Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

ANDREW MORRIS
hanes gymnastwr

Andrew Morris ydw i. Gymnastwr oeddwn i, a bues yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn 1984 (Los Angeles) ac 1988 (Seoul). Cefais fy ngeni yn Abertawe, ac rwy wedi byw yma drwy f’oes. Rwy wedi teithio’r byd drwy’r gamp, ond rwy’n dal i fyw yn Abertawe oherwydd mae’n lle gwych i fyw.

Dechreues wneud gymnasteg yn un o ysgolion uwchradd Abertawe pan oeddwn yn un ar ddeg, sy’n weddol hen i gymnastwr. Ces anogaeth gan f’athro Addysg Gorfforol. Leigh Jones oedd ei enw e, ac roedd yn gymnastwr cystadleuol ei hun ar y pryd. Fe’m hysbrydolodd i. Rhaid ei fod wedi gweld rhywbeth ynof. Ar y pryd, roeddwn yn gwneud chwaraeon eraill, yn chwarae pêl-droed, a’r unig reswm yr es i i gymnasteg oedd mod i’n mwynhau’r amrywiaeth a roddai imi.

Hyfforddi

Yn fy nghyfnod i, roedd gan fy hyfforddwr personol swydd, felly dim ond gyda’r nos y gallai fod gyda fi. Roeddwn yn arfer hyfforddi yn y bore am dair awr a gwneud tair awr arall wedyn bob min nos, ac roeddem yn gwneud hynny bump neu chwe diwrnod yr wythnos, yn drwyadl. Mae’n cymryd llawer o waith.

Ar ochr y dynion, mae gennym chwe disgyblaeth – y llawr, y ceffyl pren, cylchynau, llofnaid, barrau cyflin a’r bar uchel. Nid yw’r un fath â phêl-droed lle nad oes ond un sgìl. Yr amrywiaeth oedd yn fy niddori i.

Os ydych chi’n gwneud chwaraeon, rydych yn gwneud hynny 100%. Does dim diben ei wneud 50%, oherwydd rydych yn gwastraffu’ch amser. Felly, rydych yn ei wneud 100% ar y pryd ac yna’n edrych ar eich gyrfa ac yn penderfynu pryd i orffen. Rydych yn canolbwyntio 100% tan yr adeg honno.

Diet

Mae bwyd yn wirioneddol bwysig. Beth bynnag ydych chi’n ei wneud mewn gymnasteg, rydych yn cario pwysau’ch corff drwy’r amser. Rydych yn codi pwysau’ch corff, felly, os ydych yn bwyta’r bwydydd anghywir a’ch bod chi’n rhy drwm, mae’n fwy anodd cystadlu a hyfforddi. Yr hyn mae rhaid ei wneud yw cael diet cytbwys sy’n rhoi digonedd o egni ichi heb roi llawer o startsh, bwyd sy’n mynd i eistedd arnoch chi.

Ennill

Camp unigol yw gymnasteg. Mae pawb eisiau bod y gorau, felly, er eich bod yn cystadlu mewn tîm, rhaid ichi roi perfformiad unigol. Mae’n wahanol i gamp fel rygbi lle gallwch gael gêm sâl a dal i ennill neu gael gêm dda a cholli. Gyda gymnasteg, yr hyn rydych chi fel unigolyn yn ei wneud sy’n cyfri. Rydych yn gyfeillgar gyda’r cystadleuwyr eraill i gyd ac rydych am i’ch gwlad wneud yn dda, ond rydych hefyd eisiau bod yn well na’r lleill. Dyna yw’r elfen gystadleuol.

Cystadlu

Yr achlysur cofiadwy cyntaf o bwys i mi oedd ennill fy Mhencampwriaeth Brydeinig gyntaf. Yr ail un oedd cael fy newis gan fy ngwlad i’w chynrychioli yn y Gemau Olympaidd. Fy nghystadleuaeth fawr gyntaf, y tu allan i Brydain, oedd Pencampwriaethau’r Byd yn 1981, ym Moscow, yn yr Undeb Sofietaidd. Rwy hefyd wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad, Pencampwriaethau Ewrop, Pencampwriaethau’r Byd ac yna, y mwyaf ohonynt oll, y Gemau Olympaidd.

Rwy wedi ennill nifer dda o deitlau ym Mhencampwriaethau Cymru, deg yn olynol. Enillais bum Pencampwriaeth Brydeinig yn olynol, a bues yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop a fi ddaeth uchaf o blith gymnastwyr y Gorllewin. Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau wedi mynd â fi i bob rhan o’r byd. Rwy wedi bod i’r rhan fwyaf o Ewrop, y rhan fwyaf o wledydd y Bloc Sofietaidd, yn ogystal â De Affrica, Japan, China, Awstralia ac America. Seland Newydd oedd fy ffefryn.

Mae’n debyg mai Gemau Olympaidd Seoul (1988) oedd y gystadleuaeth anoddaf i mi. Roeddent yn Gemau Olympaidd mawr a golygai hynny fod y gwledydd i gyd yno, y Gemau Olympaidd mwyaf ers y boicotio yn 1980 ac ’84. Hefyd, cefais anaf wrth hyfforddi tra oeddwn allan yno, felly, dridiau cyn y cystadlu, roeddwn yn dioddef. Roedd yn fater o wella a cheisio bod yn barod ar gyfer yr achlysur.

Rydych bob amser yn nerfus yn y cystadlaethau. Y cyfan yr arferwn i ei wneud wrth sefyll ar bodiwm mewn cystadleuaeth fawr oedd meddwl, “Wel, rwy wedi gwneud yr holl hyfforddiant cefndir, rwy wedi gwneud yr holl waith yn y gampfa, wedi gwneud yr holl rwtîns sydd eu hangen arnaf. Os aiff rhywbeth o chwith, yna mae’n mynd i fynd o chwith. Jyst dalia i fynd”.

Breuddwydion

Mae gymnasteg yn wahanol. Mae’n dechnegol iawn. Mae’n anodd dod o’r tu allan i gymnasteg a dysgu sut mae rhoi’r sgiliau i’r plant heb fod wedi’i deimlo eich hun. Mae angen cael y teimlad o fod ben i waered, ac ofn arnoch. Teimlo’r gamp yn gorfforol. Wedi treulio’ch bywyd yn dysgu sgiliau technegol gymnasteg, mae gennych lawer o wybodaeth ac mae’n wastraff peidio â mynd ymlaen i hyfforddi. Rwy wedi cael rhai llwyddiannau. Roedd gen i dri gymnastwr a aeth i Gemau’r Gymanwlad ac mae un o’r rheini wrthi’n hyfforddi gymnastwr arall sy’n mynd i Gemau Cymanwlad eraill. Rydych wedi trosglwyddo sgiliau i’ch perfformwyr ac maen nhw’n cario hynny ymlaen, ac mae hynny wedi bod yn wych, mae’n rhywbeth rydw i’n ymfalchïo’n fawr ynddo, a dweud y gwir.

Fy mreuddwyd i yw cyflwyno cynifer â phosib o bobl i’r gamp sydd wedi rhoi ffordd mor dda o fyw, ac atgofion gwych, i mi. Ar ôl ymddeol o gystadlu, fe es i i hyfforddi ac yna o hyfforddi i weinyddu a rheoli, gan ganiatáu i bobl eraill ddod â hyfforddwyr a gymnastwyr drwodd fel y gallan nhw brofi byd gymnasteg fel y gwnes i.

Byddwn yn dweud wrth y rhan fwyaf o rieni, rhowch eich plant mewn gymnasteg cyn ysgol, yr hyn sy’n cael ei alw’n Tumblies. Gallant wneud hynny rhwng un a thair oed, fel eu bod yn dysgu sut i drafod eu corff, sut i gydsymud. Mae’n sylfaen i bob math arall o chwaraeon.

Nawr rwy’n gweithio gyda Chyngor Dinas Abertawe fel Swyddog Datblygu Chwaraeon. Fi sy’n rhedeg Canolfan Gymnasteg Abertawe. Rydym ar fin cyflogi cyd-drefnydd gymnasteg hamdden fydd yn mynd i’r holl ysgolion, yr holl ganolfannau hamdden, i gyflwyno plant yn gynharach i gymnasteg a chystadlaethau gymnasteg rhwng ysgolion a chanolfannau hamdden.
Yn genedlaethol, dyw gymnasteg erioed wedi cael proffil uwch gyda Phencampwriaethau Ewrop a’r Byd yn Llundain yn ddiweddar, a gymnastwyr Prydain yn ennill medalau, cyn y Gemau Olympaidd. Mae’r proffil yn cynyddu. Fydd gymnasteg byth yn un o’r prif gampau, fel pêl-droed, rygbi, tennis, ond mae’n sicr yn dod yn fwy poblogaidd.

2012

Mae’n wych fod Cymru wedi cael y canlyniad a gafodd yn Beijing, ar sail y buddsoddiad a wnaeth yng nghyfnod paratoi ar gyfer y Gemau. Mae’n wych i’r genedl, yn fy marn i. Gwlad fach yw Cymru o fewn Prydain Fawr, 5% o’r boblogaeth, rwy’n meddwl. Er mwyn i ni gyflawni, y cyfan mae rhaid inni ei wneud yw sicrhau bod 5% o dîm Olympaidd Prydain yn dod o Gymru, ond rydym yn cyflawni y tu hwnt i hynny. Mae gennym fwy a mwy o athletwyr.

Nawr mae Cymru’n ceisio cael cynifer â phosib o gymnastwyr, athletwyr, nofwyr a phobl o gampau eraill i mewn i’r tîm a fydd yn galluogi Prydain Fawr i wneud yn dda yn Gemau 2012. Gyda’r rhain yn Gemau Olympaidd cartref, rwy’n credu ei fod yn gyfle da inni i ennill. Os edrychwch chi ar hanes y Gemau dros y blynyddoedd, mae’n arwain at fuddugoliaethau annisgwyl, oherwydd yr angerdd a deimlwch wrth gystadlu o flaen eich cenedl eich hun.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw