Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

COLIN JONES hanes bocsiwr Roedd fy mhlentyndod yn un anodd iawn ond roedd yn un lle’r oeddem i gyd yn cael ein caru. Roedd gen i fam a thad ardderchog, un o wyth o blant a modryb a chi, y cyfan yn byw mewn tŷ cyngor pedair llofft. Oedd, roedd yna amserau caled ond roedd yna amserau grêt hefyd. Gan mai dim ond 400 llath o Glwb Bocsio Amatur Penyrheol yr oeddwn i’n byw, yn naw oed, nôl yn 1968, fi oedd y cyntaf drwy’r drws. Roedd Gareth Bevan - fy hyfforddwr gydol fy ngyrfa focsio o naw oed (nes i fi ymddeol yn 25) - a Benny Price yn agor y Clwb. Roedd criw o fechgyn yn chwarae tu allan, pawb yn naw oed, a gwaeddodd Benny Price, roedd yr hen Benny’n gymeriad a hanner, "Reit te bois, pwy sydd am ddod mewn a thrïo’r grefft o focsio?" Wel, allan o bawb, fi oedd yr unig un a aeth drwy’r drws. Felly, dwi’n meddwl mai’r gwahoddiad yna gan Benny, Benny Price mawr ei barch o Gwmgwili, a oedd yn Bencampwr Cymru pwysau welter ysgafn proffesiynol ei hun, oedd y peth gorau ddigwyddodd i mi. Wnes i erioed edrych yn ôl. Ennill Dechreuodd y cyfan gydag ennill pencampwriaeth Cymru yn 11 oed. Yn 12 oed, fe baffiais i ym Mhencampwriaethau Cymru, pryd y collais yn y rhagbrofion, felly dywedodd fy hyfforddwr, Gareth Bevan, "Mae’n rhaid i ni ddechre datblygu mwy o bŵer". Y flwyddyn wedyn, yn 13 oed, dwi’n meddwl i fi ennill fy chwe ffeit ym Mhencampwriaethau Cymru a mynd ymlaen i ennill rhai Prydain. Hwnna oedd fy nheitl Prydeinig oed ysgol cyntaf. Wnes i ailadrodd hynny dair gwaith o’r bron, sy’n golygu mod i, yn 13, 14, a 15 oed, wedi ennill y pencampwriaethau Prydeinig, Cymreig ac oed ysgol, a dwi’n sobor o falch o hynny. Mae ’na rywbeth am focsio. Dwi’n meddwl ei fod yn denu enillwyr. Allwn ni ddim i gyd fod yn enillwyr, ond mae gan y rhan fwyaf o bobl sy’n fodlon camu i mewn rhwng y rhaffau ewyllys cryf iawn. Mae’n rhaid i focswyr fod â phersonoliaeth ddeuol. Mae’n rhaid i chi allu mynd â’r tân yn eich bol i mewn i’r cylch ond, hefyd, wrth i chi ddod allan, mae’n rhaid i chi ddod yn ôl i realiti, a bod yn chi’ch hun. Yn yr ysgol uwchradd, rygbi oedd y brif gamp. Roeddwn i’n chwarae dros yr ysgol, a thros yr ardal. Yn nodweddiadol o focsiwr, bachwr oeddwn i. Ges i wltimatwm gan fy hyfforddwr pan o’n i’n 12 ac wedi colli yn y bencampwriaeth yna. Roedd hi’n ddewis rhwng chwarae rygbi i’r ardal neu focsio, ac fe dderbynies i’r hyn ddywedodd e, "Dim ond mewn un gamp y gallwch chi fod yn dda”. dwrn o ddur Roedd Gareth yn dasgfeistr caled, ’does dim dwywaith am hynny. Nid ef oedd y dyn mwyaf poblogaidd yn y pentref gyda’r rhai ifanc, achos roedd yn rheoli’r gampfa gyda dwrn o ddur, ond dwi’n meddwl, heb hynny, na fyddai nifer o fechgyn y pentref wedi cyrraedd lle maen nhw heddiw. Mae gan y rhan fwyaf o hyfforddwyr bocsio lygaid craff iawn. Maen nhw’n gallu gweld y peth gwahanol yna mewn plentyn sy’n ei osod ar wahân i’r gweddill. Pan rych chi’n mynd mewn i’r rhaffau yna, rych chi’n newid, ac maen nhw’n sylwi ar hynny, ac yna yn eich arwain i’r cyfeiriad iawn. Ac nid dim ond yn y gampfa; mae’r ddisgyblaeth mae’r hyfforddwyr yn ei rhoi i’r bechgyn ifanc pan maen nhw tu allan i’r gampfa yn bwysig hefyd. Mae’n rhaid ichi fod yn gwrtais; mae’n rhaid ichi gael moesau da; mae’n rhaid ichi fwyta a chysgu’n dda; ac, os dysgwch chi hyn o oed ifanc iawn, dwi’n meddwl ei fod yn aros gyda chi am weddill eich oes. modelau rôl Roedd fy mrawd Ken a’m brawd Terry yn bocsio yng nghanol y chwedegau, a bu’r ddau yn Bencampwyr Cenedlaethol Cymru. Yn 1968 enillodd Ken deitl Pwysau Welter Cymru a dwi’n siŵr fod hynny wedi cael dylanwad arnaf i, gweld ei lun ar y wal yn y tŷ ac, wrth gwrs, yn naw mlwydd oed, clywed y gair bocsio. Roedd Ken Buchanan yn eilun i mi. Roedd ganddo ryw ddawn arbennig. Gallai ymladd bocsio. Roedd yn gymeriad lliwgar yn ei siorts tartan, a chredwch neu beidio, bues i’n bocsio mewn pâr o siorts tartan roedd mam wedi’u prynu mewn jymbl sêl yn rhywle. Roedd fy rhieni yn gefnogol iawn. Roedden nhw’n dod i’r pencampwriaethau i gyd, i’r gornestau clwb. Dwi’n meddwl eu bod nhw wedi gweld fy mhotensial o oed cynnar iawn. Doedd dim problemau i ddweud y gwir, dim rhwystrau yn fy ffordd. Diet Os ydych yn dechrau pencampwriaeth bechgyn ysgol ym mis Ionawr, weithiau fydd y rownd derfynol ddim tan fis Ebrill. Mae’n rhaid ichi gadw’r pwysau iawn, mae’n rhaid ichi hyfforddi’n galed, ac rydych chi’n tyfu. A doedd na ddim mo’r fath beth â maethegwyr y dyddiau hynny. Diet? Dwi ddim yn meddwl fod y fath beth yn bod. Dwi’n meddwl mai mater o beidio bwyta cymaint oedd hi. Gallaf i gofio’n ôl pan o’n i’n 11, 12, 13, ro’n i’n byw ar ddim ond Ryvita a chaws, pishyn bach o gaws ar un darn o Ryvita, ac weithiau dim ond hanner cwpanaid o de, a dyna ni am y diwrnod. Yr ewyllys i ennill oedd yn gwneud hynny. Waeth pa mor wan neu flinedig, roedd y penderfyniad i ennill yn llawer cryfach nag unrhyw beth arall. Gwahardd Roeddwn i wrth fy modd yn hyfforddi, ac yn arfer hyfforddi bob dydd. Ond, pan ddaeth Gareth Bevan a Benny Price i wybod am hyn, fe roeson nhw stop arna i. Dywedon nhw, "Mae ’na’r fath beth â gor-hyfforddi grwt!" Wel, fel person ifanc, fyddech chi ddim yn gwybod am hynny. Yn sicr, doeddwn i ddim yn gwybod. Felly, fe ges fy ngwahardd o’r gampfa ar ddydd Mawrth a dydd Iau! Dyna i chi beth. Mae hynna’n eithaf unigryw, cael eich gwahardd o glwb bocsio er eich lles eich hun. Cygnau Fel y rhan fwyaf o focswyr, problemau gyda’r dwylo, y cygnau (knuckles) oedd y peth mawr, oherwydd yn y dyddiau hynny ’doedd dim hawl gyda chi i wisgo rhwymynnau i warchod eich dwylo fel plant ysgol. Gan mod i’n pwnsio’n fawr, yn dyrnu, pan oeddwn yn taro penelin rhywun ro’n i’n dioddef tipyn. Ond, wrth gwrs, wrth ichi fynd yn hŷn, maen nhw’n caniatáu rhywfaint o rwymyn, ac wrth ichi gyrraedd y byd proffesiynol, yna fe gewch chi rwymyn, tâp a phadiau, felly diflannodd y broblem honno. Am mod i wedi dechrau bocsio mor ifanc, roedd gen i fantais dros y rhan fwyaf o bobl. Es i’r gampfa pan o’n i’n naw ac ro’n i yn y gampfa am ddwy flynedd solet cyn cael cystadlu fel bachgen ysgol, sef yn 11 oed. Roedd gen i fantais fawr felly. Ac wrth gwrs, eto, gan mod i’n ddyrnwr mawr, daeth yn hawdd i fi. Os gallwch chi fwrw pobl allan yn gynnar, yna nid yw’r ffeits yn para mor hir, a dydych chi ddim yn gwneud cymaint o niwed i’ch hun. Dwi’n meddwl mod i wedi cael dros 100 o ornestau fel amatur. Rych chi bob amser yn cofio’r rhai golloch chi. I fod yn onest, roedd y rhai roeddwn i’n eu hennill yn amherthnasol, ond dwi bob amser yn cofio’r rhai a gollais. Hyd heddiw dwi’n cofio colli chwe ffeit, felly enillais i tua 100 gornest a cholli chwech, ddim yn ddrwg o ystyried mai’r Gemau Olympaidd oedd un a Phencampwriaethau Ewrop oedd un arall. Montreal Yn arwain i fyny at Gemau Olympaidd 1976 yn Montreal, roeddwn wedi ennill nifer o deitlau cenedlaethol: teitlau Prydeinig, teitlau ABA, ac, yn 16 oed, teitl Iau Cymru. Doedd dim Pencampwriaethau Prydeinig Iau yn 16 oed, a sylweddolodd cadeirydd y WABA yr adeg honno, Mr Ray Allen, mod i’n rhy ifanc i fynd i’r Pencampwriaethau Hŷn. Doeddwn i ddim yn 17 tan fis Mawrth ond roedd rhag-rowndiau Pencampwriaethau Hŷn Cymru ym mis Ionawr. Felly, cafwyd cyfarfod arbennig a phenderfynon nhw y bydden nhw’n gadael i fi, yn 16 oed, fynd i’r Pencampwriaethau Hŷn. Efallai y byddai wedi bod yn ormod i ofyn i unrhyw fachgen 16 oed arall, ond eto, am mod i wedi ennill cymaint o deitlau cyn hynny, a’r ffordd yr o’n i’n ennill fy ngornestau yn stopio pobl, yn eu llorio nhw, yna fe wnaethon nhw eithriad i fi, a ches fynd i’r Pencampwriaethau yn 16 oed. Felly es i drwy’r rowndiau rhagarweiniol, cyrraedd y ffeinal, ac ennill Pencampwriaeth Cymru. Newydd gael fy 17 ym mis Mawrth oeddwn i. Yna, ym mis Ebrill, edrych ymlaen at Bencampwriaethau’r ABA. Roedd y rowndiau cyn-derfynol yn yr Old Bellevue ym Manceinion, ac os oeddech chi’n mynd drwy’r rhain, yna roeddech yn mynd i’r ffeinal oedd yn y Wembley Arena. Yn 17 oed, es i trwodd ac fe enillais y teitl cenedlaethol. Erbyn hynny roedd hi’n flwyddyn y dethol, 1976. Wel, yn 17 oed, roedden nhw’n meddwl mod i’n rhy ifanc, felly daethon nhw â thîm tan gamp draw o’r Unol Daleithiau i Wembley, fis yn ddiweddarach, i weld a allwn ni eu hwynebu nhw yn ddianaf, a dyna wnes i. Paffiais yn erbyn un o’r Marines o’r enw Rocky Flatto, ac roedd e’n ddyn caled, 23 oed, pencampwr y Golden Gloves, ac roedden nhw eisiau gweld sut byddwn i’n delio ag ef. Ges i fe lawr unwaith neu ddwy ond aethom drwy’r ornest ac enillais i’n bendant. Dwi’n meddwl mai dyna lle’r enillais fy nhocyn i fynd i’r Gemau Olympaidd. Roedd llawer o bobl o blaid hynny ac roedd llawer o bobl yn erbyn, ond dwi’n meddwl, os ydych chi’n gallu concro unrhyw beth maen nhw’n ei roi o’ch blaen, beth bynnag yw’ch oed chi, yna rydych chi’n ddigon da i fynd, ac roeddwn i ar fy ffordd i Gemau ’76. Un o funudau balchaf nid yn unig fy ngyrfa fel bocsiwr, ond fy mywyd, oedd cyrraedd yr orsaf drenau yn Abertawe i ddechrau’r daith drwy fynd i Lundain, ac yna i’r maes awyr. Pwy oedd yn disgwyl amdanom yn yr orsaf ond Carwyn James, Carwyn James o Lanelli, yr hyfforddwr rygbi. Roedd Carwyn yn gweithio i’r BBC ar y pryd ac roedd yn aros yno, ac anghofiaf i fyth yr olwg ar wyneb fy nhad pan oedd Carwyn yno yn disgwyl i’m holi i. Roedd e mor falch, mor browd ei fod wedi gweld Carwyn James yn cyfweld ei fab. 1976 oedd y flwyddyn pan oedd problemau gyda gwledydd Affrica ac fe dynnon nhw allan o’r Gemau. Serch hynny, roedd eu henwau wedi’u cynnwys a ches i fy nhynnu yn erbyn bocsiwr o Affrica, felly ces symud ymlaen heb ymladd. Yna paffiais yn erbyn Eamon McLoughlin o Iwerddon a gornest hen ffasiwn go iawn oedd honno. Roedd hi’n fater o bwy bynnag oedd yn gallu cloddio ddyfnaf, pwy oedd eisiau ennill fwyaf a des i drwyddi o drwch blewyn gyda dyfarniad hollt, 3-2, 3-2. Yn y rownd nesaf, ro’n i yn erbyn hen law, Victor Zilberman o Rwmania. Trydydd Gemau Olympaidd Victor. Roedd yn 29 oed, ac yn y rownd gyntaf, Bingo! Gwnes i ei daro â bachiad chwith, roedd e ar lawr. Ond dwi’n meddwl mai ei brofiad a’i gryfder oedd y prif ffactorau a daeth drwyddi ac ennill yr ornest a doedd dim dwywaith am hynny. Aeth Victor ymlaen i ennill y fedal efydd. Yn 17 oed, dyna un o brofiadau gorau fy mywyd. Yr uchafbwynt ar y pryd. Am brofiad! Rhoddodd sylfaen i mi am weddill fy mywyd. Fi oedd yr ieuengaf erioed i gystadlu yn y bocsio, a dim ond yn ddiweddar y curodd Amir Khan y record honno. y teitl prydeinig Cefais rag-rownd i’r teitl Prydeinig yn erbyn Cymro o Gaerdydd o’r enw Billy Wraith. Roedd Billy wedi cael dros gant o ornestau, ac yn y broliant cyn y ffeit, yn y datganiadau i’r wasg, roedd Billy’n dweud ei fod wedi anghofio mwy nag o’n i wedi’i ddysgu erioed. Roedd hi’n argoeli i fod yn dipyn o ornest, ac roedd yn cael ei chynnal yn y World Sporting Club drwy law Jack Solomons. Wrth gwrs, roedd gan Eddie Thomas chwilen yn ei ben am y cymoedd; roedd pobl Merthyr yn ymladdwyr gwell na rhai Caerdydd bob tro. Er mai yng Ngorseinon ro’n i’n byw, ro’n i’n dal i wneud yr ymarfer i gyd ym Merthyr o dan arweiniad Eddie Thomas. Pan ddaeth y ffeit, roedd y dyfarnwr, Jim Brimmel, yn dod o Gaerdydd – mae wedi’n gadael erbyn hyn ond roedd yn ddyfarnwyr gwych, yn gymeriad gwych. Felly, cyn yr ornest, dyma Brimmel yn dweud, "Un peth gei di gen i fachgen, a chware teg yw hwnnw. O ble bynnag ti’n dod, gallaf i addo y cei di chware teg". Ac yn wir, roedd Billy ar wastad ei gefn ar ôl chwe rownd. Wrth gwrs roedd rhag-rownd arall ar ôl hynny, yn erbyn Joey Mac a oedd yn dipyn o arbenigwr ar lorio pobl ei hun, felly roedd yn frwydr yr ergydwyr mawr. Yng Nghlwb y Double Diamond yng Nghaerffili oedd honno. Roedd yn achlysur mawr. Dwi’n meddwl mai i naw rownd yr aeth honno, a dwi’n meddwl mod i wedi’i gael e lawr hanner dwsin o weithiau ar y dec, ac eto, roedd gennym ddyfarnwr ardderchog, Harry Gibbs. Des i drwy honna, a’r llwyfan mawr oedd nesaf, sef Wembley ei hun. Dywedodd Eddie Thomas, "Gwranda, nawr. Mae’n mynd i fod yn galed arnat ti nawr". Cadwodd fi draw oddi wrth griw Llundain drwy fy hyrwyddo yn Aberafan, fy natblygu yno, ac fe ges i 13 neu 14 ffeit heb golli. Eddie oedd yn hyrwyddo llawer ohonynt, gan adael i fi fynd i neuadd fach unwaith neu ddwy, ond yr achlysur mawr oedd Wembley ac, wrth gwrs, roeddwn yn erbyn y cawr Kirkland Lang. Roedd y pwyso ar ddiwrnod y ffeit ei hun. Roedd y pwyso bob amser yn digwydd am un o’r gloch, waeth faint o’r gloch roeddech chi’n paffio gyda’r nos. Ac wrth gwrs, roedd cyrraedd yna’n rhywbeth arall, y Cymro bach diniwed ag oeddwn i. Dim ond pwysau welter bach oeddwn i, beth bynnag; yn dod i mewn tua deg stôn pedwar a dim ond rhyw ddeg pedwar, deg pump allwn i ei gyrraedd. O ran y bechgyn eraill, fel Kirkland Lang, roedden nhw’n dod i lawr i’r adran. Pan gyrhaeddon ni ar gyfer y pwyso, y peth cyntaf ddywedodd Kirkland Lang wrtha i oedd, "Gwranda, fachgen, ’dyw dy reolwr ddim yn dy hoffi di neu beth?" Atebais i, "Beth wyt ti’n feddwl, ydi fy rheolwr yn fy hoffi i?" Dywedodd e, "Wel, ti’n gwybod dy fod ti’n mynd i gael curfa wrtha i heno. Does gen ti ddim o’r corff, y manteision corfforol sydd ’da fi. Edrych ar y gwahaniaeth yn ein maint ni. Ti’n edrych yn anemig, ti’n mynd i gael crasfa heno". Fe wnaeth hyn droi arna i a dywedais - a dwi ddim y math hwn o berson - "Wel, cawn ni weld am heno! Cawn ni weld!" Ac, wrth gwrs, daeth hi’n amser y ffeit, gyda llawer o sôn amdani. Yr Ergydiwr yn erbyn y Bocsiwr Gorau. Roedd ei ddawn yn disgleirio o’i gwmpas. Roedden nhw’n disgwyl i Kirkland Lang fynd ar y llwyfan a gwneud pethau mawr ac, wrth gwrs, roedd y crwt ’ma o Gymru yn y ffordd, ac am wyth rownd, roedd hi’n edrych mai fel yna y byddai hi, oherwydd, pob parch iddo, doeddwn ni ddim yn gallu’i gyrraedd gyda’m hergydion mawr a rhoddodd e dipyn o driniaeth i fi. Pan ddes i allan ar gyfer y nawfed rownd, fe glywais i Eddie Thomas yn y gornel yn dweud - credwch neu beidio gallwch chi glywed pethau pan rych chi yn y cylch yn y cornel ac maen nhw’n gweiddi cyngor - fe glywais i Eddie Thomas yn dweud wrth fy hyfforddwr, Gareth Bevan, "Gobeithio nad yw’r ornest yma’n rhy gynnar i’r crwtyn". Wel, ysbrydolodd hynny fi. Meddyliais, "Wel, na, ’dyw hi ddim yn rhy gynnar i fi. Fi sydd heb allu cael yr ergydion mawr allan". Ac, wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn gwybod beth ddigwyddodd yn y nawfed rownd, bang, roedd un dyrnod yn ddigon i newid yr holl beth, ac roedd Kirkland Lang allan ohoni ac roedd gennym Bencampwr Pwysau Welter Prydain newydd - y crwtyn anemig, tenau, llwyd yna oedd yn dod o - beth ddywedodd un o’r papurau tabloid? - "o’r ardal lwyd, gyda thoeau llechi llwyd y tai cyngor", ac efallai fod hynny’n wir, ond y bachgen hwn oedd Pencampwr Prydain. Dyna’r trobwynt. Roedd gornestau teitl yn bymtheg rownd, oedd yn fy siwtio i. Roedden nhw’n siwtio dyrnwr ac roedden nhw’n fy siwtio i achos roeddwn yn dwlu ar y gêm. Roeddwn yn byw’r gêm. Ro’n i’n paratoi’n galed. Roedd popeth ro’n i’n ei wneud yn iawn, er mwyn y bocsio. bocsiodd ei hochr hi am wyth rownd Yna’r ornest yn ôl gyda Kirkland Lang, oedd yn golygu mynd yn ôl i Lundain a Harry Carpenter yn dweud, "Iawn, dyrnod lwcus oedd y ffeit gynta. Fydd e ddim yn gallu’i gwneud hi eto”. Ond dilynodd y ffeit yr un trywydd. Yn yr wyth rownd gyntaf, fe focsiodd ac fe focsiodd, does dim dwywaith am hynny. Mae’r dystiolaeth fideo yno. Bocsiodd ei hochr hi am wyth rownd, ac yn yr wythfed rownd rhoddodd andros o ddyrnod i fi eto yn yr ail ffeit – nid fel hyn roeddwn i wedi’i rhagweld hi. Roeddwn i gymaint o eisiau ennill y Gwregys Lonsdale yna yn llwyr. Hwnna oedd y trydydd hicyn ar y gwregys, sy’n eich galluogi i gadw’r gwregys, y gwregys gorau yn y byd, yn fy meddwl i. Felly, pan ddes i allan i’r nawfed rownd - ro’n i wedi bod ar y dec ddwywaith yn yr wythfed - digwyddodd rhywbeth unigryw, roedd fel déja vu. Digwyddodd eto. Bang, fe’i trawais i e gyda bachiad chwith mawr. Dyma fe lawr. Cyfrodd John Coyle, y dyfarnwr, hyd at wyth, naw a dyna ni. Roedd y cyfan drosodd. Doedd e ddim yn ddigon da i gario mlaen. Dyna beth oedd gwireddu breuddwyd. dim ond dyrnwr mawr? Os ydych chi’n ennill tri theitl bechgyn ysgol Prydain, ac yn ennill dau deitl ABA uwch, a hefyd naw Pencampwriaeth Cymru, mae’n rhaid eich bod yn gallu bocsio hefyd, oherwydd dydych chi ddim yn mynd i lorio pawb, dros dair rownd un munud a hanner yn y bechgyn ysgol, tair rownd dwy funud yn yr adran iau, a thair tair munud yn yr adran hŷn. Does dim digon o amser. Felly, mae’n rhaid fy mod i’n eitha da yn bocsio, yn procio, yn symud. Mae’n rhaid fod gen i hynny hefyd. Mae pawb fel pe baen nhw’n cofio rhyw ddyrnod arbennig, ond os ydych chi’n gallu bocsio ymladd, mae hynny’n fantais aruthrol, yn fy marn i. Heb swnio’n ben mawr, mae’n debyg fy mod i’n focsiwr ymladd da, bocsiwr ymladd da gyda dyrnod mawr. Roedd y dyrnod yn gaffaeliad. Os nad oeddwn yn gallu bocsio cystal â rhai pobl, fel Kirkland Lang, yna gallwn fynd yn ôl at fy newrder gwreiddiol a’m gallu i ddyrnu. fe ddaeth i ymladd Fe gymerais i deitl y Gymanwlad oddi ar Mark Harris o Ghana. Gornest naw rownd unwaith eto, sy’n esbonio plât rhifau’r car. Roedd yn ddyn caled yn byw yn Efrog Newydd a chanddo enw da, amatur solet da. Dwi’n meddwl ei fod eisoes wedi ennill medal aur yn y Gymanwlad ac fe ddaeth i ymladd, oedd yn fy siwtio i’n iawn. Er mor galed oedd e, ac er mod i’n ddyrnwr mawr, fe lwyddodd i fynd naw rownd ond, unwaith eto, dyna deitl arall i fi. un o’r nosweithiau hynny pan na allwch chi wneud dim byd o’i le Yr Ewropead wedyn, y Daniad. Mae pethau’n wahanol erbyn heddiw. Roedd rheolwyr slawer dydd, fel Eddie Thomas, yn hoffi’ch gweld chi’n gwneud eich prentisiaeth, yn ennill pencampwriaeth Prydain, yna’r Gymanwlad, ennill Pencampwriaeth Ewrop, mynd ymlaen i deitl y Byd. Heddiw, maen nhw’n neidio o unrhyw beth, o bedair, pump, chwe gornest ac maen nhw’n ymladd am Bencampwriaeth y Byd. Mae hynny ychydig bach yn ddiystyr, ond fel dywedais i, gyda Eddie Thomas, roedd yn rhaid ichi ddod i fyny drwy’r rhengoedd ac unwaith i chi ennill y teitl Ewropeaidd, roeddech chi bron yn siŵr o gael eich graddio gyda’r gorau yn y byd. Roedd yn rhaid inni fynd i Ddenmarc i focsio Hans-Henrik Palm, a’r tro cynta aethon ni yno, dwi’n cofio bod fy mhwrs i tua £17,000. Doeddwn i ddim wedi bod yn briod yn hir iawn ac fe brynais i dŷ ar gefn y £17,000 yna. Roeddwn i eisoes wedi gwerthu fy nhŷ cyntaf, tŷ bach teras yng Nghasllwchwr. Fe werthon ni hwnnw a rhoi’r £17,000 tuag at dŷ newydd ym Mhenyrheol, felly roedd yr arian wedi’i wario cyn i fi gyrraedd yno a dweud y gwir. Anghofia’i fyth mynd lawr i weld cymeriad arbennig, Gwyn Walters, dyn mawr yng Nghlwb Criced Tre-gŵyr, dyn â pharch mawr iddo ym myd chwaraeon. Ef oedd rheolwr Cymdeithas Adeiladu’r Gateway, a gorfu i fi fynd lawr yna, cap yn fy llaw, a gofyn iddo, "Gwrandwch, Gwyn, dwi’n mynd i Ddenmarc, i Copenhagen, i focsio am y teitl Ewropeaidd. Dyma’r cytundeb dwi wedi’i lofnodi a dyna faint o arian dwi eisiau’i fenthyg ar gefn hynny i brynu’r tŷ". Ac fe lofnodwyd y contract. Y ddêl wedi’i gwneud. Ond y noson cynt, ro’n i’n diodde â ’mhendics, felly ces fy rhuthro adre o Ddenmarc. Fe ges i’r llawdriniaeth ac mewn misoedd yn unig ro’n i’n ôl yn y gampfa. Roedd y ddyled yna o £17,000 yn hongian uwch fy mhen, ac nid felna y ces i fy magu, ces i fy magu i beidio â bod mewn dyled, a dwi’n meddwl mai dyna’r unig dro yn fy mywyd i fi fod mewn dyled. Felly nôl â ni i Ddenmarc, ychydig fisoedd wedyn. Yn y cyfamser, roedd Hans-Henrik Palm wedi llorio George Warefal, Ffrancwr, yn y bencampwriaeth, felly roedden ni’n gwybod fod Palm yn ymladdwr ardderchog. Roedd yn dal a main, roedd wedi curo’r naw gwrthwynebydd Prydeinig diwethaf ac wedi’u curo nhw’n dda. Felly, roedden ni’n gwybod na fyddai pethau’n hawdd. Ond, i fod yn gwbl onest, y noson honno, wrth focsio Palm am y teitl Ewropeaidd, dwi’n meddwl y byddwn i wedi rhoi gwerth eu harian i unrhyw ymladdwr yn y byd, pwy bynnag oedden nhw, oherwydd honno oedd fy noson i. Mae pob bocsiwr yn cael rhyw noson pan na allwch chi wneud dim byd o’i le. Rych chi’n teimlo’n dda, mae popeth yn iawn, mae beth bynnag wnewch chi yn llwyddo, a Bingo! wnes i ei lorio mewn tair rownd. Pan aethon ni yn ôl i’r gwesty, daeth dau ddyn rhagorol, dau riportar rhagorol, Huw McIlvenny a Ken Jones, i mewn, a dywedon nhw, "Rydyn ni newydd gael cadarnhad. Rydym wedi dweud wrth America am y fuddugoliaeth, y fuddugoliaeth wych gest ti, ac mae’n ymddangos eu bod nhw am dy roi di mewn ffeit am deitl y Byd gyda naill ai Milton McCrory neu Don Curry". Gallwn i naill ai focsio yn erbyn McCrory am deitl gwag y WBC, neu’r WBA a Don Curry. Dyna sut y blodeuodd pethau, dim ond yn sgil yr un fuddugoliaeth honno yn Nenmarc, dyna sut y daeth y cam nesaf ar lwyfan y byd. troi’n broffesiynol am bris tracwisg Pan es i i’r Almaen i’r Pencampwriaethau Ewropeaidd, y cyfan oedd gyda ni oedd tracwisg. Doedd yr arian ddim yno, ddim fel heddiw lle mae’r bechgyn yn cael pob gofal. Roeddwn i eisiau rhywbeth i gofio’r Gemau a, phan ddes i adre, dywedais mod i wedi colli fy nhracwisg, achos roeddwn i am ei chadw. Derbyniais lythyr gan y WABA yn dweud y byddai’n rhaid i fi dalu am y dracwisg. Roedden nhw eisiau £38 am y dracwisg a dywedais i, "Wel, dwi eisiau rhywbeth i gofio", a dywedon nhw, "Os nad wyt ti’n dod â hi’n ôl neu ddim yn talu’r £38, fyddi di ddim yn mynd i Gemau’r Gymanwlad". Wnes i feddwl, wel, roeddwn i ddim ond yn ennill £48 yr wythnos, yn gweithio dan ddaear yng Nglofa Brynlliw, a doeddwn i ddim yn barod i weithio am wythnos dim ond i dalu am dracwisg. Roeddwn i’n chwarae snwcer mewn neuadd leol a daeth Eddie Thomas draw. Doeddwn i ddim yn gwybod pwy oedd Eddie Thomas, ddim yn gwybod sut roedd yn edrych, ddim wir wedi clywed amdano, a dywedodd, "Gwranda arna i. Dwi ’di clywed am yr anghydfod bach sy’n mynd mlaen. Os wyt ti eisiau, galli di droi’n broffesiynol gyda fi. Chei di ddim arian dwl, ond wna i edrych ar dy ôl di, a gwneud yn siŵr fod popeth gyda ti, cit, popeth sydd ei angen, ac fe wna i dy reoli di a bod yn gefn i ti”. Felly, ges i air gyda’m tad a dyna pryd y penderfynais i droi’n broffesiynol. Felly, anghydfod pitw am rywbeth bach a’m trodd i’n broffesiynol. fydd e byth yn y llyfrau hanes Roedd gornestau McCrory yn achlysuron mawr. Yr adeg honno, roedden nhw wedi gostwng y rowndiau o 15 i lawr i 12, oedd yn siom i fi achos dwi’n hoffi’r syniad o 15 rownd a dwi’n meddwl, wrth ystyried cystadleuaeth fawr neu deitl Byd, dwi’n meddwl mai 15 rownd yw’r pellter iawn. Bryd hynny rydych chi’n gweld pwy yw’r gwir bencampwr. Ond, yn anffodus i fi, roedden nhw wedi’i ostwng yn y cyfnod hwnnw. Hon oedd yr ornest 12 rownd gyntaf yn yr Unol Daleithiau, ac aethon ni â llond lle o gefnogwyr gyda ni. Aethom i Lyn Tahoe i gynefino â’r uchder, yna lawr i Reno, Nevada, lle’r oedd y ffeit yn cael ei chynnal ac, wrth gwrs – nid fy ngeiriau i yw’r rhain, geiriau pobl eraill - roedd yn benderfyniad dadleuol, y sgôr cyfartal, ond beth bynnag, o’m rhan i, roedd cael gornest gyfartal yn yr Unol Daleithiau gystal ag ennill. Fydd e byth yn y llyfrau hanes ond o ran yr holl bobl oedd yno’r prynhawn hwnnw, dwi’n meddwl fod y mwyafrif yn credu mod i wedi cael cam mawr. Mae gen i barch mawr i McCrory o hyd ac mae’n glod i’r gêm, ac yn Bencampwr Byd teilwng. Dwi’n meddwl yn y bôn, mae fy nghalon i’n dweud mod i wedi gwneud digon i ennill, ond pan edrychwch chi ar yr amgylchiadau - Don King yr hyrwyddwr; ymlyniad Don King i’r WBC; yr amodau roedd rhaid inni eu hwynebu pan aethon ni i America i baratoi a hyfforddi ar gyfer y teitl - dwi’n meddwl fod llawer o bethau yn ein herbyn. Felly, roedd dod adre gyda gornest gyfartal yn ganlyniad da yn wir. 3339K Ar ôl cyrraedd adre o America yn 1983, wedi cael gornest gyfartal, roeddwn i’n digwydd bod yn mynd am dro ar dop y pentref, ac yn ein garej leol roedd BMW ar werth gyda 3339K ar y plât. Mae tri tri yn naw - roeddwn wedi ennill teitl Prydeinig ddwywaith yn rownd naw, ro’n i wedi ennill y Gymanwlad mewn naw, a bron ennill Pencampwriaeth y byd yn rownd naw ar ddau achlysur. Roeddwn i eisiau’r plât yna, felly es i mewn i holi. Ond doedden nhw ddim am i’r plât fynd heb werthu’r car. Felly, aeth wythnos neu ddwy heibio a daeth y dyn a brynodd y BMW i’r tŷ a dechrau siarad am blatiau rhif preifat. Dyma fi’n meddwl, "’Ma ni te. Mae e wedi clywed mod i wedi ennill ceiniog neu ddwy yn America ac mae e wedi dod i ’mhluo i." Ond i fod yn deg ag e, dywedodd, "Edrych Colin, dwi ’di bod yn dy wylio dros y blynydde. Ti di rhoi lot o bleser i ni. Fyset ti’n hoffi cael y plât?" "Faint fydd e’n gostio?" gofynnais. A dywedodd e, "Tala di am drosglwyddo’r plât a’i ailgofrestru ar dy gar di a dyna’i gyd". A dyna sut y ces i’r rhif yn ’83, ac mae wedi bod ar sawl car ers hynny. personoliaeth chwaraeon y flwyddyn Roedd yn ddiddorol sut arweiniodd pethau i fyny at ennill Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn 1983. 1980 oedd y flwyddyn enillais i Bencampwriaeth Prydain. Cefais fy ngwahodd i’r seremoni oherwydd hynny ac, ar y pryd, roedd Neville yn Bencampwr Prydain hefyd, felly cawsom ein dau ein gwahodd, a chael ein cyflwyno ar y llwyfan, ac mi wnes i fwynhau’r teimlad. Pan es i nôl yno yn ’81, des yn drydydd a meddyliais, "Mae hwn yn deimlad da". Dywedodd Eddie Thomas, "Paid â becso. Caria di mlaen i ennill y teitlau ac mi fyddi di’n rhif un ar y llwyfan, dwi’n siŵr". Ac yn wir, daeth ’82 ac roeddwn i’n ail. Roeddwn wedi ennill y Gymanwlad a Phencampwriaethau Ewrop y flwyddyn honno a phan ddaeth ’83, pan ddes i nôl ar ôl yr ornest gyfartal, dyna’r flwyddyn yr enillais y Bersonoliaeth Chwaraeon. A dyna anrhydedd oedd hynny, yn enwedig wrth edrych ar yr holl sêr chwaraeon, a’r cyn enillwyr. Roedd yn rhywbeth y bydda i’n ei gofio am byth. difaru dim Ar gyfer yr ornest yn ôl gyda McCrory, allech chi ddim cael gwell sylw i ffeit am Deitl y Byd. Roeddem eisoes wedi bocsio deuddeg rownd chwilboeth mewn uned dymherus yn Reno, Nevada. Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig cofnodi mod i wedi cael y dewis o focsio’r ffeitiau hyn yn Llundain, ond roedd y gwahaniaeth yn arian y pwrs yn anhygoel. Roedd yn swm o arian fyddai’n newid bywyd rhywun. Roedd gen i deulu ifanc. Roedd gen i wraig. Ro’n i’n ifanc. Wrth gwrs, mae arian yn bwysig i bawb yr oed yna, a gan fod bywyd bocsiwr yn fyr mae’n rhaid ichi gael arian wrth gefn. Felly, fe ges i gyfle i focsio yn Llundain a gwrthodais. Dwi’n cofio dweud wrth Eddie Thomas pan gwrddon ni â Mickey Duff yn Llundain i geisio dod i ddealltwriaeth: "Os dwi’n ei daro ar ei ên yn Las Vegas neu os dwi’n ei daro ar ei ên yn Llundain, rydyn ni’n mynd i gael yr un canlyniad, felly beth am gymryd gambl.". Fi oedd yn cymryd y gambl. Nid gambl Eddie Thomas oedd hi. Fy mhenderfyniad i, felly alla i ddim beio neb ond fi fy hun. Felly, bant i America â ni. Yn yr ail ornest hon, mae’n siŵr eu bod nhw wedi pentyrru’r rhwystrau yn ein ffordd, ddwywaith gymaint ag yn Reno, Nevada. I ddechrau, chwysu ym maes parcio’r Dunes Hotel (a gyda llaw dyna lle y collodd Barry McGuigan ei deitl i Steve Cruz oherwydd y gwres llethol). Roedd hi’n rhywbeth fel 116 i 120 gradd, sy’n hurt. Ni all yr un dyn gwyn gyfarwyddo â hynny, ac yn enwedig rhai golau eu croen sy’n gyfarwydd â thywydd gwlyb, fel ni. Ond beth bynnag, aethom ni eto i Lyn Tahoe am bythefnos, yna lawr i Reno, lle y buom yn paratoi y tu allan i westy’r MGM, oedd yn fy noddi. Rhoddon nhw le gwych y tu allan inni i gael hyfforddi yn y gwres am bythefnos, ac yna aethom lawr i Vegas am bythefnos. Felly, roeddem wedi paratoi’n dda, os gallwch chi fyth baratoi ar gyfer tymheredd o 120. Ond, o ran yr hinsawdd, mae’n mynd i siwtio dyn du yn well na dyn gwyn, a dwi’n meddwl mai dyna wnaeth y gwahaniaeth yn y pen draw. Eto, dechreuais yn araf ond llwyddais i ennill momentwm drwy gydol y ffeit. I fynd yn ôl at y gornestau pymtheg rownd, pe byddai’n ffeit pymtheg rownd mewn dwy ornest, does dim dwywaith pwy fyddai Pencampwr y Byd. Daeth McCrory allan gyda mwyafrif, 2-1, yn enillydd. Siom enfawr, breuddwydion, oes o freuddwydion, bywyd cyfan o waith caled, y cyfan wedi mynd mewn 48 munud. Gyda’r hyn sydd gen i heddiw, y teulu sydd gen i, y cartref, y bywyd, yna, na dwi’n difaru dim. Y gwahaniaeth yn y cyflog gyda’r ddwy ffeit yna, roedden nhw’n symiau o arian oedd yn newid bywyd. Efallai na fyddai gen i’r cyneddfau sydd gen i heddiw. Rydych yn gweld rhai bocswyr sy’n mynd ymlaen yn rhy hir oherwydd arian. Rydym yn siarad am gannoedd o filoedd o bunnau, a nôl yn ’83 roedd hynny’n arian anghredadwy. Mae yna stori fach neis a ddigwyddodd yn Las Vegas. Ddwy noson cyn dyddiad y ffeit, daeth cnoc ar y drws gan Duke Durden, prif ddyn Don King, a dywedodd, oherwydd fod y Dunes Hotel wedi tynnu eu nawdd yn ôl (gan eu bod yn nwylo’r derbynnydd), pe na bawn i’n fodlon cael gostyngiad o £100,000 yn fy mhwrs, yna byddai’r ffeit yn cael ei chanslo. Wel, roedd hyn yn newyddion ofnadwy, felly cafodd Eddie Thomas a finne sgwrs ac fe benderfynon ni hedfan cyfreithiwr i mewn o Efrog Newydd o’r enw Mike Trainer, a oedd yn edrych ar ôl arian Sugar Ray Leonard a’i gytundebau i gyd, i geisio datrys hyn. Meddyliwch, dau ddiwrnod i fynd a diwrnod i hedfan cyfreithiwr i mewn o Efrog Newydd ac wrth gwrs, fe wnaeth hynny darfu ar bopeth, patrwm cwsg, cyflwr meddwl rhywun. Pan feddyliwch chi am y peth, y £100,000, ro’n i’n gweithio dan ddaear ychydig flynyddoedd cyn hyn i gyd, ac yn ennill £48 yr wythnos. Felly, i ddweud wrth rywun fod yn rhaid iddyn nhw gymryd gostyngiad o £100,000, ddau ddiwrnod cyn yr achlysur, roedd yn siom enfawr. Ond cyrhaeddodd Mike Trainer, aethom i fyny i swyddfa Don King, a phan ddangoson ni’r cytundebau yr oedd Eddie wedi dod â nhw gydag e, dywedodd Mike Trainer, "Oes unrhyw wirionedd yn hyn, Don, beth ddywedest ti?" "Na", meddai, "Dyw e ddim yn wir o gwbl. Nes i ddim dweud hyn". Wel, doedd e ddim yn dweud celwydd, achos wnaeth e ddim dweud hyn. Ond roedd ei law dde wedi. Dyna’r math o driciau sydd gyda nhw, chi’n gweld. chwe wythnos ym Merthyr Ar ôl bocsio allan yn America, a chael y ddwy ffeit am deitl y Byd yn erbyn McCrory, popeth oedd yn mynd drwy fy meddwl, drwy feddwl pawb, drwy feddwl Gareth Bevan, oedd ymddeol. I ble dwi’n mynd o fan hyn? Ydw i eisiau mynd yn ôl i baffio adre am lawer llai o arian? Allwn i gael fy mrwdfrydedd yn ôl ar ôl cael fy nhrechu ym Mhencampwriaeth y Byd yn America, yr uchafbwynt, yr hyn roeddwn i ei wir eisiau mewn bywyd. Roeddwn i wir yn teimlo mod i wedi cael fy ngwrthod. Dywedodd Eddie Thomas, "Wnawn ni ddim penderfynu nawr. Gei di seibiant bach, ond doeddwn i ddim yn un i gymryd seibiant. Fu dim seibiant, dim wythnos o wyliau, dim pythefnos o wyliau. Cyn gynted ag y cyrhaeddais nôl, es yn syth i’r gampfa. Frank Warren oedd yr hyrwyddwr newydd yr oedd pawb yn siarad amdano. Roedd newydd gael ei drwydded gan y Bwrdd Rheoli Bocsio. Roedd yn chwilio am ffeit fawr fyddai’n ei sefydlu ar yr un tir â’r prif hyrwyddwyr ac felly daeth i weld Eddie a minnau. Dywedodd y gallai gynnig dêl tair ffeit i fi, a dau Americanwr yn Aberafan, yn y Lido, a phe bawn i’n llwyddo yn rheini yna gallai berswadio Don Curry i ddod draw ac amddiffyn ei deitlau yn yr NEC, yn Birmingham. Wel, mi wnaeth hynny godi fy nghalon. Daeth fy mrwdfrydedd nôl yn hawdd wedyn. Fe focsiais i Alan Brasswell gynta a’i roi e ar wastad ei gefn mewn rownd, ac arweiniodd hyn at, yng ngheiriau Frank, "Gawn ni dwymo i fyny eto gyda Billy Parks". Wel, roedd gan Billy Parks syniadau gwahanol, ac roedden nhw’n ddeg rownd ffyrnig a ro’n i’n meddwl bod yr ysgrifen ar y mur. Eisteddais i lawr gyda’m llygad wedi torri’n reit ddrwg. Gorfu i mi gael llawdriniaeth am awr ar doriad drwg ar ben fy llygad dde a aeth yn heintus a dechreuais fynd yn nerfus. Dechreuais feddwl fod y cleisiau’n fy ysgwyd. Dechreuais deimlo’r dyrnodiau. Ond, serch hynny, roedden nhw mewn trafodaethau gyda Don Curry i gael ffeit teitl y Byd yn Birmingham, felly dyma fi’n meddwl mae’n rhaid i fi fwrw iddi, nawr, setlo lawr, paratoi yn iawn. Ond, yn ddistaw bach, ro’n i’n gwybod fod rhywbeth ddim yn iawn. Roedd popeth yn mynd yn iawn yn fy mywyd, gyda’m priodas, gyda’r plant, gyda’r cartref, ond, rai boreau, byddwn yn agor y llenni i edrych allan drwy’r ffenest, yn gweld y rhew ar y lawnt, yn cau’r llenni a mynd yn ôl i’r gwely. Nid dyna’r ffordd i baratoi, ond serch hynny, aethon ni i ffwrdd. Aeth Eddie Thomas â fi i ffwrdd am chwe wythnos i Ferthyr ac os ydych chi’n treulio chwe wythnos ym Merthyr, byddwch chi’n gwybod beth dwi’n ei olygu. Does dim dewis gyda chi yno ond dod yn ffit, yn enwedig gyda Bannau Brycheiniog ar stepen y drws a digon o fechgyn caled yn yr ardal, a’r dynion sbario ddaeth i mewn, ac mi roeddwn mewn cyflwr da ar gyfer ffeit Don Curry. ei diwedd hi Hon oedd ffeit teitl byd gyntaf erioed Frank Warren. Os edrychwch chi ar y rhestr o ffeitiau mawr yn rhaglenni Frank, rhaglenni diweddar, fe welwch chi fod yna gannoedd, ond y ffeit deitl gyntaf erioed iddo’i llwyfannu oedd Colin Jones a Don Curry yn yr NEC ac roedd honna, credwch neu beidio, yn ffeit bymtheg rownd oherwydd roedd yr IBF, y teitl oedd gan Don Curry, yn gorfod bod yn bymtheg rownd. Newidion nhw hynny yn fuan wedyn. Ro’n i’n meddwl y byddai hynny’n fy siwtio i ond, yn anffodus, fe ddaeth yn rhy hwyr yn fy ngyrfa. Ges i fwy nag un briw drwg arall, ac roedd un mor ddrwg dros y trwyn, dwi’n meddwl imi gael deuddeg pwyth ynddo. Dyna’i diwedd hi ac roedd yn reit drist i ddweud y gwir, oherwydd roeddwn wedi cael gyrfa reit lwyddiannus fel bocsiwr amatur a phroffesiynol, ac roedd gorffen drwy gael fy atal am y tro cyntaf yn fy holl yrfa, yn fy ffeit olaf, oedd yn ffeit am deitl y Byd, ro’n i’n meddwl fod hynna’n eitha trist. Dywedodd Eddie, "Fe benderfynwn beth sy’n digwydd nesa yn syth ar ôl y ffeit", ond ro’n i’n gwybod yn fy nghalon fod y cyfan ar ben. Doeddwn i ddim yn mynd i gael cyfle arall. Fe ges i nifer o gynigion gan hyrwyddwyr, Frank Warren yn bennaf, a oedd yn dal i feddwl nad o’n i ond dyrnod i ffwrdd o ennill teitl byd. Roedd e wir yn credu hynny, a hyd yn oed pan ro’n i’n dweud mod i wedi cael digon, roedd Frank yn dal i ddweud, "Cer i Sbaen. Fe dala i am wylie i ti. Cer i orwedd yn yr haul. Byddi di’n teimlo’n wahanol pan ddei di nôl", ond wnaeth hynny ddim digwydd. Erbyn i fi ddod nôl, ro’n i’n dal yn amharod i focsio eto. Roedd fy nghorff yn dweud wrtha i mod i wedi cael digon. Mae o naw oed i 25 yn amser hir, a phan rydych chi’n caru bocsio gymaint ag yr o’n i, rhoddais i bopeth iddo, pob cyfle, pob siawns, rhoddais y cyfan i mewn, ac yna disgyn ar y rhwystr olaf, pan o’n i ar lwyfan mawr pencampwriaethau’r byd. Un gornest gyfartal am deitl y byd, a cholli dwy, ac, i fi, roedd hynna’n fethiant. i ble nawr? Felly, i ble rych chi’n mynd ar ôl hynna? Mae’n anodd iawn achos, pan rydych chi’n hyfforddi ddwywaith y dydd, bron bob dydd o’ch bywyd, o’ch bywyd bocsio beth bynnag, mae yna wacter mawr. Beth ych chi’n ei wneud? A dwi’n meddwl mai dyna yw problem 95% o focswyr. Dydyn nhw ddim yn llenwi eu bywydau â rhywbeth, dydyn nhw ddim yn llenwi’r bwlch hwnnw, y bwlch sydd yn eu bywydau, ac yn anffodus, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn agor tafarn, rhai wedyn yn agor bwyty. Dwi ddim yn meddwl mod i’n nabod unrhyw gyn-focsiwr sy’n gallu ymdopi â bod yn landlord neu redeg tafarn neu fwyty. rhoi rhywbeth yn ôl Felly, fe ges i amser allan o focsio, treuliais i amser braf gyda’r teulu am nifer o flynyddoedd, ac wrth gwrs, roeddwn i’n dal i gadw cysylltiad â’r clwb bocsio lleol, ‘y sied’ fel maen nhw’n ei alw. Dwi dal i gymryd rhan fawr yno ac rydym yn ceisio cael grantiau mawr sy’n anodd eu cael y dyddiau hyn. Rydyn ni’n dibynnu ar grant mawr i chwalu’r hen adeilad prefab a chodi clwb bocsio pwrpasol newydd sbon i’r gymuned. Dwi’n meddwl fod arna i hynny iddyn nhw oherwydd y safon byw y mae bocsio wedi’i roi i fi. Dwi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Dwi newydd gael gwaith hyfforddi yng Nghymru, sef edrych ar ôl datblygu a’r tîm cenedlaethol. Dwi wedi cael bywyd newydd, os hoffech chi. Mae’n dda trosglwyddo’r wybodaeth rydych chi wedi’i chasglu yr holl flynyddoedd yna yn y gamp, nid yn ystod ffeitiau yn unig ond profiad bywyd. tri gair Tri gair i ddisgrifio fy hun? Anodd iawn. Allwn i byth ei ddweud mewn tri gair ond gallaf ddweud mai dim ond un clwb bocsio ges i erioed; dim ond un hyfforddwr; dim ond un rheolwr. A, hyd yn hyn, dim ond un wraig. Felly ffyddlondeb yn sicr, gonestrwydd a disgyblaeth dda.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw