Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

BERWYN PRICE:
hanes neidiwr clwydi


Berwyn Price yw f’enw i. Ganed fi ar 15 Awst 1951, ac rwy’n byw ar hyn o bryd yn West Cross yn Abertawe.

Mae fy holl fywyd wedi troi o gwmpas chwaraeon. Fel plentyn yn yr ysgol, ro’n i’n hoffi chwaraeon o bob math. Ro’n i’n arfer dwlu ar dennis a rhedeg, ac fe chwaraeais i dipyn o rygbi a chriced, hefyd. Wrth imi nesáu at y chweched dosbarth, fe sylweddolais, os oeddwn am fod yn dda mewn unrhyw gamp, y byddai rhaid imi arbenigo. Does dim diben dablo ym mhopeth.

Ydych chi’n cofio boi o’r enw Lynn Davies, neidiwr hir dros Gymru? Fe ennillodd y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 1964. Roedd yn dod o Nant y Moel yn y Cymoedd, ddim mor bell â hynny o’r fan lle ces i fy ngeni a’m magu. Yn 1964, roeddwn i ym Mlwyddyn 4 neu 5 yn yr ysgol. Fe welais orchestion Lynn yn y papurau newydd ac fe ysbrydolodd e fi. Fe feddyliais, “Os gall e wneud hyn o’r Cymoedd, pam na alla innau?!”

un yn erbyn un

Mae’n rhaid mai yn 1970, pan o’n i’n 19, y cymerais ran ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop, a gynhaliwyd ym Mharis. Llwyddais i ennill y ras, ac ennill y fedal aur. Felly, dyna oedd fy nghystadleuaeth fawr gyntaf. Mae’r atgof hwnnw’n un braf iawn i mi, ond mae’n bell yn ôl, 1970. Mae hynny ddeugain mlynedd yn ôl. Rwy’n mynd yn hen, mae’n rhaid!

Fe es i hefyd i Gemau’r Gymanwlad yn 1970 i gynrychioli Cymru, fyny yng Nghaeredin, ac ers hynny rwy wedi bod i Gemau’r Gymanwlad dri thro arall (enillais Gemau’r Gymanwlad dros Gymru yn 1978, yng Nghanada), i Bencampwriaethau Ewrop deirgwaith dros Brydain, y Gemau Olympaidd ddwywaith dros Brydain, Gemau Myfyrwyr y Byd dros Brydain, nifer o bencampwriaethau dan do Ewropeaidd, ac ati, ac ati. Felly, rwy wedi bod yn lwcus iawn. Rwy wedi bod i bedwar ar ddeg neu bymtheg o brif bencampwriaethau dros y blynyddoedd.

Y cystadlaethau caletaf y bues yn cystadlu ynddynt erioed oedd y ddau Gemau Olympaidd. Roedd athletwyr o bob rhan o’r byd yno ac yn ôl yn y ’70au, y ddwy brif wlad oedd Unol Daleithiau America a’r Undeb Sofietaidd. Roedd gan yr Unol Daleithiau athletwyr cenedlaethol gwych. Roedd gan wledydd Dwyrain Ewrop, yn cynnwys yr Undeb Sofietaidd, rai athletwyr a oedd, o edrych yn ôl, yn arfer cymryd cyffuriau, felly roedd yn galed iawn, iawn, a dyna pam na enillais i erioed fedal yn y Gemau Olympaidd. Dylai fod yn fater o un dyn neu un ddynes yn erbyn y llall ac rwy’n gobeithio’n fawr y gallwn gael trefn ryw ddiwrnod ar bawb sy’n twyllo, fel bod pawb yn cael yr un chwarae teg.

Faint oedd f’oed i pan es i i’r Gemau Olympaidd gyntaf? Roedd hynny yn 1972, felly ro’n i’n 21. Roedd yn brofiad aruthrol. Roeddwn yn cael fy nghyfri ymysg y deg gorau yn y byd, ond fues i erioed yn ddigon da i ennill medal. Y llwyddiant mwyaf, a’r mwyaf cofiadwy, oedd ennill Gemau’r Gymanwlad dros Gymru yn 1978.

Mewn athletau, rydych ar eich pen eich hun. Mae lan i chi. Er mwyn perfformio ar eich gorau, rwy’n meddwl fod angen rhywfaint o nerfau arnoch, bod ar bigau’r drain. Ro’n i’n arfer mynd yn nerfus iawn, a rhyw ddwy neu dair awr ymlaen llaw, byddwn yn meddwl wrthyf fy hun, “Be dwi’n neud? Pam dwi yma? Pam dwi yma?”.

Rwy wedi bod yn lwcus iawn. Rwy wedi teithio llawer o gwmpas y byd drwy’r gamp. Yr unig gyfandir nad ydw i wedi bod iddo yw Antarctica. Rwy’n meddwl mai’r lle a fwynheais fwyaf oll oedd Seland Newydd. Es yno ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn 1974, i le o’r enw Christchurch. Enillais y fedal arian yno.

Rhaid imi ddweud nad yw fy holl fedalau allan yn cael eu harddangos. Mae gen i focs sgidiau mawr yn yr atig a dyna lle maen nhw’n casglu llwch.

farnais ewinedd a guinness

Rwy’n cofio unwaith rhedeg dros Gymru yn Luxembourg, ac roeddem yn cystadlu yn erbyn tîm o Iwerddon, oedd yn adnabyddus am ei hiwmor. Ro’n i’n rhedeg mewn ras gyfnewid 400 metr. Wel, doedd dim batonau gennym i’w defnyddio wrth gynhesu. Roedd gan y Gwyddelod botel o Guinness, ac fe ddefnyddion nhw honno fel baton. Ond doedden nhw ddim yn hollol ddwl. Fe yfon nhw’r Guinness yn gyntaf!


Dro arall, roeddwn yn cystadlu – eto, rwy’n dangos f’oed, nawr – yn Nwyrain Berlin mewn cyfarfod dan do. Roedd Prydain Fawr yn cystadlu yn erbyn Dwyrain yr Almaen, a glaniodd ein hawyren yng Ngorllewin Berlin. Arferai Mur Berlin wahanu’r ddinas. Roedd yn gomiwnyddol ar un ochr a Gorllewinol yr ochr arall. Well, roedd rhaid mynd drwy’r Mur mewn man a gâi ei alw’n Checkpoint Charlie, ac roedd tanciau yno a gwarchodwyr gyda pheirianddrylliau bychain a phopeth.

Ar y ffordd yn ôl, roeddem wedi cael parti ar ôl y gystadleuaeth – oherwydd yn Nwyrain yr Almaen does dim llawer i’w wneud ac roedd tîm Dwyrain yr Almaen wedi mynd adref yn gynnar - felly, roedd rhaid inni greu ein hadloniant ein hunain. Rhoesom enwau gwahanol artistiaid mewn het ac roedd rhaid inni eu tynnu allan bob un ac actio’r person hwnnw. Fe dynnais i enw Danny La Rue, sef dyn sy’n esgus bod yn fenyw, felly roedd y menywod yn y tîm wedi fy ngwisgo mewn masgara, minlliw, colur llygaid a’r cwbl, ac ewinedd coch llachar. Cawsom ddigon o hwyl, a ches fath wedyn a chael gwared y cwbl, ond allwn i ddim cael gwared y farnais ewinedd a doedd gan neb stwff codi farnais. Allwch chi ddychmygu hynny? Felly, wrth fynd nôl drwy Checkpoint Charlie, gyda’r holl warchodwyr chwyrn hyn gyda’u peirianddrylliau bychain, dyna lle’r oeddwn i, yn rhoi fy mhasport iddynt gydag ewinedd coch llachar. Wyddoch chi beth oedd fy llysenw yn nhîm Prydain ar ôl hynny? Roedden nhw’n fy ngalw’n Blodwyn, nid Berwyn. Dyna oedd fy llysenw. Blod!

Felly, fe gawsom amseroedd da. Ond wna i ddim dweud wrthych am y tro y bu rhaid imi rannu gwely dwbl gyda Geoff Capes, taflwr maen chwe throedfedd chwe modfedd, pum stôn ar hugain!

Cymru

Yn amlwg, yn y Gemau Olympaidd dydych chi ddim yn cynrychioli Cymru. Rydych yn cynrychioli Prydain Fawr. Felly, er mai Cymro oeddwn i, ro’n i’n rhan o dîm Prydain Fawr pan es i’r Gemau Olympaidd yn ’72 a ’76.

Rwy’n credu fod llwyddiant Cymru, fel rhan o dîm Prydain yn Beijing, yn wych i’r genedl gyfan, i Gymru ac i Brydain. Yn sicr, roedd gweld Nicole Cooke yn ennill y fedal gyntaf honno i Brydain yn y ras beicio ffordd yn achlysur arbennig. Rwy’n credu fod y diddordeb a’r hwb a roddodd ein cystadleuwyr yn Beijing i’r wlad gyfan yn esiampl o ba mor bwysig y gall chwaraeon fod nid yn unig o ran lles y wlad ond hefyd o ran annog pobl i gymryd rhan, cadw pobl yn fwy ffit, cadw pobl yn iachach, a lleihau’r baich ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Trueni nad oes mwy o ymdrech yn cael ei gwneud i ddenu pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn hytrach na dim ond eu gwylio ar y teledu neu o’r terasau.

gwaddol?

Un pryder sydd gen i ynglŷn â Llundain 2012 yw’r holl siarad am waddol. Mae’n cymryd llawer o amser, mae’n cymryd llawer o ymdrech, mae’n cymryd llawer o arian i wneud yn siŵr ein bod yn denu mwy a mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, yn sgil y cyffro o ymwneud â Llundain 2012.

Rwy dipyn bach yn bryderus fod cymaint o arian yn cael ei wario ar y pen uchaf ac nad oes digon yn cael ei rannu ar y gwaelod. Nhw fydd ein pencampwyr yn y dyfodol, cofiwch, yn 2016 neu 2020. Gadewch inni wario’r arian hwnnw, nawr. Rhown gyfle i’n pobl ifanc nawr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw