Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

MARTYN WOODROFFE
hanes nofiwr

Fe nofiais i dros Gymru a Phrydain Fawr rhwng 1964 a 1970, yna symudais i fyd gwaith, fel athro ysgol i ddechrau, ond yna bûm yn ddigon lwcus i gael gwaith fel hyfforddwr, ym myd nofio. Felly rwyf wedi hyfforddi sawl un sydd wedi ennill medalau yn y Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad, yn ogystal â symud ymlaen wedyn i fod yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol Perfformiad Nofio Cymru.

Roedd fy nhad eisiau imi ddysgu nofio, ac aeth â fi i Faddonau Guildford Crescent yng Nghaerdydd. Dwi’n cofio mod i tua wyth mlwydd oed. Dysgais nofio yn hawdd ac yn gyflym iawn. Roedd hyn yr un adeg â Gemau’r Ymerodraeth (wedyn y Gymanwlad) 1958, oedd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd. Dydw i ddim yn cofio gweld y nofio ei hun, ond dwi’n cofio mynd i lawr Heol y Santes Fair a gweld yr athletwyr i gyd o bob rhan o’r Gymanwlad yn cerdded o gwmpas, a dyna’r foment wnaeth danio’r awydd ynof i fod yn fabolgampwr.

ennill
Y ras gyntaf ar lefel Brydeinig dwi’n ei chofio oedd yn 1965, pan o’n i’n 15, ac enillais y teitl ASA Iau Cenedlaethol am y pili pala 100m. Ac mae gen i frith gof o feddwl ar y pryd, “Hoffwn i fynd ymlaen i fod yn nofio’n rhyngwladol dros Brydain pan dwi’n hŷn”. Yr hyn a’m sbardunodd i yn 1965, ro’n i’n nofio yn Blackpool, ac yn yr un bencampwriaeth roedd Bobby McGregor, a gallaf ei gofio yn nofio yng Ngemau Olympaidd 1964, a meddyliais, “Wel, yn 1968, gallwn i fod yn gwneud run peth â Bobby McGregor”. Meddyliais, “Ie, gallwn i falle fod yn nofiwr ar y lefel yna”. Roeddwn i’n un o’r bechgyn ifanc hynny gyda breuddwydion mawr a bûm i’n ddigon ffodus i wireddu’r rhan fwyaf ohonyn nhw. Dwi’n ystyried fy hun yn lwcus iawn, oherwydd roedd gan Gaerdydd, lle cefais fy magu, bwll 50m yn yr Empire Pool. Roedd gennym ni hefyd Faddonau Guildford Crescent a Baddonau Penarth, ac roeddwn yn gallu defnyddio’r cyfleusterau yna i gyd i hyfforddi. Roedd gan fy rhieni gar ond doedden nhw ddim yn mynd â fi i’r pwll, felly roeddwn i’n mynd ar fy meic nôl a `mlaen o’r pwll, i’r sesiynau bore cynnar a’r sesiynau prynhawn.
cefnogaeth

I mi, y gwahaniaeth mwyaf rhwng yr adeg ro’n i’n hyfforddi a heddiw oedd nad oedd hyfforddwr gen i, am y rhan fwyaf o’m gyrfa nofio. Ond ni fyddai’r fath beth yn digwydd heddiw. Caiff y rhan fwyaf o nofwyr eu hyfforddi naill ai mewn clybiau nofio perfformiad uchel neu mewn canolfannau hyfforddi dwys lle mae ’na hyfforddwyr proffesiynol llawn amser. Ond yn f’amser i, roedd hi’n fater o, os oeddech chi eisiau bod yn dda, roedd yn rhaid ichi gario mlaen a gwneud hynny drosoch eich hun. Heddiw, mae ein nofwyr wedi’u hamgylchynu gan seicolegwyr chwaraeon, ffisiolegwyr chwaraeon, meddyg, maethegwr, y rheina i gyd. Fy maethegwr i oedd fy mam, fy seicolegydd oedd fy nhad, felly mae hi ychydig yn wahanol, ond y peth allweddol oedd gwaith caled, ac roedd hynny’r un fath yn 1968 ag yw heddiw. Dwi ddim yn un o’r bobl hynny sy’n credu fod pethau’n well ers lawer dydd. Dwi wedi gweld pobl yn symud o’r cyfnod amatur i’r proffesiynol, ac, i ddweud y gwir, os ydych am ennill medal Olympaidd, mae angen ichi fod yn nofiwr proffesiynol llawn amser fwy neu lai. Dwi ddim yn beio neb am gymryd yr arian am rywbeth maen nhw’n ei wneud yn dda. Fe gewch nifer o bobl yn dweud, “Dydy hi ddim cystal achos dydy nofwyr ddim yn ei wneud am y rhesymau iawn”. Dwi ddim yn credu hynny. Mae’r nofwyr gwych yn wych waeth ym mha gyfnod maen nhw’n byw. Ac, mae’n wir eu bod yn cael eu talu'r dyddiau hyn, ond, ag ystyried yr amser maen nhw’n gorfod ei dreulio yn y pwll, nid yw ond yn deg eu bod nhw’n ennill bywoliaeth.

curo lloegr
Roeddwn i’n lwcus iawn. Nofiais yng Ngemau’r Gymanwlad, y Gemau Gymanwlad cyntaf, yn 1966 yn Jamaica. Enillais i ddim medal, ond es i’r ras derfynol, a byddwn yn dweud mai nofiwr rhyngwladol cyffredin oeddwn i. Roedd 1968 yn wahanol imi yn naturiol, oherwydd mi wnes i ennill medal ac roedd dod yn ail yn y Gemau Olympaidd (Mécsico 1968) yn ffantastig.
Y foment bwysicaf i unrhyw gystadleuydd Olympaidd yw ennill medal Olympaidd. Nid oes unrhyw gystadleuaeth arall mor fawr â hon. Yn ffodus, ar y pryd, wnes i ddim meddwl gormod am, “O, dwi yn y Gemau Olympaidd!”.
Ond, wrth feddwl amdano wedyn, mae’n gystadleuaeth frawychus i fod ynddi, i’ch gosod eich hun yn erbyn y gorau yn y byd, yr un foment yna mewn amser, ac i ddod oddi yno gyda medal! Dwi’n meddwl weithiau fod y bobl hyn yn fwy na dynol. Dydw i ddim yn gallu credu o hyd fod hyn wedi digwydd i fi.
Yn y Gemau Olympaidd, fe nofiais i mewn tair ras arall, y dull cymysg unigol, y pili pala 100m, yn ogystal â’r pili pala 200m. Y pili pala 200 oedd f’arbenigedd i. Tan hynny, doeddwn i ddim wedi nofio’n arbennig o dda, felly mae’n debyg nad oedd disgwyl imi ennill medal. Ond, ar ôl y rhagras, a oedd yn ras gyffyrddus imi, gallaf gofio meddwl, rhwng rhagrasys y bore a’r ffeinal gyda’r nos, “Dwi’n bendant yn mynd i ennill medal, yma”. Doedd dim byd arall yn croesi fy meddwl ond ennill y ras. Roeddwn yn y ras gyda Mark Spitz ac, wrth gwrs, roedd ef wedi cael Gemau eitha siomedig, ond roedd pawb yn dal i ddisgwyl iddo ennill y ras honno. Yn ffodus, roeddwn yn y lôn nesaf at Americanwr arall, dyn o’r enw Carl Robie, ac ef oedd y person roeddwn i’n meddwl oedd yn mynd i ennill. Felly, dewisais yr enillydd ac roeddwn yn gallu rasio’n syth yn ei erbyn ef gan wybod, dim ond imi gadw i fyny ag ef, y byddwn yn ennill medal. Yn ffodus, digwyddodd y ras fel roeddwn wedi’i dychmygu; aeth popeth yn ôl y cynllun oedd gen i yn fy mhen. Hyd yn oed nawr dwi’n cofio manylion y ras i gyd yn glir fel grisial. Cam-gychwynnodd y tri Americanwr oedd ynddi. A wnaethon nhw hynny i fwrw pobl oddi ar eu hechel, neu ai cyd-ddigwyddiad oedd, dwi ddim yn gwybod. Ond dwi’n cofio meddwl, ar y funud honno, “Mae gennych chi fechgyn fwy o ofn hon na fi”. Dwi’n cofio meddwl, “Mae 'na ddau Rwsiad yn y ras. Maen nhw ar ochr bella’r pwll. Maen nhw’n mynd i fod allan o’r ras yma. Dydyn nhw ddim yn mynd i fod yn rhan ohoni o’r dechrau”. Felly, yr holl dactegau yna a’r ras ei hun, gallaf eu gweld nhw yn fy meddwl, nawr.

Yna, nofiais yng Ngemau’r Gymanwlad 1970 yng Nghaeredin a dwi’n edrych ar y Gemau hynny fel rhai siomedig a llwyddiannus yr un pryd. Wnes i ddim ennill medal aur, enillais i fedal arian eto, a medal efydd unigol. Ond yr uchafbwynt i mi, sy’n dal i fod yn ail foment orau fy ngyrfa fel nofiwr, oedd Ras Gyfnewid Dull Cymysg 4x100 y dynion. Cawsom fedal efydd. Dyna’r unig dro erioed inni guro Lloegr, ac, wrth gwrs, bydd hynny’n fyw yn fy ngof am byth.

Nid yw ennill yn boenus, dim ond pan fyddwch chi’n colli ras mae’r boen yn dod i’r amlwg! Wrth gwrs, mae llawer o ofynion o ran yr hyfforddiant a’r ymdrech gorfforol yn y ras. Dwi’n cofio bod wedi blino’n lân ar ddiwedd y ffeinal Olympaidd, ond pwy sy’n poeni am hynny pan mae gennych fedal am eich gwddf! Mae’r rhan fwyaf o’r boen gorfforol yn dod yn y paratoi, nid yn y ras ei hun.
cymru

Rydw i’n Gymro balch! Mae tair baner Cymru gen i yn y garej – y Ddraig Goch, a baneri Owain Glyndŵr a Dewi Sant. Dwi’n gwybod hanes fy nghamp yng Nghymru, a dwi’n falch iawn, iawn, o fod yn Gymro. Mae pawb yn gwybod eich bod yn nofio dros Brydain yn y Gemau Olympaidd. Ond mae 'na ail beth, sef, “Dwi’n cynrychioli fy mamwlad hefyd”, a dwi’n meddwl ei bod yn deg dweud fod yr Albanwyr a’r Cymry yn cydnabod eu bod yn nofio dros eu mamwlad yn fwy na’r nofwyr o Loegr, sy’n meddwl fod nofio dros Brydain yr un fath â nofio dros Loegr. Rydyn ni’n gwybod nad felly mae hi.

gosod targedau uchel
Roedd yr hyn a gyflawnwyd yn Beijing yn syfrdanol. Dwi’n meddwl mai’r peth anodd fydd cynnal hynny yn Llundain a gweld a allwn ei gynnal yn y Gemau Olympaidd wedi hynny hefyd. Oherwydd rydym bellach yn gosod targedau uchel iawn, iawn i’n hunain a dwi’n meddwl ei bod yn deg dweud fod Prydain, nid mewn un neu ddwy gamp yn unig, yn dod yn genedl o fabolgampwyr o fri. Rydym wastad wedi bod eisiau gwneud yn dda, a nawr rydym yn dod yn dda iawn yn yr hyn rydym yn ei wneud, a dwi’n meddwl y bydd cynnal hynna yn her wirioneddol inni.

Roedd penderfyniad y Llywodraeth i ddefnyddio arian loteri i helpu pobl i hyfforddi’n llawn-amser, a dod i mewn ag arbenigedd hyfforddi, a gwyddor chwaraeon, a’r holl bethau eraill sy’n mynd gyda hyn, yn hanfodol. Fe dreulion ni tua phedair blynedd yn dal i fyny â gweddill y byd ac rydym ar ein hennill erbyn hyn. Mae ffordd bell i fynd o hyd oherwydd mae’r Americanwyr yn dal yn nofwyr anhygoel o gryf, a’r Awstraliaid hefyd. Felly, dydyn ni ddim yno eto, ond mae’r arian loteri wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.

Dwi’n meddwl y bydd Llundain 2012 yn gwneud gwahaniaeth hefyd. Mae pob gwlad sydd wedi cynnal Gemau yn gwella. I fi, y prawf fydd a allwn gynnal hynny yn 2016. A’r prawf mawr arall, dwi’n meddwl, yn sicr i nofio ym Mhrydain ac efallai i’r campau eraill hefyd, yw ein bod wedi dod â llawer o arbenigedd i mewn o Awstralia, ac o America. Pan fydd y bobl hyn yn mynd adref, mae’n rhaid inni fod wedi gwneud yn siŵr ein bod wedi datblygu ein hyfforddwyr ein hunain, ein bod wedi datblygu ein pobl ein hunain, fel y gallwn benodi pobl o’r radd flaenaf o Gymru i wneud swyddi yng Nghymru, pobl Brydeinig ardderchog i wneud swyddi Prydain. A dwi’n meddwl mai dyna un o’r heriau strategol mwyaf sy’n ein hwynebu.
Roedd yna bedwar nofiwr a enillodd fedalau yng Ngemau Olympaidd Beijing – Rebecca Adlington, David Davies, Cassie Patten a Keri-Anne Payne. Nawr, dwi’n credu, wrth ysgrifennu hwn, bod yna chwe nofiwr, a hynny heb gynnwys y rhai dwi newydd sôn amdanyn nhw, chwe nofiwr arall, sydd â’r gallu i ennill medalau. Felly, dwi’n meddwl y dylen ni fod yn hyderus. A pham ddim anelu at y lefel yna? Byddai’n well gen i anelu at wyth medal aur a chael chwech nag anelu at dair a dod nôl â dwy.

y gemau paralympaidd
Dwi’n meddwl fod yr her i’r Gemau Paralympaidd ychydig yn wahanol, oherwydd, fel gwlad, rydym wedi arwain y ffordd mewn chwaraeon Paralympaidd. Rydym bob amser wedi ennill cryn dipyn o fedalau yn y Gemau Paralympaidd. Dwi’n meddwl fod gwledydd eraill yn dechrau dal i fyny erbyn hyn. Felly, bydd y gwrthwyneb yn wir: fydd hi ddim yn arwydd o fethiant yn fy marn i os ydym yn ennill llai o fedalau yn y Gemau Paralympaidd gan fod gweddill y byd yn dechrau cymryd y Gemau hyn yn fwy o ddifri. Felly, nid mater o geisio ennill mwy o fedalau fydd hi i’r tîm Paralympaidd, ond ceisio aros lle maen nhw nawr. A hyd yn oed os ydyn nhw’n ennill ychydig llai o fedalau, ddylen ni ddim ystyried hynny’n fethiant. Dwi’n siŵr y byddwn ni’n iawn ar gyfer Llundain 2012, ond gallai fod yn ddarlun gwahanol erbyn 2016.

Dwi’n meddwl mai’r peth gwych o safbwynt Cymreig yw proffil uchel y Paralympiaid ymhlith pobl Cymru. Mae gennym ni Tanni Grey-Thompson, mae gennym ni David Roberts, mae gennym ni Gareth Duke. Mae’r rhain yn bobl rydyn ni’n eu nabod, ac maen nhw’n Gymry. Ac wedyn mae gennym ni’r ferch fach ’na, Ellinor Simmons, sy’n dod o Loegr, o Sir Warwick, ond yn hyfforddi yng Nghymru, felly mae hi’n cael ei chydnabod fel rhan hanfodol o nofio Cymru.

o nofiwr i hyfforddwr
Dydych chi ddim yn cael yr un wefr ag wrth nofio eich hun. Ond mae yna falchder pendant os ydych wedi cyfrannu at lwyddiant rhywun arall yn ennill medal. Felly, mae’r wefr yn wahanol, ond mae hi yno o hyd. Gallwch chi nofio dros Gymru os oes gennych chi rieni Cymraeg. Felly, gallech fod wedi’ch geni yn Lloegr, ond cyn belled â bod un o’ch rhieni’n Gymro neu’n Gymraes, rydych yn gymwys i nofio dros Gymru. Yn y sefyllfa honno, pan maen nhw’n dod i mewn i’w gwersyll hyfforddi cyntaf, rydym yn gwneud yn siŵr eu bod yn rhannu ystafelloedd gyda Chymry Cymraeg, nofwyr sy’n siarad Cymraeg. Rydym yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod geiriau’r Anthem Genedlaethol; dydyn nhw ddim yn cael dweud ‘Good morning’, ‘Good afternoon’ a ‘Good evening’, maen nhw’n gorfod dweud ‘Bore da’, ‘Prynhawn da’ a ‘Nos da’; ac rydym yn gwneud yn siŵr hefyd eu bod yn gwybod rhywfaint am ddiwylliant Cymru, fel eu bod yn gwybod y gwahaniaeth rhwng baner Cymru, baner Owain Glyndŵr a chroes Dewi Sant, oherwydd dwi’n credu, os ydyn nhw eisiau nofio dros Gymru, mae’n rhaid iddyn nhw deimlo’n angerddol am nofio dros Gymru.

Dydyn nhw ddim yma i nofio dros Gymru oherwydd nad oedden nhw’n ddigon da i Loegr. Rydym yn ceisio mynnu’r lefel yna o ymroddiad i’r wlad.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw