mewn gwirionedd, am eu bod ym Manceinion, ac roedd y dorf yn rhyfeddol, gwefreiddiol, ac roeddem wedi torri record y byd ar yr un pryd. Doeddwn i ddim wedi teimlo’n dda iawn yn y rowndiau cyntaf yn y bore chwaith, felly roeddwn dan bwysau. Ond i ddod allan o hwnnw fel y gwnaethom, ac ennill, a thorri record y byd – oherwydd daethom yn ail gyflymaf hefyd yn y rowndiau cynnar, felly roedd dipyn go lew o bwysau arnom, ac roeddem adref wrth gwrs – roedd yn deimlad rhagorol.

Ac yna, ar ben y cyfan, y Gemau Olympaidd. Roedd y profiad hwnnw’n…wel, y Gemau Olympaidd oedden nhw, oes rhaid dweud mwy? Cawsom y fedal aur. Roedd yn anghredadwy. Ni oedd y ffefrynnau o fwyafrif mawr, a doedden ni ddim wedi meddwl am hynny ar y pryd, a dw i’n meddwl bod hynny wedi gweithio’n dda iawn i ni oherwydd y cwbl y gallem feddwl amdano oedd y ras a sut roeddem yn mynd i’w rasio. Roedd hi’n wych dod yn ôl a gweld y gefnogaeth a’r hyn roedd yn ei olygu i bobl. Roedd adeiladwyr yn ein cymeradwyo pan oeddem yn gwneud lap buddugoliaeth o amgylch y bws yng Nghaerdydd. Roedd hynny’n anhygoel - ar ferched mae adeiladwyr yn chwibanu fel arfer! Dydyn nhw ddim yn chwibanu ar feiciwr am ennill medal!

mor hawdd â disgyn oddi ar …

Dw i wedi cwympo, nifer fawr o weithiau. Yn 2005 pan oeddem ni’n hyfforddi yn Sydney, roeddem yn reidio ar y trac ac roedd darnau bach o fetel ar y ffordd. Aeth y dyn oedd o fy mlaen dros un o’r darnau a saethodd hwnnw i fyny ac i mewn i fy olwyn flaen gan stopio fy meic yn stond. Syrthiais a tharo’r bariau a rhwygo fy nueg. Ar y pryd doedden ni ddim yn gwybod beth oedd o’i le. Mi es i’r ysbyty a chael llwyth o sganiau a dywedodd y meddyg “Rwyt ti wedi rhwygo dy ddueg, ac os yw’n dal ymlaen i waedu bydd yn rhaid i ni ei dynnu neu rwyt ti’n mynd i farw”. Yna dywedais i “Pam na wnewch chi hynny ar unwaith? Tynnwch e allan!” Ac roedden nhw’n dweud “Wel mae wedi stopio ac rydym yn dy fonitro ac os bydd yn dechrau eto, bydd yn dod allan”. O’r diwedd, am ddau o’r gloch y bore, cefais fy neffro a thynnwyd fy nueg. Mae gen i greithen fawr yn awr yr holl ffordd i lawr fy mrest. Roedd yn beth arswydus ar y pryd, yn enwedig am fy mod mor bell o adre a’m teulu a’m cyfeillion. Talodd British Cycling i mam, dad a’m brawd hedfan allan, felly roedden nhw gyda mi pan adawais yr ysbyty ac am wythnos gyfan wedyn. Dw i’n meddwl bod fy mrawd yn gobeithio y byddwn i yn yr ysbyty ychydig bach yn hirach am ei fod wrth ei fodd yn Awstralia ac yn mynd i lan y môr os nad oedd gyda mi yn yr ysbyty. Gwellais yn weddol gyflym gan fynd ymlaen i ennill medal y Gymanwlad.

Mae’n debyg mai yn 2009 y cefais yr ail waethaf o’m damweiniau. Roeddwn i’n reidio ar i lawr ar ochr mynydd yn yr Eidal, dim ond yn dod i lawr ar fy meic treialu amser, ac yn mynd yn rhy gyflym heibio i gornel. Es dros yr ochr a disgyn tua 20 o droedfeddi i’r ffordd oddi tano. Torrais fy nghlun a’r asgwrn sgaffoid yn fy llaw. Ni chymerodd y glun yn rhy hir i wella mewn gwirionedd am mai hollt ydoedd, doedd e ddim wedi’i dorri’n gyfangwbl a gallwn symud o gwmpas ar fy maglau. Cymerodd fy llaw dipyn yn hirach i wella oherwydd, ar y dechrau doedd neb wedi sylwi ar yr anaf. Felly tua deufis a hanner wedyn roedd fy llaw yn dal i frifo ac roedd wedi chwyddo’n ddrwg felly cefais lawdriniaeth arno. Cefais drawsblaniad asgwrn a phin, ac erbyn diwedd 2009, roeddwn wedi gwella’n gyfan gwbl ac yn rasio eto ac es i gystadlu yng Nghwpan Byd ym Manceinion lle cawsom y wobr gyntaf am rasio fel tîm ac am rasio’n unigol.

Pam na roddais i’r gorau iddi? Dydw i ddim yn gwybod. Y ffaith yw nad ydw i’n adnabod unrhyw beth arall. Dw i wrth fy modd yn reidio fy meic a phan fydd raid i mi gymryd egwyl o reidio beic, rwy’n teimlo’n annifyr iawn am fy mod eisiau reidio drwy’r amser. Dydych chi byth yn dweud “Fydda i byth yn gallu reidio eto” dim ond “Pryd gaf i reidio eto?” Allwn i ddim dychmygu peidio gallu reidio.

Es i ddim i Delhi yn 2010 oherwydd yr adrodd mawr am y ffliw dengue a’r sefyllfa yn y pentref. Wrth gwrs, am nad oes dueg gen i, roeddwn i’n teimlo bod y risg yn rhy uchel. Efallai y byddwn wedi mynd yno a dod adref yn holliach gyda medal neu ddwy efallai, ond ar y llaw arall, gallwn fod wedi dod yn ôl yn sâl a byddwn wedi cymryd llawer mwy o amser i ddod drosto am fod y ddueg yn cynhyrchu celloedd gwyn y gwaed sy’n helpu i frwydro heintiau. Felly, dw i’n meddwl bod y risg i mi ychydig yn rhy fawr. Roeddwn i’n mynd i reidio’r trac a’r ffordd hefyd felly byddwn wedi bod yno am bythefnos a hanner o leiaf. Rydw i’n dal i deimlo mai dyma oedd y penderfyniad cywir.

cymraeg?

Dwi’n Gymro i’r carn, yn enwedig pan fyddaf yn mynd dros y ffin i Loegr. Rydych yn teimlo fel rhywun o’r tu allan, mae hynny’n bendant. Rydych yn mynd i’r dafarn ac rydych yn Gymro, ac maen nhw’n dweud rhywbeth am rygbi neu ddefaid, wyddoch chi? Dwi’n meddwl bod symud allan o Gymru’n cryfhau’r cariad hwnnw tuag at Gymru. Rydych yno bob amser yn cynrychioli Cymru, yn debyg i’r sefyllfa pan fyddaf i’n mynd i’r Gemau Olympaidd. Rwyf yno i Brydain Fawr ond rwyf hefyd yno i Gymru, oherwydd does dim llawer o athletwyr o Gymru’n mynd.

Mae yr un fath gyda Sky. Yn y Tour de France, fi oedd yr unig Gymro yno. Dim ots pa grys sydd gen i amdanaf, rwy’n dal i fod yno’n cynrychioli’r wlad a dw i wrth fy modd yn gwneud hynny. Wrth gwrs, roedd hi’n biti mawr peidio â mynd i Gemau’r Gymanwlad oherwydd, yn amlwg, y crys Cymreig yw’r crys Cymreig. Mae’n unigryw. Mewn seiclo, dim ond unwaith bob pedair blynedd y cewch chi’r cyfle i wneud hynny ac, yn anffodus, collais y cyfle y tro yma, ond dw i’n gobeithio y byddaf yn dal i fod o gwmpas adeg Glasgow ac y gallaf wneud iawn am hynny.

Yng Ngemau Olympaidd Beijing, oherwydd y rheolau, dydyn ni ddim yn cael defnyddio baneri eraill. Pan glywais hynny roeddwn wedi siomi ychydig oherwydd byddai wedi bod yn rhagorol gwneud lap buddugoliaeth ym maner Cymru, i ddangos i bobl mai o Gymru yr ydw i’n dod. Cymru yw’r wlad lle cefais fy magu a’r wlad sydd ym mêr fy esgyrn.

pwysedd

Dw i’n meddwl bod pwysedd bob amser mewn chwaraeon a byddai’n well gen i fod ar y brig yn teimlo’r pwysedd oddi tanaf yn hytrach na bod yn ymdrechu i gyrraedd y top. Dw i’n berson sy’n ymlacio’n hawdd yn gyffredinol, a dw i’n mwynhau yr hyn a wnaf ac yn bwrw ymlaen â’m bywyd yn ddiffwdan. Roeddwn i’n gwylio’r X Factor y diwrnod o’r blaen a chanwyd y gân Help the Heroes, a gwaeth i mi feddwl: pan fyddwch yn ystyried y darlun mawr go iawn, mae pobl allan yno’n brwydro yn Afghanistan ac Irac. Rydym ninnau i gyd â’n nerfau’n rhacs yn poeni am ennill medalau Olympaidd ond, pan eisteddwch yn ôl ac edrych ar y darlun mawr, mae llawer mwy i fywyd na medal Olympaidd. Mae’n wych cadw hynny mewn persbectif. Rydym mor lwcus ein bod yn gwneud yr hyn a wnawn, pob un ohonom sy’n mwynhau chwaraeon yn broffesiynol. Gallwn oll golli ein hunain yn ein meddyliau pryderus: “Beth os nad ydw i’n ennill?” neu “Dim ond yn ail oeddwn i, dim ond y fedal arian ges i.” Dydy’r peth ddim mor fawr o edrych arno fel hyn nac ydy?


Tri gair i ddisgrifio fy hun? Di-straen, hapus fel arfer, yn hoffi fy mwyd – oes gair am hynny? Carwr bwyd! Ia ychydig bach mwy na thri ond dyna ni.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw