Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

DAVID BROOME
hanes marchogwr

Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd. Er mai gwerthwr llysiau oedd fy nhad, roedd wedi ymwneud â cheffylau erioed, fel fy nhad-cu o’i flaen.

naid gyntaf

Yn ystod rhyfel yr 1940au, rhaid bod fy nhad wedi gwneud swllt neu ddau yn y busnes gwerthu llysiau ac roedd hefyd yn gweithio yn y Frigâd Dân yn Nociau Caerdydd. Fe brynodd fferm yn St Arvans, yn godro gwartheg. Dyna oedd ei freuddwyd. Pan symudon ni oddi yno, ac ar ôl cyfnod byr yn Caldicot, fe brynodd nhad y stad yma, y tŷ mawr a phopeth. Rydym wedi ffermio yma byth ers hynny.

Roedd ffermio’n ffordd o fyw, ond nid dyna lle’r oeddech yn gwneud eich arian! Roedd nhad wastad yn ymwneud â cheffylau, yn prynu a gwerthu. Pan oeddwn yn ifanc iawn, gyda llawer o ferlod Cymreig oedd heb eu dofi, fi fyddai’r joci fyddai’n mynd ar eu cefnau a gwneud hyn a’r llall ac arall, a buodd hynny’n digwydd am sbel reit hir. Cefais fy nhaflu gynifer o weithiau, erbyn ro’n i tua chwech oed ro’n i wedi alaru ar hynny ac fe wnes i ymddeol. Roeddwn wedi cael digon ond, rhyw 18 mis yn ddiweddarach, fe ddaeth merlyn bach yma ac fe gymrais i ato, a phenderfynu mynd am reid eto, ac fe ddechreuodd y cwbl o hynny.

Y tro cyntaf imi fynd allan oedd gyda nhad. Doedd dim llawer ers inni adael y man cyfarfod ac roedd nhad yn mynd i neidio drosodd i le a thipyn o dyfiant ynddo. Dywedodd wrtha i, “Mae’n well i ti fynd drwy’r cae yna, i’r un nesaf. Cer at y glwyd a dere draw o fanno”. Dywedais i, “Ble’r y’ch chi’n mynd?” Atebodd, “Rwy’n mynd i neidio’r ffens polion a rheiliau yna”. Fe ddywedais i, “Wel, os y’ch chi’n mynd i wneud hynny, rydw innau hefyd!”. A dyna ddigwyddodd. Fe arhosais ar y merlyn wrth lanio a dyna’r tro cyntaf erioed imi neidio ffens.

Ar ôl hynny, gan ein bod ni’n prynu a gwerthu merlod drwy’r amser, roedden ni wastad yn rhoi cynnig arnyn nhw, ac fe gawson ni ferlod â dawn arbennig, a’u datblygu nhw. Byddwn i’n eu cael nhw i ddechrau, yna fy chwaer a’m chwaer arall ar ei hôl hi, ac roedden ni’n arfer mynd o gwmpas yr holl sioeau yng Nghymru. Roedd llawer iawn o sioeau yng Nghymru bryd hynny, lan yn y cymoedd a lawr yng Nghaer-fyrddin, Aberteifi a phobman, ac fe ddysgon ni’n crefft yn gwneud hynny, a dweud y gwir. Rydych yn marchogaeth tair merlen mewn diwrnod. Mewn cwpl o sioeau y bûm i iddyn nhw, doedd dim ond pedwar mewn dosbarth ac roedd tri ohonyn nhw gen i, a byddwn yn neidio naw rownd glir a’r unig seibiant a gawn, rhyw orffwys bach, oedd am mai dim ond un cyfrwy oedd gennym. Felly, bob tro roeddwn yn dod allan o’r cylch, byddai rhaid i nhad osod y cyfrwy ar ferlen arall a dyna pryd y cawn i fy ngwynt ataf. Roeddech yn dysgu’ch crefft felly.

nhad

Roedd nhad yn anghredadwy. Byddai’n helpu i hyfforddi’r ceffylau gan mod i ychydig bach yn ddiog bryd hynny, a byddai e’n gwybod sut i’w bwydo. Os oedd merlen yn mynd yn flinedig mewn sioe, byddai’n rhoi dyrnaid arall o geirch iddi’r noson honno; byddai e’n gwneud y pethau hynny i gyd. Fe barhaodd hynny am 30 mlynedd arall, rwy’n meddwl, dylanwad fy nhad arna i. Os ystyriwch chi, ynghyd â’m chwaer – mae’n siŵr ei bod hi’n un o’r marchogwyr benyw gorau erioed – fe wnaeth e’n reit dda gyda’r ddau ohonon ni.

Roedd yn deall ceffylau ac roedd yn gymaint o ddylanwad arnom. Rwy’n cofio flynyddoedd yn ddiweddarach pan oeddwn i’n 30, es i i Bencampwriaethau’r Byd. Roedd gen i geffyl anodd iawn o’r enw Beethoven i’w farchogaeth, a’r diwrnod cyntaf, wnaethon ni ddim yn dda iawn. Yr ail ddiwrnod, fe gododd e a marchogaeth y ceffyl yn y bore cyn i mi ei farchogaeth yn y prynhawn, ac fe enillon ni’r cymal hwnnw ac ennill y cymal wedyn, felly fe gyrhaeddon ni’r rownd derfynol. Roedd fy nhad yn gwbl anghredadwy, y ffordd y gallai weithio ceffyl. Ro’n i’n eithriadol o lwcus, rwy’n gwybod hynny.
modelau rôl

Yn ystod y sioeau hynny y cwrddon ni â Harry Llewellyn, Syr Harry yn ddiweddarach, ac y gwelais i Foxhunter. Fe gurodd nhad ef un diwrnod mewn sioe fach yn Langston, gyda chob yr arferai ei yrru.

Arferai Pat Smythe, yr enwog Pat Smythe, fyw yn weddol agos atom yn Swydd Gaerloyw, a byddai’n dod lawr i sioeau fel y Fenni a Threfynwy, a byddem yn ei gweld yn marchogaeth. Credaf ei bod yn ysbrydoliaeth i bawb oherwydd, wel, roedd hi’n gallu marchogaeth ac roedd yn hyfrydwch ei gwylio. Roedd yn gwneud i bopeth edrych mor hawdd ac roeddech chithau’n dysgu’ch crefft. Byddech yn gweld Pat Smythe yn marchogaeth ac yn meddwl, “Nefoedd, mae hynna’n gystal ffordd o farchogaeth â’r un yr wyf wedi’i gweld”, a byddech yn ei gwylio’n mynd ac yn ceisio dehongli beth oedd hi’n ei wneud.

cystadlu

Prynodd nhad geffyl imi o’r enw Wildfire. Costiodd £60. Roedd yn gymeriad digon drygionus. Gallai neidio ac fe gymerodd e a minnau at ein gilydd a byddwn wedi gallu bod yn nhîm Prydain yn Nulyn yn 1959 ond wnâi nhad ddim gadael imi fynd. Roeddwn i’n 19 a’r flwyddyn honno gorffennodd y ceffyl y flwyddyn fel y ceffyl gorau ym Mhrydain. Dywedodd fy nhad, “Does dim diben mynd dramor os na alli di ennill”. Penderfynodd nad oeddwn yn ddigon da ar y pryd, felly chawson ni ddim mynd. Roedd y ceffyl yn beiriant neidio. Wedyn, y flwyddyn ddilynol, roeddem ar y rhestr fer ar gyfer y Gemau Olympaidd, a gallaf gofio pobl yn dweud, “Beth wyt ti’n feddwl o’r Gemau Olympaidd?” Fel bachgen ifanc, yr unig hyfforddiant roeddwn i wedi’i gael oedd gan fy nhad, felly doeddwn i ddim yn gwneud unrhyw ddilyniannau hyfforddi na dim byd felly, ac rwy’n cofio dweud, “Mae nhad yn meddwl ei bod yn syniad da mynd i’r Gemau Olympaidd”. Allwch chi ddychmygu unrhyw un yn dweud hynny y dyddiau hyn? Felly, fe aethon ar y rhestr fer, a daeth ceffyl arall i’r fei o’r enw Sunsalve. Roedd cwpl o jocis wedi’i gael cyn fi, ac fe’i cefais i e rhyw chwe wythnos cyn Gemau Olympaidd Rhufain (1960).

Ar ôl un cychwyn trychinebus ym Mhentre’r Eglwys – dyna ichi le, yng Nghymru, lan yn ymyl Pontypridd, sioe fach yno – es ag e yno, ar ddydd Sadwrn, a chael fy mwrw allan! Beth bynnag, gwelais y trefnwyr. Fe adawon nhw’r rhwystrau yn eu lle ac aethom mewn ar ddiwedd y dydd a llwyddo i’w gael i fynd rownd. Roedd yn frwydr rhwng dau feddylfryd, a dweud y gwir. Roedd e am wneud yr hyn roedd e am ei wneud ac roedden ninnau am iddo wneud yr hyn roedden ni am iddo’i wneud ... ac rwy’n credu mai ni enillodd. Fe’i cawsom i fynd rownd, a thrannoeth aethom i White City a thridiau’n ddiweddarach fe enillon ni’r King’s Cup. Felly, disodlodd fy ngheffyl arall fel y ffefryn i fynd i’r Gemau Olympaidd, ac mae’n debyg ei fod ef, Sunsalve, yn un o’r ceffylau mwyaf addas ar gyfer y Gemau Olympaidd y deuech ar ei draws byth.

Mae’r Gemau Olympaidd yn gwbl, gwbl arbennig. Maent yn unigryw, nhw yw’r gystadleuaeth mae golygyddion chwaraeon yn eich barnu arni, nhw yw’r ffon fesur. Hynny yw, cynhaliwyd Pencampwriaethau Byd yn weddol ddiweddar ac enillodd tîm Prydain 19 medal aur, ond doedd dim sôn amdanynt hyd yn oed yn y papurau cenedlaethol, ac mae hynny’n adlewyrchiad trist iawn. Gyda’r Gemau Olympaidd, mae pob golygydd chwaraeon yno. Mae’r byd wrth y ffenest, yn disgwyl i’ch gwylio, felly mae’n wahanol iawn ac yn arbennig iawn.

rhufain 1960

Gyrrodd nhad y ceffylau allan yno a hedfanodd gweddill y tîm. Roedd nhad wedi dweud, “Na, dydyn nhw ddim yn hedfan. Dydyn nhw erioed wedi hedfan o’r blaen”, felly ffwrdd ag ef gyda chyfaill imi, David White, a bwrw iddi a gyrru’r ceffylau. Byddent yn galw mewn fferm yn rhywle, tua phedwar o’r gloch y prynhawn – doedd dim byd wedi’i drefnu – ac yn mynd i weld ffermwr a gofyn a oedd ganddo gwpl o stablau. Rwy’n cofio ar y ffordd adref iddynt lwyddo i gael stablau mewn lladd-dy. Roeddent wedi setlo’r ceffylau’n braf am y noson ac aethant hwythau i’r gwely yn y lori. A meddwl wedyn, “Beth sy’n digwydd os dônt i fewn ychydig yn gynnar? Fe allwn i fod â dau geffyl yn hongian ar fachau erbyn imi godi”. Felly, mewn panig llwyr, aethant i gysgu tu allan i ddrws y stabl y noson honno. Dylanwad fy nhad oedd hynny, wyddoch chi, roedd a’i fryd yn llwyr ar yr hyn yr oedd yn ei wneud.

Yn Rhufain, yn gyntaf oll roedd rhaid ichi gerdded y cwrs, tua hanner awr wedi chwech y bore, ac roedd hynny’n dipyn o sioc ddiwylliannol i mi. Rydych yn codi tua hanner awr wedi pump, yn cael eich brecwast, yn mynd lawr, ac yn cerdded y cwrs. Rydych yn meddwl, “Nefoedd, mae hwn yn fawr!”. Roedd ganddynt gyfuniad oedd yn gwbl afresymol. Nid yn gymaint ei uchder, ond y pellter, y gofynion camu, ac roeddech yn neidio i mewn, yn cymryd un cam, yn neidio’r darn canol ac yna roedd gennych gam a hanner cyn y trydydd darn – rhywbeth nad yw’n digwydd erbyn hyn. Roedd yn beth cwbl ddrygionus i grëwr y cwrs ei wneud. Beth bynnag, dywedais, “Mae hyn yn amhosib”. Fe ddywedon nhw, “Rhaid ichi gymryd dau gam byr yn y canol. Dyna’r unig ffordd o’i wneud”. Felly, i mewn â mi, y rownd gyntaf, a des lawr yn araf, neidio’r darn cyntaf, neidio’r ail ddarn, paratoi i fynd am ddau gam, aeth yntau am un cam, codi, ac yn syth i’w ganol. Nid fi oedd yr unig un y diwrnod hwnnw. Torrwyd 72 o bolion ar y ffens hwnnw. Hanner ffordd drwy’r gystadleuaeth, roedden nhw yno o dan yr eisteddle, yn brysur yn peintio polion i gael y lliw iawn.

Cefais 16 ffawt yn y rownd gyntaf honno, popeth yn edrych yn ddu, diwedd y gân, ac mae’n siŵr mod i oddeutu 20fed, ar y pryd. Doeddwn i ddim ond yno am y profiad, felly rydym yn gwneud yr ail rownd, yr un cwrs, yn dod rownd at yr ail ffens, wrth ymyl y glwyd i mewn. Anghofia i fyth. Fe dynnodd allan. Meddyliais, “Mae nhad yn mynd i’m lladd i!”. Felly, sadiais fy hun a chael gafael ynddo ef, a ffwrdd â ni. Daethom rownd i gymryd y cyfuniad a meddyliais, “I’r diawl â hyn, rwy’n mynd i wneud hyn yn fy ffordd i”.

Nawr fod fy ngwrychyn wedi codi, es i mewn yn gryf, cymryd un cam, neidio’r darn canol; cymerais un cam ac fe neidiodd y ceffyl ar hynny a’i glirio o un cam. Dim ond dau geffyl yn y gystadleuaeth gyfan neidiodd yn y ffordd honno. Felly, roedd gennym saith ffawt yn y rownd honno, 23 i gyd – pethau’n dal i edrych yn ddu. Roedd yn gynnar iawn i fynd allan. Eisteddais o dan yr eisteddle, diwrnod poeth yn y Piazza de Siena, ac, wrth i bawb wneud yr ail rownd, roeddech yn dweud, “Roedd gan hwn bedwar ffawt. Rhaid iddo gael pump lawr i guro 24”, ac, yn wir, byddai’n cael pump i lawr, ac yn y blaen. Ac wedyn, daeth y rhai a oedd wedi cael rownd glir. Cafodd y cyntaf ddau i lawr, rwy’n credu, felly dim ond wyth ffawt oedd ganddo o’r ddwy rownd, wedyn daeth y llall ac rwy’n credu iddo orffen gyda 16 ffawt o’r ddwy rownd, felly roedd yn dal yn ail. Roeddwn i’n drydydd felly a fedrwch chi ddim dychmygu fel roedd y cyffro’n dechrau cynyddu. Arhoswch funud, falle fod gen i obaith wedi’r cyfan. Yn y diwedd, gorffennais yn drydydd gyda 23 ffawt. Roedd hynny’n wyrth yn wir.

Wedyn, daeth dydd Sul, ac yn y bore roeddem yn symud o’r Piazza de Siena – sef gerddi hardd yn Rhufain – i’r Stadiwm Olympaidd. Yn arfer bod, neidio ceffylau oedd y gystadleuaeth olaf yn y Gemau Olympaidd. Roedd yn gwrs mawr. Anghofia i fyth mohono. Es lawr a neidio tua hanner awr wedi wyth y bore. 5,000 o bobl yno. Cefais gwpl i lawr, dim problem. Erbyn y prynhawn, tua chwarter wedi dau, es i mewn ar gyfer yr ail rownd. Roedd 120,000 o bobl yno; rydych yn cerdded i mewn i’r fowlen hon a bron imi farw yn y fan a’r lle. Sôn am nerfau! Hanner-carlamais at y ffens cyntaf, ond doedd gen i ddim rheolaeth drosto. Ches i mo’r camu’n iawn ac fe roddodd e gam arall i mewn, yna neidio, a meddyliais, “Broome, oni wnei di rywbeth, rwyt ti’n mynd i gael dy ladd”, a sadiais fy hun a dechreuom arni. Rwy’n credu inni neidio’r unig rownd glir yn yr holl gystadleuaeth ar ôl hynny, ond roedd un o aelodau eraill y tîm wedi cael ei fwrw allan, felly doedd dim gobaith o gwbl gennym o ennill y fedal tîm. Roedd hynny’n siom fawr, ond roedd y ceffyl hwnnw’n anghredadwy, ac rwy’n credu mai dyna’r tro olaf fwy neu lai imi benderfynu bod yn nerfus yn y cylch. Does dim dyfodol yn hynny. Rhaid ichi reoli’ch ceffyl. Rhaid i chi roi hyder iddo ef. Roeddwn bob amser yn credu ar ôl hynny, pan fyddwn yn mynd i’r cylch, mai’r unig beth roedd angen i mi boeni amdano oedd sut roedd y ceffyl yn mynd, oherwydd os nad oedd e’n mynd yn iawn, doedd dim gobaith gennym beth bynnag, felly does dim diben bod yn nerfus na phoeni.

Efallai y bydd y nerfau’n brathu rhywfaint awr ymlaen llaw, ond erbyn i’r cystadlu gyrraedd, anghofiwch amdanynt. Ewch mewn a marchogaeth eich ceffyl. Roedd hynny’n ddigon.

Pan es i Rufain gyda Sunsalve, rwy’n meddwl fod ei arddull neidio ef braidd yn debyg i gafalri hoyw ac, a minnau ddim ond yn 20 oed, roeddwn yn ddigon hapus â hynny. Pe bawn wedi’i gael pan oeddwn yn hanner cant, byddwn wedi ceisio’i ailhyfforddi. Byddai wedi bod yn drychineb lwyr. Roedd yn hoffi meddwl ei fod yn rhedeg i ffwrdd gyda chi ar ei gefn ac roeddwn i’n ddigon hapus i adael iddo wneud hynny. Doedd e ddim mewn gwirionedd ond dyna feddyliai ef, ac a bod yn onest rwy’n credu inni wneud tipyn o sioe ohoni, yn gwneud mor dda yn y Gemau Olympaidd.

Roedd hwn yn geffyl a hanner. Doeddwn i erioed wedi cael llawer o sylw o’r blaen ac roeddem yn newydd ar y llwyfan hwn. Syrthiodd pobl mewn cariad â’r ceffyl. Cefais Sioe Ceffyl y Flwyddyn dda iawn ar ôl hynny, a llwyddais i ennill y Bersonoliaeth Chwaraeon. Ond doeddwn i ddim yn rhoi gormod o sylw i hynny.

un goes bob ochr

Y peth pennaf yn ein camp ni yw cael ceffyl da, ac maen nhw’n amrywio’n fawr iawn, ond os gallwch chi gael un o’r goreuon prin hynny oddi tanoch, rwy’n dweud wrthych, mae’n gwneud gwahaniaeth. Rydych yn yr uwch gynghrair cyn cychwyn. Rwy wedi bod yn lwcus iawn, iawn, dros y blynyddoedd. Mae’n siŵr mod i wedi cael chwech neu wyth oedd yn gwbl eithriadol. Ar un adeg, o’r deg ceffyl gorau yn y byd, roeddwn i a dau ohonynt. Mae hynny’n gwneud bywyd yn hawdd.

Yr hyn a drosglwyddodd fy nhad imi mewn gwirionedd oedd, “Un goes bob ochr, wyneba ymlaen, paid â mynd ymhellach ymlaen na’r clustiau a chicia yn dy flaen”. Rydych chi wedi dysgu’ch crefft ac wedi dysgu cydymdeimlad, rwy’n meddwl. Mae gen i ffordd reit dda gyda cheffylau mae’n siŵr. Maen nhw’n fe neall i ac mae’n gwlwm rhyngoch.

Rwy wastad yn credu mai fy nhasg i ar gefn ceffyl yw ei gyflwyno i’r rhwystr yn y ffordd fwyaf economaidd er mwyn iddo’i neidio, ond rhaid ichi ddeall sut mae pob coes yn clicio, sut mae siâp ei gorff, sut mae’n mynd allan, sut mae’n hanner-carlamu i’w roi yn yr union fan fel y gall neidio’r rhwystr mor hawdd â phosib. Ar hyn o bryd, rydych yn gweld rhai ceffylau’n neidio gyda chymaint yn sbâr uwchlaw’r rhwystr, ond yn y Gemau Olympaidd – wel, mae’r rhwystrau’n enfawr. Allwch chi ddim rhoi cymaint â hynny o le i un o’r neidiau enfawr hynny oherwydd mae’r ceffyl yn neidio saith troedfedd dros bymtheg rhwystr. Fedran nhw ddim gwneud hynny.

Rwy’n cofio Mr Softee. Aeth i Gemau Olympaidd México (1968) ac roedd y pellter, cyfuniad unwaith eto, yn bell iawn allan, roedd y trydydd darn yn glawdd gwartheg (oxer), mor llydan, doeddwn i ddim yn meddwl y gallai ei glirio. Dyma’r tro cyntaf yn ei fywyd i rywun ofyn iddo wneud rhywbeth na allai ei wneud, a gwnaeth ei orau ond methodd o ryw bedair i bum troedfedd. Daeth ei goesau blaen i lawr cyn y polyn ôl, felly tarodd ei wddw’r polyn. A’r ail dro – fyddech chi ddim am neidio fel yna ormod o weithiau – dywedodd, “Aros funud. Dydy hyn ddim yn llawer o hwyl, wir”. Doedd ganddo mo’r gallu corfforol i neidio’r ffens hwnnw.

Nid yw pob ceffyl yn anifail annwyl, hyfryd, wrth gwrs. Fe gewch rai wnaiff estyn cic atoch a pheidio byth â gwneud pethau’n iawn. Mae’r rhai da, maen nhw eisiau’ch plesio. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr fod ganddynt ddisgyblaeth. Y ceffyl hapusaf yn y byd yw’r un sydd â disgyblaeth dda. Os oes ganddo syniadau negyddol yn ei ben, nid yw’n mynd i roi ei orau ichi, felly rydych yn gwneud popeth yn braf iddo. Os yw’n gwneud rhywbeth braidd yn ddrygionus, rydych yn ei weithio i dynnu hynny ohono, fel mai eich plesio chi yw’r unig beth y mae am ei wneud, ac mae hynny’n ei wneud yn geffyl hapus, a hynny’n gwneud ceffyl llwyddiannus.

gemau olympaidd méxico 1968

Yno, cawsom broblem wahanol. Roeddwn wedi bod i Tōkyō bedair blynedd ynghynt ac roedd fy mharatoadau gyda’r ceffyl, Jackapo, yn gwbl anghywir, oherwydd aethom yno ddwy neu dair wythnos yn gynnar. Nawr, fel pobl ceffylau, rydym wedi arfer â bywydau prysur. Pan ydych yn y Gemau Olympaidd, yr unig beth mae rhaid ichi ei wneud yw codi a marchogaeth eich ceffyl. Yma, bob bore rydych lawr yn y stablau tua hanner awr wedi saith, yn dod ag ef allan, yn ei farchogaeth, yn rhoi rhyw hwb bach iddo, ac yn y blaen. Des i’r casgliad yn y diwedd, ar ôl y Gemau, nad oedd y ceffyl yn sylweddoli nad oedd ei angen arnaf tan bythefnos i ddydd Iau, fel petai. Felly, byddwn yn mynd i’w nôl, yn ei neidio a’i baratoi a phob dim. Cawsom reid ymarfer yr wythnos cyn y gystadleuaeth. Ceffyl cyffredin iawn oedd hwn. Doedd e ddim yn seren fawr. Neidiodd yn eithriadol o dda ond dim ond dosbarth paratoi oedd hwnnw. Yr wythnos wedyn aeth yn waeth ac yn waeth ac yn waeth, a sylwedd-olais wedyn, ar ôl y Gemau, imi ei baratoi yn y ffordd anghywir, oherwydd roedd e’n meddwl o hyd mae’r gystadleuaeth fory, mae’r gystadleuaeth fory. Mae’n wers nad anghofiais fyth mohoni.

Yn México, roeddem ar 7,000 o droedfeddi, yn ymaddasu i’r uchder. Es â’r ceffyl sbâr gyda fi rhag ofn i rywbeth ddigwydd i’r llall, a defnyddiais y ceffyl sbâr i gael gwared â’m hegni i, a chadw’r ceffyl da. Roedd fy merch yn ei farchogaeth bob dydd, fel sy’n digwydd fel arfer gartref. Felly, fe baratoes fy hunan ar Beethoven a’i ddefnyddio yn y dosbarth paratoi, ond nid dyna’r ceffyl y byddwn yn ei ddefnyddio’r wythnos ganlynol. Mr Softee oedd yr un, ac roeddem wedi’i baratoi fel y byddem gartref yn barod i fynd i sioe, a gwnaethom bopeth yn iawn oherwydd roedd ar ei orau yn y ddwy gystadleuaeth yno, a daeth yn drydydd un diwrnod ac yna bedwar diwrnod yn ddiweddarach fe oedd y ceffyl gorau yn y dosbarth tîm. Ond, yn anffodus, roedd un o aelodau’r tîm wedi cael ei fwrw allan eto, a dim ond tri oedd gennym yn dechrau. Roedd hi ar ben ar y tîm! Ac roedden ni, wel, 50 ffawt ar y blaen, ddwy ran o dair drwy’r ail rownd! I Harvey a minnau, Mr Softee oedd y ceffyl gorau yn y Gemau Olympaidd hynny, ac ni chafodd y clod yr oedd yn ei haeddu. Roedden ni o fewn trwch blewyn i fedal aur.

Roeddem yn torri’n calonnau. Byddai ennill y fedal aur honno wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Roedd Harvey’n perfformio’n dda. Roedd Mr Softee’n perfformio’n eithriadol ac roeddem yn bell ar y blaen a, wyddoch chi, roedd gorffen efo dim, a ninnau mor agos at y fedal aur ... Ydych chi’n deall? Chewch chi ddim cyfle fel yna’n aml.

Rwy wedi cael bywyd da beth bynnag ond byddai’r fedal aur wedi bod yn hufen ar y deisen, rwy’n siŵr. Roedd Syr Harry Llewellyn yn rhan o’r tîm buddugol yn y ’50au ar Foxhunter, a bu hynny gydag ef am byth, yn do? Bu’n byw ar hynny drwy’i oes, a dweud y gwir. Byddai wedi bod yn wych cael ennill a byddai wedi bod yn beth da i Harvey, hefyd, wyddoch chi, y ddau ohonom yn ennill, dau hen fachgen.

pencampwriaethau’r byd

Aethom i Bencampwriaethau’r Byd yn Fenis ar y ffordd adref o’r Gemau Olympaidd yn Rhufain, eto gyda Sunsalve, ac fe ddes yn drydydd. Dim ond 20 oeddwn i a doedd hynny ddim yn rhy ddrwg. Pan ddaeth y Pencampwriaethau Byd nesaf yn La Baule yn 1970, roedd fy ngheffylau da wedi mynd ac roedd y criw nesaf yn y canol, a dim ond ceffyl o’r enw Beethoven oedd gen i – ceffyl reit anodd, hwn – ond llwyddodd i fynd â fi i’r pedwar olaf.

Mae gennym fformat dwl i’n Pencampwriaethau Byd. I ddod yn bencampwr Byd rydym yn gwneud rhywbeth nad ydym byth yn ei wneud unrhyw adeg arall. Wn i ddim a oes unrhyw gamp arall mor wallgof â ni. Dros dri neu bedwar diwrnod, rydych yn neidio o’i hochr hi, yna mae’r pedwar person sy’n dod i’r brig yn mynd i’r rownd derfynol ac yn marchogaeth ceffylau’i gilydd yn eu tro. Mae’n wallgofrwydd, a chan fod fy ngheffyl i’n un reit anodd bu hynny’n help i mi, oherwydd roeddwn i’n gallu’i farchogaeth ac roedd ar y lleill ei ofn. Roedd y lwc ar f’ochr i, a fi enillodd yn y diwedd.

Roedd gennym dîm da iawn y dyddiau hynny. Roeddem wedi ennill Pencampwriaeth Ewrop y flwyddyn flaenorol, ac fe enillon ni Bencampwriaeth y Byd y flwyddyn ddilynol. Ni chawsom ein curo. Dydw i ddim yn meddwl i’r un tîm erioed wneud hynny wedyn, ond, wyddoch chi, pan fyddwch ar frig y don mae popeth o’ch plaid!

ewrop

Cawsom lwyddiant yng nghystadlaethau Ewrop hefyd, pedair aur, tair arian, rwy’n credu. Enillais fy aur Ewropeaidd gyntaf gyda Sunsalve yn 1961 yn Aachen yn yr Almaen. Neidiodd y ceffyl yn anhygoel. I mi, Aachen yw’r sioe fwyaf yn y byd. Dyna lle dylai pob pencampwriaeth yn y byd gael ei chynnal. Maent yn cael 60,000 o bobl yno bob dydd, mae’r cyfleusterau’n wych, does dim byd gwell yn unrhyw le yn y byd, ac fe aeth y ceffyl yn syfrdanol. I fynd yno’n 21 oed a maeddu’r Almaenwyr ar eu tir eu hunain, roedd hynny’n dipyn o wefr.

Wedyn, ar ôl hynny, cafodd fy nhad Mr Softee imi. Roedd yn geffyl gwaith, mewn dyfynodau, heb ei ail. Byddai’n mwynhau’r achlysur, ac enillais bencampwriaeth Ewrop arno yn ’67 yn Rotterdam. Yn ’68 aethom i México gydag ef. Yn ’69, roeddem nôl yn Hickstead ac rwy wedi dweud erioed, y fformat, y ffordd roedd yn gweithio bryd hynny, roedd rhaid ichi fynd yn erbyn y cloc sawl gwaith. Gwnaeth Mr Softee un rownd o ddeunaw naid, wedi’u rhifo, yn erbyn y cloc ac yna’r ail rownd, deuddeg yn erbyn y cloc, a hynny’n berffaith. Fe roddon ni’n Almaenwyr yn eu lle, eto. Roedd bod yn dyst i hynny, rwy’n credu, yn fraint i’r rhai a’i gwelodd. Gweld ceffyl a allai neidio cynifer o rwystrau yn erbyn y cloc, dan bwysau, heb wneud dim byd o’i le. Roedd ’na ddewiniaeth yn hynny.

Ond fy ffefryn oedd ceffyl o’r enw Sportsmouth. Cawsom ef pan oedd yn bedair oed ac roedd fel ffrind i mi, mor ddeallus. Rwy’n meddwl mai Sportsmouth oedd hoff geffyl llawer o bobl ar y pryd. Roedd yn fonheddig, yn garedig ac addfwyn, yn alluog iawn, bob amser yn rhoi o’i orau. Ceffyl arbennig iawn.

cymru

Yn anffodus, does dim Cymru yn y byd marchogaeth. Dim ond Prydain, neu’n drist iawn maen nhw’n dweud Lloegr, ond mae’n golygu pawb gyda’i gilydd. Roedden ni wastad yn teimlo bod hynny braidd yn drist. Gemau’r Gymanwlad yng Nghaerdydd? Ble mae’r neidio ceffylau? Ond ddaw hynny ddim. Fuodd e ddim erioed.

ymddeol

Rwy’n meddwl imi fod yn lwcus iawn i gael nifer o geffylau da, ond, tua’r diwedd, roeddwn yn gwisgo fy mritshis amdanaf ond ddim yn teimlo’n gwbl gyfforddus ynglŷn â hynny. Byddech yn mynd allan i gerdded y cwrs, a byddai yna ferched 18 oed gyda chi, a byddech yn meddwl, “Wel, aros funud, fe ddylwn i fod wedi symud ymlaen o’r fan hyn bellach”. Doeddwn i ddim yn teimlo’n gyfforddus, ac yn meddwl, “Mae’n bryd rhoi’r gorau iddi”.

Roeddwn i’n lwcus iawn. Gwnes y penderfyniad ac enillais ddosbarth Cwpan Byd yn fy mlwyddyn olaf. Curais Michael Whittaker yn erbyn y cloc – mae Michael yn farchogwr gwych a chlipiais chwe chanfed o eiliad oddi arno yn y naid derfynol. Roedd y cyflwyniad ar fin dechrau a daeth y perchennog ataf a dweud, “David, mae tipyn bach o broblem. Fedrwn ni ddim dod o hyd i’ch Anthem Genedlaethol. Ydych chi’n meindio aros munud?” a dywedais, “Na, o’m rhan i, gallaf aros yma drwy’r nos”, oherwydd ro’n i’n gwybod na fyddwn byth yn ennill cystadleuaeth fawr arall. Dyna oedd fy un olaf. Ond, i ennill Cwpan Byd yn y flwyddyn olaf, roedd hynny’n plesio.

harvey smith

Roedd Harvey’n dod o Swydd Efrog, a minnau’n dod o Gymru. Bachgen bach tawel iawn oedd Harvey, yn rhy swil i ddweud bw wrth gath fach, ond yna, tua’r adeg honno, daeth Freddy Truman i amlygrwydd. Roedd y Freddy tanbaid a Fred yn driw iddo’i hun, yn doedd? Fe seiliodd Harvey ei gymeriad ar Fred – newidiodd yn fawr iawn a dyna greodd yr Efrogiad ymosodol. Ond roedden ni’n ffrindiau mawr.

Rhaid imi ddweud am Harvey mai fe, mwy na thebyg, oedd y collwr gorau imi deithio gydag ef erioed. Gallai ddod dros ei siom. Pan gawn i fy siomi, byddai’r siom yn aros gyda mi, os ydych chi’n deall. Mae’r siom yn byw ynoch ac ry’ch chi’n cael noson ofnadwy. Roedd Harvey’n wych. Bum munud ar ôl iddo gael ei siomi, a phethau wedi mynd o chwith, byddai yno mor afieithus ag erioed. Ond, rhaid dweud hyn, fe oedd yr enillydd gwaethaf, oherwydd pan fyddai’n ennill dosbarth roedd mor uchel ei gloch. Roedd bron iawn yn amhosib. Daethom i arfer â’n gilydd, ac mae’n siŵr y gallai ef ddweud llawer o bethau drwg amdanaf innau. Rwy’n credu ein bod ni’n dda i’n gilydd.

enillion

Fe ges i wraig fach neis allan ohoni, yn do? Chwaer Graham Fletcher, Liz. Lwcus iawn. Fe gwrddais i â hi’r tro cyntaf yn Todmorden yn Swydd Gaerhirfryn, mewn sioe fach, ac fe’i perswadiais hi i farchogaeth. Roedden ni ddyn yn fyr. Roedd gennym dri mewn dosbarth felly perswadiwyd hi i farchogaeth un o’r ceffylau. Dyna ddechrau pethau, wedyn gwahoddais hi lawr i Sioe Ceffyl y Flwyddyn, a dyna sut digwyddodd pethau. Fe briodon ni’r gwanwyn canlynol.

Roeddwn yn lwcus iawn gan na fues i’n un am yfed erioed. Doedd gen i ddim diddordeb. Cawn wydraid o win, ond dim ond gwydraid. Anaml iawn y byddai hynny. Mwy na thebyg mod i wedi lled feddwi rhyw dair neu bedair gwaith yn fy mywyd. Dydw i ddim yn hoffi cael pen drwg a feddyliais i erioed y byddai’n gwella fy marchogaeth. Roedd wastad yn cael ei ddrymio inni, a nhad yn dweud, “Os ydych chi am fynd allan i bartïa, ewch i bartïa yn y gaeaf pan nad yw’r ceffylau gyda chi. Peidiwch â gadael iddyn nhw ddioddef am fod gennych chi ben drwg.”.

newid

Meddyliwch yn ôl i’r dyddiau hynny. Doedd dim ond un sianel ar y teledu, y BBC, ac roedden ni, fel camp, ar y teledu rhwng 9.15 a 10.45pm, ddwy neu dair wythnos y flwyddyn.

Pêl-droed oedd yr unig gamp a gâi fwy o sylw. Y dyddiau hyn, fydden nhw ddim yn cael hynny. Mae cynifer o chwaraeon eraill yn cael cymaint o sylw erbyn hyn. Mae pethau wedi newid.

Nôl yn 1970, roeddem yn ennill arian gwobrau reit dda ac roedd yn hen ddadl, os oeddech yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd, na ddylech fod yn gwneud arian, ac roedden ni ar y ffin ar y pryd. Bydden ni’n dweud mai’r ceffylau oedd yn ei ennill, bla, bla, bla. Y Tywysog Philip oedd llywydd ein tîm rhyngwladol ac roedd yn meddwl y gwnâi osod esiampl i weddill y byd drwy ddweud, rydych chi’n broffesiynol a gall gweddill y byd ddilyn. Felly, mewn ffordd, fe’n gwnaeth e ni i gyd yn broffesiynol ar ôl Gemau Olympaidd ’72. Ond, yn anffodus, ni ddilynodd gweddill y byd. Felly, a ninnau wedi troi’n broffesiynol, cawsom ein gadael yn yr anialwch am ddau neu dri Gemau, a dim ond wedi hynny y cawsom ein cynnwys eto, fel amaturiaid yn ôl ystyr y term modern.

Methom dri Gemau Olympaidd ac yn y tri hynny – wel, un ohonynt oedd yr un yn Rwsia, ym Moscow, oedd braidd yn gloff, ond roedd Montreal yn Gemau a hanner. Roedd y gystadleuaeth yno, y cwrs a adeiladwyd, y polion mor fawr â hyn a’r ffensys yn anferth – rwy’n falch rwy’n credu imi fethu’r rheini.

anafiadau

Hei lwc, fe fûm i’n lwcus iawn erioed. Roedd f’ymennydd yn gweithio’n weddol gyflym, wyddoch chi. Pan ydych yn marchogaeth fyny fan yna, ar ben y ceffyl, byddai fy nhad wastad yn dweud, “Dwyt ti ddim wedi cwympo nes iti daro’r llawr”, ond rwy’n credu fod eiliad yn dod pan fyddwch ar eich ffordd, rydych yn meddwl, “Dyma ni, rwy ar y ffordd”, ond roedd f’ymennydd yn gweithio’n ddigon cyflym. Y peth cyntaf yw, traed allan o’r gwartholion, oherwydd traed yn y gwartholion yw’r peth olaf yr ydych am ei gael, felly rydych yn codi’ch traed i fyny ac yn rhyw grymu’ch ysgwyddau, yn dibynnu sut rydych yn cwympo, crymu’ch ysgwyddau a rholio, i fynd o’r ffordd.

Torrais fy nghoes gwpl o weithiau, er na thorrais i erioed bont f’ysgwydd, nac ysgwydd na dim byd felly. Mae ceffylau’n wahanol. Byddai pethau’n torri i lawr ynddyn nhw, tendonau a gewynnau cynhaliol, y math yna o beth, a, wyddoch chi, mae hynny’n llesteirio llawer ar yrfa ceffylau. Ond roeddwn i’n lwcus iawn.

Un o’r pethau a fu’n help imi benderfynu rhoi’r gorau iddi oedd mod i wastad wedi gallu amseru fy nghwymp. Pob rhan ohoni, roedd gen i reolaeth, o fewn rheswm. Yn y diwedd, pan oeddwn yn 50, byddwn yn gorwedd ar y llawr ac yn meddwl, “Wel, yn gyntaf oll, sut des i i’r fan hyn? Beth ddigwyddodd?”. Fedrwn i gofio dim o’r adeg yr es i dros y ffens nes roeddwn yn gorwedd ar lawr a meddyliais, “Mae f’ymennydd wedi arafu’n fawr iawn. Mae’n bryd iti roi’r gorau i hyn”. Doedd y meddwl ddim yn gweithio’n ddigon cyflym pan oedd pethau’n mynd i’r pen.

I geffylau hefyd, pan nad ydynt wedi bod yn ddigon da, maent yn aros ar ryw lefel, ac yn y pen draw maen nhw’n neidio o fewn y terfynau y maen nhw’n gallu ymdopi â nhw. Y rhai da iawn, sydd wedi bod yn ffrindiau da, maen nhw’n ymddeol. Fe gadwon ni Philco, a chafodd ymddeol. Aethom i Gothenburg ac roeddem wedi teithio hanner ffordd yno ond doedd e ddim yn dda iawn a dywedodd y milfeddyg, “Mae’n dioddef gyda’i galon. Well ichi gael rhywun i edrych arno pan ewch chi adre.”. Fe’i gadawon ef yn Nenmarc, mynd i’r sioe, ei gasglu ar y ffordd yn ôl a dod adref. Daeth y milfeddyg ac edrych arno a chadarnhau nad oedd ei galon yn gryf. Roedd yn methu curiadau, felly dyma ddweud yn y fan a’r lle ei fod wedi ymddeol. Bu fyw am 16 mlynedd arall. Bu farw pan oedd yn 32, ar y fferm. Maen nhw’n effeithio cymaint arnoch. Rydych chi’n ffrindiau.

Nid yw’n ddiwrnod da pan fyddan nhw’n mynd, ond anaml y mae’n digwydd dros nos. Maent yn cael twtsh o golig a daw’r milfeddyg allan a bydd yn dweud, “Gewynnau dolurus”, ac rydych yn gwybod na fydd pethau’n gwella. Y peth hyfryd oedd, roedd gennym hen filfeddyg bryd hynny, a byddai’n dweud, “Rydych chi’n gwybod nad yw’n mynd i wella. Dyw e ddim yn gallu mynd allan o’i stabl ac mae rhaid ichi benderfynu.”. Byddwn innau’n mynd i ffwrdd am bedwar diwrnod ac ni allai’r milfeddyg ei roi i gysgu. Roedd yn meddwl cymaint o’r ceffyl. Byddai’n dweud, “Ydych chi’n meindio pe bai nghydweithiwr yn dod i wneud hynny?”. Mae hyd yn oed y milfeddygon yn teimlo dros y rhai da.

Maen nhw mewn llefydd gwahanol. Rydyn ni’n gwybod ble maen nhw. Manhattan, buodd e farw mewn sioe geffylau. Cafodd drawiad ar y galon. Disgynnodd ar fy nghoes, aeth yn sydyn a chwympo ar ei hyd ar ôl iddo neidio. Rwy’n cofio Ryan’s Son yn Hickstead, yn y Derby. Bu farw’n mynd dros ffens, ond fel arfer maen nhw’n ymddeol. Mr Softee, yn ei 17eg flynedd o neidio, yn 17 oed, sylweddolais nad oedd yn dod at ei hun wedyn, ac es i Sioe Llaneirwg gydag ef, lawr yn ymyl Caerdydd. Daeth yn ail a ffoniais ei berchennog y noson honno a dweud “Mr John, mae Softee wedi cael dwy rownd glir heddiw. Fe aeth yn dda iawn ond dyw e ddim yn dod at ei hun wedyn”. Dywedodd yntau, “Mae’n iawn, fe geith ymddeol”. Bu’n byw gydag asyn wedyn, lan ar eu fferm yn Doncaster, am ryw ddeng mlynedd neu fwy.

cofio

Y diwrnod o’r blaen, es i arwerthiant Llanybydder, lawr yn Sir Aberteifi, yn agos at Lanbedr Pont Steffan. Arferwn fynd yno gyda nhad pan oeddwn yn 9, 10, 11, 12, 13, a daeth wyth hen foi ataf a dweud, “Rwy’n eich cofio chi’n dod yma gyda’ch tad”, ac roeddent yn dweud hynny gydag anwyldeb. “Rwy’n eich cofio’n sefyll draw ar y pen fan yna”, a chyffyrddodd hynny â’m calon. Mae hyn 50 mlynedd yn ddiweddarach, 60 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’r hen ddynion hyn yn cofio, ac yn amlwg rydych wedi gadael ychydig bach o argraff arnynt.

Rwy’n meddwl ei bod yn hyfryd fod gennym bobl sy’n ein harwain ymlaen, wyddoch chi. Mae’r Cymry hyn, maen nhw wastad wedi dod o gefndir sydd braidd, wn i ddim pam, braidd yn galed ac maen nhw’n wydn, ond maen nhw’n dod drwyddi, a go dda nhw.

neidio ceffylau

Mae’n gamp brydferth, unrhyw agwedd gyda cheffyl, wyddoch chi. Rhaid ichi ddeall yr anifail, mae’n dod â’r gorau allan ynoch. Mae gennych y berthynas hyfryd hon â cheffyl, ac rydych yn anghofio’ch helbulon. Rydych yn cael diwrnod gwael, ond ewch am reid ar gefn ceffyl a bydd yn gofalu amdanoch, yn codi’ch ysbryd. A does dim rhaid ichi neidio rhwystrau saith troedfedd o uchder i fwynhau’ch ceffyl. Gallwch wneud yr hyn rydych chi’n gyfforddus yn ei wneud a chael llawn cymaint o hwyl. Mae gennym bobl yn dod yma i Cricklands, yn neidio ffensys bach ac maen nhw wrth eu bodd. Rwy’n cael llawer o bleser o weld pobl yn mwynhau’r gamp ar eu lefel eu hunain. All pawb ddim cael ceffyl sy’n neidio saith troedfedd ond fe allan nhw fwynhau’r hyn y maen nhw’n ei wneud. Rwy wastad yn dweud hynny wrthynt. Dewch i sioe. Y peth pwysicaf yw eich bod yn mwynhau. Cymrwch chi ofal o’ch ceffyl a bydd yntau’n gofalu amdanoch chithau.

Heb unrhyw amheuaeth, unwaith i geffylau fynd i’ch gwaed, mae wedi canu arnoch.


Tri gair i ddisgrifio fy hun? Braidd yn dew a diog, rwy’n meddwl! Tri gair? Rwy’n ddyn lwcus iawn!






Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw